Y technegau gorau sydd ar gael a dogfennau canllaw ychwanegol ar gyfer prosesau metelegol a triniaeth arwyneb

Nod y technegau gorau sydd ar gael yw atal neu leihau allyriadau ac effeithiau ar yr amgylchedd.

Rhaid i osodiadau diwydiannol gyda mathau penodol o weithgareddau ddefnyddio’r technegau gorau sydd ar gael i atal a lleihau allyriadau i’r aer, y dŵr a’r tir. 

Nid yw'n ofynnol mwyach i'r DU weithredu Casgliadau Technegau Gorau sydd ar Gael (BAT) yr UE a gyhoeddwyd ar ôl 2021, ond dylai ceisiadau am drwyddedau barhau i fodloni gofynion BAT y DU a Chasgliadau BAT cyn 2021 a gedwir. Gellir defnyddio Casgliadau BAT yr UE mwy newydd i ddangos arfer da cyfredol lle bo'n berthnasol.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Gov.uk

Dogfennau technegau gorau sydd ar gael a chanllawiau ychwanegol

Yng Nghymru, rydym yn defnyddio’r safonau a chanllawiau canlynol sydd ar gael fel rhan o’n hasesiadau cydymffurfio ac wrth osod amodau trwyddedau ac unrhyw werthoedd terfyn cysylltiedig ar gyfer allyriadau.

Lawrlwythwch gasgliadau'r technegau gorau sydd ar gael ar gyfer prosesau metel anfferrus gan Swyddfa Atal a Rheoli Llygredd Integredig Ewrop (EIPPCB)

Lawrlwythwch gasgliadau'r technegau gorau sydd ar gael ar gyfer cynhyrchu haearn a dur gan Swyddfa Atal a Rheoli Llygredd Integredig Ewrop (EIPPCB)

Lawrlwythwch Prosesu metelau fferrus: canllawiau ychwanegol gan Gov.uk

Lawrlwythwch Triniaeth arwyneb metelau a phlastigau gan ddefnyddio electrolysis a/neu brosesau cemegol: canllawiau ychwanegol gan Gov.uk

Rhagor o wybodaeth am drwyddedau amgylcheddol ar gyfer gosodiadau

Darllenwch ragor am drwyddedu gosodiad.

Diweddarwyd ddiwethaf