Sut i ddatblygu System Rheoli Amgylchedd ar gyfer eich Trwydded Amgylcheddol

Bydd eich trwydded amgylcheddol yn ei gwneud yn ofynnol ichi gael system reoli ysgrifenedig. Set o weithdrefnau yw hon sy’n disgrifio’r hyn y byddwch yn ei wneud i leihau’r risg o lygredd o’r gweithgareddau sy’n cael eu cwmpasu gan eich trwydded. Dylid cadw copi o’r system reoli a’r drwydded fel ei bod ar gael yn hwylus i staff y safle.

Bydd faint o wybodaeth fydd angen ichi ei gynnwys yn eich system reoli yn dibynnu ar ba mor gymhleth a pha mor beryglus yw eich gweithgareddau.

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am sut i ddatblygu system reoli a’i diweddaru gweler y canllawiau a geir ar gov.uk

 

Diweddarwyd ddiwethaf