Gwneud cais am drwydded forol gweithgaredd risg isel (band 1)
Mae trwydded forol Band 1 ar gyfer gweithgareddau sy'n cael eu hystyried yn risg isel.
Darllenwch ganllaw gweithgareddau risg isel trwydded forol Band 1 i ddarganfod mwy am y canlynol:
- effaith potensial isel
- meini prawf risg isel
- gweithgareddau cymwys
- datganiadau dull
- cysylltu ag eraill
Gellir rhoi trwyddedau Band 1 am uchafswm o 12 mis.
Os amcangyfrifir fod gan weithgaredd band 1 gost o dros £1 miliwn ar gyfer prosiect gwaith morol, nid yw'r gweithgaredd bellach yn gymwys ar gyfer cais band 1 a bydd angen cais band 3.
Cyn i chi wneud cais
Pryd i gyflwyno'ch cais
Rhaid i chi gyflwyno'ch cais o leiaf ddau fis cyn ei bod hi’n ofynnol.
Pryd fydd angen datganiad dull manwl arnoch
Bydd angen i chi ddarparu datganiad dull manwl os yw'r gwaith arfaethedig yn effeithio ar unrhyw un o'r canlynol:
- o fewn ardal sensitif
- tyllau turio
- pentyrrau amnewid
- rheoli traethau
Dogfennau y bydd angen i chi eu darparu
Bydd angen i chi uwchlwytho'r dogfennau canlynol i'ch cais:
- darn wrth raddfa o Fap Arolwg Ordnans neu Siart y Morlys gyda lleoliad y prosiect, ynghyd â saeth a graddfa tua'r gogledd.
- cynlluniau adeiladu a lluniadau adrannol yn dangos y gwaith arfaethedig o dan/tua'r môr o gyrhaeddiad cymedru penllanw mawr, os yw'n berthnasol. Dylent roi manylion y deunyddiau i'w defnyddio (ar gyfer ailgyflenwi'r traeth mae nifer, maint y gronynnau a ffynhonnell y deunydd i'w adneuo ac mae angen lleoliad adneuo hefyd)
- gohebiaeth ag Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau, a Thŷ'r Drindod
- gohebiaeth â'r Comisiwn Brenhinol Henebion a Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru
- manylion unrhyw drafodaeth ar sut i ymgeisio rydych wedi'i chael gyda ni
Gwneud cais am drwydded forol band 1
Talu eich ffi
Pan fyddwch wedi cyflwyno'ch cais, bydd angen i chi dalu'ch ffi o £600. Gallwch dalu trwy ein ffonio ar 0300 056 3000 rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Neu, gallwch dalu trwy drosglwyddiad banc gan ddefnyddio'r manylion canlynol:
Enw’r cwmni: Cyfoeth Naturiol Cymru
Cyfeiriad y cwmni: Adran Incwm, BLWCH SP 663, Caerdydd, CF24 0TP
Banc: RBS
Cyfeiriad: National Westminster Bank Plc, 2½ Devonshire Square, Llundain, EC2M 4BA
Cod didoli: 60-70-80
Rhif cyfrif: 10014438
Ni allwn brosesu cais nes bod y ffi gywir wedi'i thalu.
Ar ôl i chi wneud cais
Byddwn fel arfer yn pennu trwyddedau Band 1 cyn pen chwe wythnos ar ôl cyflwyno'r holl wybodaeth ofynnol. Os penderfynwn nad oes angen datganiad dull manwl ar eich cais, byddwn fel arfer yn ei benderfynu cyn pen tair wythnos.
Cysylltwch â ni
Gallwch gysylltu â'r tîm trwyddedu morol drwy anfon e-bost at marinelicensing@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu ffonio'r tîm ymholiadau cyffredinol ar 03000 653 770 rhwng 9am a 5pm, dydd Llun i ddydd Gwener.