Y Cod Trawsleoliad Cadwraeth yng Nghymru
Byddwch yn glir ynghylch yr angen cadwraeth ac a yw'n opsiwn priodol
P'un a ydych chi'n cynnig atgyfnerthu'r boblogaeth, ailgyflwyno poblogaeth, neu gyflwyno poblogaeth, bydd angen i chi esbonio'n glir pam mae angen gweithredu a beth sydd angen ei gyflawni.
Dylech asesu a allai camau rheoli eraill fod yn fwy priodol. Ystyriwch a allai opsiynau rhatach neu opsiynau risg is ddiwallu'r angen cadwraethol. Dylai eich cynnig ddarparu tystiolaeth i gyfiawnhau pam mae angen trawsleoliad.
Wrth wneud hynny, ystyriwch a yw achosion y dirywiad neu'r risg bod poblogaeth yn diflannu wedi'u hasesu, a yw dulliau amgen wedi'u nodi ar lefel uchel, a sut mae data poblogaeth neu dystiolaeth arall yn cefnogi'r achos dros ymyrryd. Ochr yn ochr ag effeithiau ar y rhywogaeth ei hun, dylech hefyd ystyried ei rôl ecolegol ehangach ac unrhyw fuddion neu wasanaethau y mae'n eu darparu i bobl.
Hyd yn oed os na all y dewisiadau amgen hyn fynd i'r afael â'r angen yn llawn, mae'n debygol y bydd angen ymyriadau, megis adfer cynefinoedd neu reoli bygythiadau, fel rhan o brosiect trawsleoli. Dylech nodi unrhyw gamau ategol rydych yn eu cynnig (neu gamau sy'n cael eu cymryd gan eraill), a sut mae'r trawsleoliad rydych yn ei gynnig yn cyd-fynd â chynlluniau cadwraeth ehangach.
Datblygu cynllun ar gyfer oes gyfan y trawsleoliad
Mae trawsleoliad cadwraeth yn ymyrraeth gymhleth a hirdymor y mae risgiau ecolegol, cymdeithasol, a bioddiogelwch yn perthyn iddo. Mae datblygu cynllun prosiect clir a chymesur yn hanfodol i ddangos bod y cynnig wedi'i gyfiawnhau'n dda, bod risgiau wedi'u nodi, a bod modd eu rheoli, a bod buddion cadwraeth ystyrlon yn gyraeddadwy.
Mae cynllun prosiect yn darparu fframwaith strwythuredig ar gyfer gosod nodau, amcanion, a chamau gweithredu clir sy'n cysylltu'n uniongyrchol â'r angen cadwraeth a nodwyd. Dylai'r rhain fod yn realistig, yn fesuradwy, ac yn gyraeddadwy, a disgrifio'n glir sut olwg sydd ar lwyddiant. Dylai'r cynllun esbonio sut y bydd y nodau'n cael eu cyflawni, sut y bydd cynnydd a chanlyniadau'n cael eu monitro, a sut y bydd y prosiect yn addasu os na fydd pethau'n mynd yn ôl y disgwyl.
Dylai'r cynllun nodi manylion ymarferol y trawsleoli, gan gynnwys caffael a chludo'r stoc rhoddwr, unrhyw elfen o fridio mewn caethiwed, a dewis a pharatoi'r safleoedd derbyn. Dylai ddisgrifio sut y caiff y rhyddhau ei wneud, unrhyw reolaeth sydd ei hangen ar ôl y rhyddhau, a sut y caiff hyn ei ariannu a'i sicrhau yn yr hirdymor. Pan fo modd, dylai dulliau fod yn seiliedig ar arferion gorau sefydledig. Dylid nodi unrhyw ddulliau newydd neu arbrofol yn glir, gan ddarparu cyfiawnhad ac ymrwymiad i rannu gwersi a ddysgwyd.
Mae cynllun prosiect sydd wedi'i ddatblygu'n dda yn cefnogi tryloywder ac atebolrwydd drwy egluro'n glir y broses o wneud penderfyniadau, rheoli risg, a sut y caiff canlyniadau eu gwerthuso. Mae hefyd yn galluogi rheolaeth drwy addasu, gan ganiatáu i'r prosiect ymateb i wybodaeth newydd neu effeithiau annisgwyl.
Rhaid i'r cynllun gynnwys strategaeth ymadael, gan nodi pryd a sut y bydd rheolaeth weithredol yn dod i ben os yw'r prosiect yn llwyddiannus, yn ogystal â darpariaethau clir ar gyfer dod â'r prosiect i ben yn gynnar os yw'r canlyniadau'n annerbyniol. Dylai hyn gynnwys sbardunau wedi'u diffinio ac eglurder ynghylch pwy sy'n gyfrifol am wneud y penderfyniadau hyn.
Heb gynllun prosiect cadarn, mae trawsleoliadau cadwraeth yn fwy tebygol o fethu, achosi niwed anfwriadol, neu fethu â chyflawni enillion cadwraeth parhaol.
