Asesiadau cyflwr dangosol nodweddion ar gyfer safleoedd morol (EMS)

Pam ein bod wedi cynhyrchu asesiadau cyflwr dangosol nodweddion?

Mae glannau a moroedd amrywiol Cymru yn cynnal cyfoeth o gynefinoedd a rhywogaethau, yn cynhyrchu incwm i economi Cymru, ac yn rhan allweddol o’n diwylliant, hanes, tirwedd a hamdden.

Mae’n hanfodol rheoli’r gweithgareddau a’r defnydd amrywiol a wneir o’r amgylchedd morol yn effeithiol os am ddiogelu ein bywyd gwyllt morol a’n morweddau rhyfeddol. Mae yr un mor bwysig gwneud hynny er mwyn diogelu dyfodol y diwydiannau hynny sy’n dibynnu ar y glannau a’r môr. Er mwyn blaenoriaethau gweithgareddau, mae’n bwysig deall cyflwr nodweddion ein hardaloedd morol gwarchodedig dynodedig.

I’r perwyl hwnnw, rydym wedi cynhyrchu asesiadau cyflwr dangosol ar gyfer nodweddion yn safleoedd morol Ewropeaidd Cymru – dyma’r Ardaloedd Gwarchod Arbennig (AGAau) a’r Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACAau) sydd wedi’u dynodi ar sail nodweddion o bwys Ewropeaidd a rhyngwladol.

Sut wnaethon ni eu cynhyrchu?

Roedd maint, cymhlethdod a swmp y wybodaeth i’r safleoedd hyn (mewn rhai achosion) yn golygu bod proses adrodd gyflawn yn anymarferol ac yn anghynaladwy yn y tymor hwy. O ganlyniad, rydym wedi cynnal proses fyrrach o lawer y tro hwn, gan ddefnyddio cymysgedd o dystiolaeth sydd eisoes ar gael, gweithdai cydweithredol a chyfunol, ac ymarfer sicrhau ansawdd allanol, er mwyn llywio ein casgliadau; o ganlyniad, rydym yn cydnabod mai asesiadau dangosol yn unig yw’r rhain.

Isod, rhoddir diffiniad o asesiad cyflwr dangosol.

Asesiadau cyflwr dangosol: Diffiniad a defnydd

Mae’r term ‘asesiad cyflwr dangosol’ yn disgrifio’r defnydd o dystiolaeth sydd eisoes ar gael ynghyd â barn arbenigol mewn proses cynnal gweithdai dwys a chyfunol er mwyn darparu arwydd o gyflwr nodweddion ar lefel safle.

Mae’r raddfa hyder sy’n gysylltiedig â’r asesiadau yn rhan annatod o’r asesiad dangosol. Felly dylid cyfeirio bob amser at lefelau hyder asesiadau nodwedd ynghyd â chanlyniad y cyflwr dangosol, a dylid hefyd gynnwys diffiniad CNC o ‘asesiad cyflwr dangosol’.

Asesiadau cyflwr dangosol nodweddion ar gyfer ein safleoedd morol Ewropeaidd (EMS) yng Nghymru

Yn y tabl isod, ceir adroddiadau cyflwr dangosol nodweddion ar gyfer safleoedd morol Ewropeaidd ym moroedd Cymru. Cynhyrchwyd adroddiad unigol ar gyfer pob un o’r ACAau morol ac arfordirol, sef 11 adroddiad. Gwnaethpwyd asesiadau cyflwr dangosol hefyd ar gyfer ein AGAau morol, ac mae’r rhain i’w gweld mewn un adroddiad yn y tabl isod.  

Safleoedd trawsffiniol: Mae ACA Aber Afon Dyfrdwy, ACA Afon Hafren a 3 o’n AGAau morol yn safleoedd trawsffiniol, a gaiff eu rheoli ar y cyd gyda Natural England (NE). Noder os gwelwch yn dda bod yr asesiadau cyflwr dangosol i’r safleoedd hyn yn seiliedig ar wybodaeth a gasglwyd ac a ddehonglwyd gan arbenigwyr CNC yn unig, a’u bod felly ond yn cyfleu barn CNC yn unig.

Enw'r wefan Dogfennau

ACA Aber Afon Dyfrdwy

Adroddiad Asesiad Cyflwr Dangosol ACA Aber Afon Dyfrdwy

ACA y Fenai a Bae Colwyn

Adroddiad Asesiad Cyflwr Dangosol ACA y Fenai a Bae Colwyn

ACA Glannau Môn: Cors heli

Adroddiad Asesiad Cyflwr Dangosol ACA Glannau Môn: Cors heli

ACA Bae Cemlyn

Adroddiad Asesiad Cyflwr Dangosol ACA Bae Cemlyn (Tachwedd 2018)

ACA Pen Llyn a’r Sarnau

Adroddiad Asesiad Cyflwr Dangosol ACA Pen Llyn a’r Sarnau 

ACA Bae Ceredigion

 Adroddiad Asesiad Cyflwr Dangosol ACA Bae Ceredigion

ACA Arfordir Calchfaen De Orllewin Cymru

Adroddiad Asesiad Cyflwr Dangosol ACA Arfordir Calchfaen De Orllewin Cymru

ACA Sir Benfro Forol

Adroddiad Asesiad Cyflwr Dangosol ACA Sir Benfro Forol

EMS Bae Caerfyrddin ac Aberoedd

Adroddiad Asesiad Cyflwr Dangosol EMS Bae Caerfyrddin ac Aberoedd

ACA Cynffig

Adroddiad Asesiad Cyflwr Dangosol ACA Cynffig

ACA Afon Hafren

Adroddiad Asesiad Cyflwr Dangosol ACA Afon Hafren

AGAau Morol yn nyfroedd Cymru  

Adroddiad Asesiad Cyflwr Dangosol ar nodweddion morol AGAau Cymru

Y camau nesaf ar gyfer asesiadau cyflwr ein hardaloedd morol gwarchodedig (MPA) yng Nghymru

Yn dilyn y gyfres hon o asesiadau cyflwr dangosol fesul safle, fe fyddwn yn datblygu proses adrodd barhaol a chynaliadwy o gyflwr nodweddion ar lefel safle y gellir ei chyflenwi yn rheolaidd. Rydym yn cynllunio cyfres o brosiectau i weithio tuag at y nod hwn.

Mae’n annhebygol y bydd adnoddau a ffynonellau tystiolaeth addas ar gael ar unrhyw amser penodol i fonitro ac adrodd ar yr holl nodweddion, neu i adrodd gyda’r un lefel o hyder. Fodd bynnag, ein nod yw datblygu, dros y blynyddoedd sydd i ddod, broses asesu ac adrodd a fydd o ddefnydd ymarferol o ran llywio gwaith rheoli safleoedd yn effeithiol ac o ran cynnal neu wella cyflwr nodweddion a safleoedd.

Diweddarwyd ddiwethaf