Gwneud cais am drwydded forol band 1
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wneud cais am drwydded forol band 1.
Cyn i chi ddechrau
Mae angen i chi wybod:
- enw eich prosiect
- crynodeb o'r hyn rydych chi eisiau ei wneud
- manylion yr ymgeisydd ac unrhyw asiant
- cyfeirnod ar gyfer unrhyw gyngor cyn ymgeisio y gwnaethom ei roi i chi
- gwybodaeth am unrhyw gychod neu gerbydau y byddwch yn eu defnyddio
- dyddiadau dechrau y gwaith
- lleoliad y prosiect gan ddefnyddio hydred a lledred mewn graddau degol i 5 lle degol
- pa ddeunyddiau y byddwch yn eu dyddodi neu'n eu tynnu, a faint ohonynt
- a oes gennych unrhyw bwerau statudol i gydsynio ag agweddau ar y gwaith ai peidio, ac o dan ba ddeddfwriaeth
Dogfennau y mae'n rhaid i chi eu lanlwytho
- Map Orolwg Ordnans neu Siart y Morlys
- Datganiadau dull
- Cynlluniau adeiladu a lluniadau trychiadol, os oes gennych rai
- Siart o'r llwybr danfon arfaethedig os ydych yn danfon deunyddiau ar y môr
- Cadarnhad ysgrifenedig gan Dŷ'r Drindod a'r Asiantaeth Forwrol a Gwylwyr y Glannau na fydd eich gwaith yn achosi risg i eraill
- Unrhyw ohebiaeth ag ymgyngoreion eraill
- Eich tystiolaeth, os ydych am hawlio cyfrinachedd
Talu am eich cais
Ar ddiwedd y ffurflen gofynnir i chi sut yr hoffech dalu.
Gallwch dalu:
- ar-lein gyda cherdyn (credyd neu ddebyd, Visa neu Mastercard)
- dros y ffôn gyda cherdyn
- trwy drosglwyddiad banc (BACS)
Os ydych chi eisiau talu ar-lein, gofalwch fod eich cerdyn yn barod. Bydd cyflwyno'ch cais yn mynd â chi i'r dudalen dalu ar-lein.
Diweddarwyd ddiwethaf