Datblygwch gynllun sy'n cwmpasu:
- Nodau, amcanion, a chamau gweithredu
- Llywodraethu a gwneud penderfyniadau
- Anghenion hyfywedd biolegol a gwendidau rhywogaeth
- Hyfywedd cymdeithasol
- Nodi a chael yr holl ganiatadau a thrwyddedau angenrheidiol
- Adnoddau a chyllid
- Dyluniad rhaglen fonitro
- Strategaeth ymadael a chynlluniau wrth gefn
- Asesiad risg
- Dewis safle rhyddhau
- Creu strategaeth rhyddhau
- Dod o hyd i boblogaethau rhoddwyr
- Rheolaeth barhaus
Dylai eich cynllun fod yn gymesur â chymhlethdod a risg eich cynnig.
Darganfyddwch sut i ddatblygu cynllun.
Nodi a chael yr holl ganiatadau a thrwyddedau angenrheidiol
Rhaid i bob trawsleoliad cadwraeth weithredu o fewn y gyfraith. Cyn ymgymryd â thrawsleoliad cadwraeth, rhaid i chi gadarnhau pa drwyddedau a chaniatadau eraill fydd eu hangen cyn y gallwch gyflawni unrhyw ran o'ch cynnig yn gyfreithiol. Mae hyn yn berthnasol i'r rhoddwr a'r safle rhyddhau.
Cael caniatâd gan berchnogion tir cyn casglu neu ryddhau organebau yn y gwyllt.
Ymgynghori ag CNC i gael unrhyw drwyddedau, cydsyniadau, neu ganiatadau arall a fydd yn ofynnol i gwblhau'r cynllun yn gyfreithiol. Gallai’r rhain gynnwys:
- rhywogaethau a warchodir neu safleoedd dynodedig
- symud rhywogaethau y tu allan i'w gwasgariad presennol
Am ragor o wybodaeth, gweler: Gwneud cais am drwydded rhywogaeth a warchodir
Os yw'r trawsleoliad yn cynnwys symud organebau i wledydd eraill, neu o wledydd eraill, rhaid i chi wneud y canlynol:
- cael yr holl ganiatadau a thrwyddedau mewnforio/ allforio angenrheidiol
- ymgynghori â'r cyrff statudol perthnasol ym mhob gwlad dan sylw i gadarnhau gofynion deddfwriaethol cenedlaethol
Glynu wrth unrhyw ddeddfwriaeth ac arferion da perthnasol ym maes lles anifeiliaid, iechyd a diogelwch, bioddiogelwch, cwarantîn, a glanweithdra.
Deall ac ystyried anghenion biolegol a gwendidau'r rhywogaeth
Rhaid i chi feddu ar wybodaeth drylwyr am ofynion ecolegol y rhywogaeth.
- mae unrhyw fygythiadau a achosodd ddiflaniad y rhywogaeth yn y gorffennol yn cael eu nodi a'u dileu, neu eu lleihau i raddau digonol
- mae'r safle(oedd) rhyddhau, yr ardal ehangach, a'r rheolaeth yn bodloni'r holl ofynion ar gyfer goroesiad poblogaethau iach yn y dyfodol rhagweladwy, a’u cynnal, o ystyried newid hinsawdd
- mae amseriad, cyfnod bywyd, niferoedd, a rhyw’r unigolion i'w rhyddhau yn seiliedig ar ecoleg atgenhedlu a newidiadau tymhorol tebygol – bydd hyn yn effeithio ar siawns y rhywogaeth o oroesi a sefydlu. Rydych yn darparu rheolaeth addasol barhaus i helpu'r rhywogaeth a drawsleolwyd i oroesi, atgenhedlu, a chyflawni nodau poblogaeth
Osgowch ddewis o blith poblogaethau rhoddwyr sydd:
- ag amrywiaeth enetig gyfyngedig neu amhriodol
- yn debygol o fod wedi addasu'n wael i'r safle rhyddhau
Poblogaeth rhoddwr yw poblogaeth rhywogaeth y mae organebau wedi'u trawsleoli yn cael eu cymryd ohoni.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi'r rhesymau pam y dirywiodd y rhywogaeth yn y lle cyntaf a pham na fydd y pwysau hynny bellach yn bygwth unrhyw atgyfnerthu niferoedd neu ailgyflwyno rhywogaeth. Os oes angen ymyrraeth ychwanegol i reoli'r bygythiadau hynny, gwnewch yn siŵr eich bod wedi cynllunio ar gyfer hynny ac wedi'i chynnwys yn eich cynnig.
Lleihau'r risg o niwed i fioamrywiaeth
Ni ddylid symud rhywogaethau i ardaloedd lle nad oeddent yn bresennol yn naturiol o'r blaen, oni bai nad yw'n bosibl cyflawni'r canlyniad cadwraeth a ddymunir drwy ddulliau eraill.
Peidiwch â chael gwared ar organebau o safle rhoddwr os bydd yn peryglu'r boblogaeth honno.
