Esemptiadau gweithgarwch perygl llifogydd

Gallwch gofrestru esemptiad os ydych yn bodloni'r amodau penodol sydd wedi'u hamlinellu yn y canllawiau technegol ar gyfer esemptiadau gweithgarwch perygl llifogydd. Mae'n drosedd cyflawni gweithgaredd sydd wedi'i esemptio heb gydymffurfio â'r amodau priodol. Rhaid nodi ei bod yn bosibl na fydd gwaith sy'n agos at safle dynodedig yn bodloni'r meini prawf ar gyfer esemptiad.

Gellir cofrestru esemptiad yn rhad ac am ddim.

Mae gweithgareddau perygl llifogydd sydd wedi'u hesemptio yn cynnwys y canlynol:

  • codi gwasanaeth cebl trydan sy'n croesi dros ben prif afon
  • codi gwasanaeth sy'n croesi o dan wely prif afon drwy ddrilio cyfeiriadol nad yw'n defnyddio techneg torri agored
  • ceblau sydd ynghlwm wrth y tu allan i adeileddau presennol sy'n croesi dros ben prif afon
  • adeiladu pontydd troed
  • gwaith cynnal ar amddiffynfeydd afon neu fôr uwch
  • gwaith cynnal a chadw ar adeileddau o fewn sianel prif afon heblaw amddiffynfeydd afon neu fôr uwch
  • adeiladu bae yfed ar lan prif afon
  • adeiladu llwyfannau mynediad ar lan prif afon, neu rai sy'n ymestyn i neu dros ben prif afon
  • adeiladu pibellau gollwng a chefnfuriau bach ar brif afonydd
  • gwaith atgyweirio a diogelu i lannau prif afonydd gan ddefnyddio deunyddiau naturiol
  • gwaith atgyweirio i lithriadau ac erydiad glannau
  • gosod adeileddau cynefin sianel sydd wedi'u gwneuthurio o ddeunyddiau naturiol (ac eithrio coredau ac ysgafellau)
  • gosod rafftiau ar gyfer gwaith arolygu
  • glanhau graean ar gyfer gwelyau silio pysgod
  • adeiladu dyfeisiau llwybr llyswennod ar adeileddau sydd eisoes yn bodoli
  • adeiladu rhiciau llwybr pysgod ar adeiledd cronni dŵr sydd eisoes yn bodoli
  • gwaith cloddio pyllau bas a nodweddion gwlyptir bas ar orlifdir
  • adeiladu adeileddau lloches ar gyfer bywyd gwyllt yn ochrau glannau afonydd
  • gwaith gwella traciau a llwybrau

Os bydd angen i chi wneud gwaith dros dro (er enghraifft defnyddio sgaffaldiau neu argaeau coffr yn y sianel), cysylltwch â ni i drafod a allai fod angen cael trwydded bwrpasol.

Cofrestru esemptiad

Cwblhewch y ffurflen gais er mwyn cofrestru esemptiad.

Bydd angen i chi gynnwys y canlynol:

  • enw a chyfeiriad yr ymgeisydd – yr unigolyn neu sefydliad a fydd yn gyfrifol am wneud y gweithgaredd perygl llifogydd
  • cyfeirnod grid cenedlaethol 12 digid y lleoliad lle bydd y gwaith esempt yn cael ei wneud
  • cynllun lleoliad ar gyfer y lleoliad lle bydd y gwaith yn cael ei wneud

Unwaith y byddwch wedi cofrestru, bydd manylion eich esemptiad yn ymddangos ar y gofrestr gyhoeddus ar gyfer gweithgareddau perygl lifogydd esempt.

Diweddarwyd ddiwethaf