Cyngor cadwraeth ar gyfer safleoedd morol Ewropeaidd (Rheoliad 37)
Cynhyrchir cyngor ar gadwraeth forol o dan Reoliad 37 (3) o’r Rheoliadau Cynefinoedd.
Mae ein pecynnau cyngor cadwraeth yn hanfodol os ydych chi’n:
- datblygu, cynnig neu asesu gweithgaredd, cynllun neu brosiect a allai effeithio ar nodweddion gwarchodedig Safle Morol Ewropeaidd
 - paratoi asesiadau rheoliadau cynefinoedd neu asesiadau o’r effaith amgylcheddol ar gyfer cynlluniau neu brosiectau arfaethedig a allai effeithio ar nodweddion gwarchodedig Safle Morol Ewropeaidd
 - cynllunio mesurau i gynnal neu adfer Safle Morol Ewropeaidd a’i nodweddion gwarchodedig
 - cyflawni unrhyw weithgaredd a allai effeithio ar nodweddion gwarchodedig Safle Morol Ewropeaidd ac angen darganfod sut i weithredu o fewn y gyfraith
 - monitro a/neu asesu cyflwr y nodweddion gwarchodedig
 
Mae gwybodaeth ychwanegol am ddefnyddio cyngor cadwraeth ar gyfer datblygwyr ar wefan y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur.
Adroddiadau cyngor cadwraeth
Mae’r fersiynau diweddaraf isod yn ddiweddariadau ac yn ddiwygiadau cyflawn o unrhyw gyngor cynharach a ryddhawyd, a rhaid eu defnyddio nawr yn lle’r cyngor hwnnw.
Ardaloedd gwarchodedig arbennig (AGAau)
- AGA Bae Caerfyrddin
 - AGA Cilfach Tywyn
 - AGA Môrwenoliaid Ynys Môn
 - AGA Gogledd Bae Ceredigion
 - AGA Gwales
 - AGA Traeth Lafan
 
Ardaloedd cadwraeth arbennig (ACAau)
- ACA Bae Ceredigion
 - ACA Bae ac Aberoedd Caerfyrddin
 - ACA Bae Cemlyn
 - ACA y Fenai a Bae Conwy
 - ACA Sir Benfro Forol
 - ACA Pen Llŷn a’r Sarnau
 
Gweler yr adroddiadau asesu cyflwr cysylltiedig ar gyfer safleoedd morol Ewropeaidd.
                
Diweddarwyd ddiwethaf