Ystyriwch yr effeithiau negyddol posibl ar rywogaethau a chynefinoedd yn y safleoedd rhoddwr a derbynnydd yn ogystal ag ar yr amgylchedd ehangach.
Rhaid asesu unrhyw risgiau a nodwyd yn drylwyr a rhaid nodi'n glir unrhyw fesurau diogelwch neu liniaru a gynigiwch. Os oes angen, ceisiwch gyngor annibynnol. Os nad yw risgiau wedi'u nodi yn eich asesiad, neu os nad ydynt wedi cael sylw llawn, mae'n debygol y bydd eich cynnig yn cael ei ohirio neu ei wrthod. Blaenoriaethwch fioddiogelwch a chynhwyswch fesurau priodol i reoli'r risg o ledaenu rhywogaethau estron goresgynnol, plâu, a chlefydau.
Byddwch yn arbennig o ofalus wrth gynnig trawsleoliadau i boblogaethau sydd wedi'u hynysu'n enetig neu ardaloedd sy'n anhygyrch yn ddaearyddol, megis ynysoedd. Ni ddylid diystyru’r potensial i wneud niwed na ellir ei wrthdroi a dylid adlewyrchu hyn yn eich asesiad o'r risg a'r mesurau diogelwch a lliniaru cysylltiedig.
Os oes angen trwydded neu ganiatâd arall arnoch gan CNC, efallai y byddwn hefyd yn gofyn am asesiad risg gan filfeddyg fel rhan o'ch cais. Bydd hon yn ddogfen ar wahân a rhaid iddi ddilyn fformat sefydledig a chael ei llofnodi gan filfeddyg cymwys.
Nodi a rheoli unrhyw botensial ar gyfer gwrthdaro â defnyddwyr eraill y tir
Dylech ymgysylltu'n gadarnhaol â thirfeddianwyr a chymunedau a allai gael eu heffeithio. Dylech ddangos ymgysylltiad cyn y cynnig, fel bod gan randdeiliaid a'r cyhoedd farn wybodus ar y prosiect. Gwnewch hyn o'r cychwyn cyntaf a cheisiwch fynd i'r afael ag unrhyw bryderon maen nhw'n eu codi. Os yn bosibl, dylech gyfleu sut y gallai'r cynigion fod o fudd iddynt, yn ogystal â'r buddion amgylcheddol.
Bydd cynigion yn llai tebygol o lwyddo os yw cymunedau lleol yn eu herbyn, felly mae'n werth cynllunio'r elfen hon yn ofalus. Gall cynnwys cymunedau lleol a rhanddeiliaid yn llywodraethiant y prosiect helpu i fagu hyder.
Gwerthuswch y posibilrwydd y gallai trawsleoli achosi niwed i iechyd, llesiant, a bywoliaethau pobl, a pheidiwch â bwrw ymlaen oni ellir nodi a gweithredu mecanweithiau lliniaru a rheoli derbyniol yn briodol.
Unwaith eto, bydd angen i'r agwedd hon ar eich cynnig fod yn gymesur â natur y trawsleoliad. Efallai y bydd angen ymgysylltu’n barhaus â’r cyhoedd a rheoli gwrthdaro’n rhagweithiol ar gyfer rhai cynigion drwy gydol oes y prosiect.
Byddwch yn atebol, yn dryloyw, ac yn agored
Dylech fod yn glir ynglŷn â sut mae penderfyniadau'n cael eu gwneud a phwy sy'n eu gwneud. Unwaith eto, bydd hyn yn rhoi hyder i bobl y bydd y cynnig yn cael ei reoli'n dda ac y bydd gweithdrefnau ar waith i ddelio ag unrhyw broblemau ar unwaith.
Os yw'n debygol y bydd eich cynnig o ddiddordeb cyhoeddus mawr, mae'n bwysig eich bod yn cynllunio ar gyfer deialog sylweddol cyn ac ar ôl ei ryddhau gyda chymunedau lleol a rhanddeiliaid.
Monitro, gwerthuso, a chyfathrebu
Bydd gwaith monitro priodol yn eich galluogi i ddangos bod y trawsleoliad yn llwyddo a bydd yn eich galluogi i weithredu'n gyflym os nad yw pethau'n datblygu fel y disgwylir, gan gynnwys sbarduno'r strategaeth ymadael os oes angen. Mae'n debygol hefyd y bydd angen cynnal gwaith monitro ac adrodd fel amodau unrhyw drwyddedau neu ganiatâd arall a roddwyd i chi.
Po fwyaf yw'r potensial i drawsleoliad effeithio ar bobl eraill, y mwyaf yw pwysigrwydd strategaeth gyfathrebu effeithiol.
Ar ddiwedd y prosiect, neu ar gerrig milltir y cytunwyd arnynt, dylech asesu llwyddiant y trawsleoliad a rhannu'r canfyddiadau fel y gall eraill ddysgu o'ch profiad.