Gwneud cais i newid neu drosglwyddo (amrywio) trwydded forol
Mae pedwar math o newid (amrywiadau a throsglwyddiad) y gallwch wneud cais amdanynt:
- gweinyddol - megis newid cyfeiriad deiliad y drwydded
- arferol (neu fân) - megis estyn dyddiad darfod y drwydded
- newidiadau cymhleth - megis newidiadau i ddull y gwaith
- trosglwyddiad – trosglwyddo’r drwydded i ddeiliad trwydded arall
Ni allwch wneud newidiadau i drwydded band 1 na thrwyddedau sydd wedi darfod.
Pryd i gysylltu â ni cyn i chi wneud cais
Os ydych yn:
- ansicr ynglŷn â pha fath o amrywiad sy'n berthnasol i chi
- eisiau gwneud newidiadau cymhleth i'ch trwydded
cysylltwch â'r tîm trwyddedu morol drwy anfon e-bost at marinelicensing@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.
Byddwn yn rhoi gwybod ichi a allwch wneud cais am amrywiad neu a fydd angen i chi wneud cais am drwydded forol newydd.
Gwneud cais am amrywiad
Gwneud cais am drosglwyddiad
I wneud cais i drosglwyddo’ch trwydded, rhaid i chi lenwi ffurflen gais trosglwyddo trwydded. Mae’r ffurflen hon ar gael ar y dudalen Ffurflenni Cais Trwydded Forol ar ein gwefan.
Sut i dalu
Ar ôl i chi gyflwyno'ch cais mae'n rhaid i chi dalu un o'r ffioedd canlynol:
- £240 am newid gweinyddol
- £480 am newid arferol
- Cyfradd o £120 yr awr am newidiadau cymhleth (byddwn yn codi ôl-ddyledion arnoch)
- £480 am drosglwyddo trwydded
I dalu am eich cais, gallwch ein ffonio ar 0300 065 3770 rhwng 9am a 5pm, dydd Llun i ddydd Gwener neu dalu trwy drosglwyddiad BACS i:
Enw’r cwmni: Cyfoeth Naturiol Cymru
Cyfeiriad y cwmni: Adran Incwm, BLWCH SP 663, Caerdydd, CF24 0TP
Banc: RBS
Cyfeiriad: National Westminster Bank Plc., 2 1/2 Devonshire Square, Llundain, EC2M 4BA
Cod didoli: 60-70-80
Rhif cyfrif: 10014438
Ar ôl i chi wneud cais
Ar ôl i ni dderbyn eich ffurflen a'ch taliad wedi'u cwblhau, byddwn yn cydnabod ein bod wedi'u derbyn. Byddwn yn dweud wrthych pa mor hir y dylai gymryd i ni benderfynu ar eich cais.
Ein lefelau gwasanaeth yw'r canlynol:
- 21 diwrnod ar gyfer newid gweinyddol
- 21 diwrnod ar gyfer trosglwyddo trwydded
- wyth wythnos ar gyfer newid arferol
- pedwar mis ar gyfer newid cymhleth band 2
- dim terfyn amser ar gyfer newid cymhleth band 3