Y Cynllun Cyfleoedd Arbed Ynni

Beth yw diben y Cynllun Cyfleoedd Arbed Ynni?

Mae'r Cynllun Cyfleoedd Arbed Ynni wedi'i ddylunio i roi'r cyfle i sefydliadau gynnal adolygiad manwl o'u defnydd o ynni er mwyn nodi ffyrdd o wella effeithlonrwydd ynni. Mae hyn yn caniatáu i fusnesau leihau eu defnydd a'u costau wrth helpu i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd ac arwain y DU tuag at lefel uwch o ddiogelwch ynni.

Sut mae darganfod a yw fy sefydliad yn bodloni'r meini prawf cymhwyso?

Gallwch weld y canllawiau llawn ar y Cynllun Cyfleoedd Arbed Ynni yn GOV.UK

Am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at Asiantaeth yr Amgylchedd yn esos@environment-agency.gov.uk, ni waeth a yw eich busnes yn Lloegr, yr Alban, Cymru neu Ogledd Iwerddon.

Am yr holl ymholiadau sy'n ymwneud â gosodiadau alltraeth, anfonwch e-bost at yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn enquiries@beis.gov.uk  

Yr hyn rydym yn ei wneud

CNC yw'r corff cydymffurfiaeth ar gyfer mentrau sydd wedi’u cofrestru yng Nghymru. Mae ein rôl yn cynnwys:

  • cymryd camau i fonitro cydymffurfiaeth â'r cynllun, gan gynnwys archwiliadau ar y safle os oes angen
  • cymryd camau gorfodi i sicrhau bod sefydliadau'n cydymffurfio
  • defnyddio sancsiynau ar fentrau nad ydynt yn cydymffurfio, sy'n cynnwys dirwyon sifil cymesur
Diweddarwyd ddiwethaf