Gallwch feithrin coetir amrywiol drwy blannu amrywiaeth o rywogaethau o goed.

Mae coetiroedd cymysg yn gallu gwrthsefyll niwed yn well. Bydd y coetiroedd hyn yn dod dros ddifrod, fel achosion o glefyd neu dân, yn well. Gobeithir y gall coetiroedd cymysg wrthsefyll tywydd eithafol fel gwyntoedd neu lifogydd.

Mae cynyddu’r amrywiaeth o rywogaethau coed yn rhan allweddol o Safon Coedwigaeth y DU, y safon ar gyfer rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy yn y DU.

Amrywiaeth coed a newid hinsawdd

Bydd newid hinsawdd yn galluogi rhai rhywogaethau o goed i dyfu'n well yng Nghymru nag y gwnaethant yn y gorffennol. Bydd rhywogaethau eraill ddim yn gwneud cystal, oherwydd straen gan sychder neu ymosodiadau gan blâu.

Plannu amrywiaeth ehangach o rywogaethau nawr yw'r ffordd orau o sicrhau y bydd eich coetir neu goedwig yn gwneud yn dda yn y dyfodol.

Gallwch sicrhau amrywiaeth o goed ar wahanol raddfeydd. Er enghraifft, gellir gwneud mewn blociau coetir unigol neu mewn ardaloedd mwy sy’n dod o dan gynllun rheoli coetir.

Bydd angen ystyried eich amcanion fel rheolwr coedwig, ynghyd â nodweddion y safle, wrth ddewis pa rywogaethau o goed sydd fwyaf addas ar gyfer eich safle chi.

Bydd y rhywogaethau o goed rydych yn eu plannu yn dibynnu ar y math o bridd, amlygiad i’r elfennau, ac amodau’r hinsawdd nawr ac yn y dyfodol.

Canllawiau ar gynyddu’r amrywiaeth o goed

Rydym wedi llunio canllaw arfer da ar gyfer gwella’r amrywiaeth o rywogaethau coed yng nghoetiroedd Cymru.

Mae ymchwil coedwigoedd hefyd wedi llunio canllaw defnyddiol ar addasu dulliau rheoli coedwigoedd a choetiroedd ar gyfer yr hinsawdd wrth iddi newid.

Diweddarwyd ddiwethaf