Y technegau gorau sydd ar gael a dogfennau canllaw ychwanegol ar gyfer ffermio dwys

Nod y technegau gorau sydd ar gael yw atal neu leihau allyriadau ac effeithiau ar yr amgylchedd.

Rhaid i osodiadau diwydiannol gyda mathau penodol o weithgareddau ddefnyddio’r technegau gorau sydd ar gael i atal a lleihau allyriadau i’r aer, y dŵr a’r tir. 

Nid yw'n ofynnol mwyach i'r DU weithredu Casgliadau Technegau Gorau sydd ar Gael (BAT) yr UE a gyhoeddwyd ar ôl 2021, ond dylai ceisiadau am drwyddedau barhau i fodloni gofynion BAT y DU a Chasgliadau BAT cyn 2021 a gedwir. Gellir defnyddio Casgliadau BAT yr UE mwy newydd i ddangos arfer da cyfredol lle bo'n berthnasol.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Gov.uk

Y technegau gorau sydd ar gael a chanllawiau ychwanegol

Yng Nghymru, rydym yn defnyddio’r safonau a chanllawiau canlynol sydd ar gael fel rhan o’n hasesiadau cydymffurfio ac wrth osod amodau trwyddedau ac unrhyw werthoedd terfyn cysylltiedig ar gyfer allyriadau.

Lawrlwythwch y technegau gorau sydd ar gael wrth fagu moch a dofednod yn ddwys o wefan yr UE

Canllawiau ychwanegol ar ffermio dwys (Saesneg yn unig)

Rhagor o wybodaeth am drwyddedau amgylcheddol ar gyfer gosodiadau

Darllenwch ragor am drwyddedu gosodiad.

Diweddarwyd ddiwethaf