Yn gwneud cais am Drwydded Forol?

Sut mae gwneud cais am drwydded forol?

Lle bo'n briodol, dylid cyflwyno'r cais gyda dogfennau ategol fel lluniadau, asesiadau amgylcheddol a chynlluniau lleoliad. Rhaid i bob cais (ac eithrio ceisiadau gweithgaredd risg isel Band 1) hefyd ddod gydag asesiad y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr.

Rhaid i bob gweithgaredd carthu a/neu waredu ddod gyda chanlyniadau samplu a dadansoddi gwaddodion ac asesiad risg bioddiogelwch. Mae'r ddwy ffurflen ar gael ar y dudalen ffurflenni cais am drwyddedau morol ar ein gwefan. 

Faint mae ceisiadau Trwydded Forol yn eu costio?

Mae ceisiadau Trwydded Forol yn dod o dan 3 band talu gwahanol

Band 1 - gweithgareddau risg isel sy’n destun proses drwyddedu symlach. Mae mathau o weithgareddau a ystyrir yn Fand 1 i'w gweld ar dudalen ganllaw Band 1

Band 2 – mae mathau o weithgareddau Band 2 yn cynnwys:

  • Gwaith adeiladu, addasu neu welliannau bach i ganolig, e.e. gwaith amddiffyn yr arfordir, atgyweirio pontydd
  • Rhai gweithgareddau symud sy'n defnyddio cerbyd neu long, e.e. symud oddi ar wely'r môr, dymchwel pier
  • Gweithgareddau carthu cynnal a chadw (oni bai ei fod yn rhan o gynllun adeiladu ehangach), e.e. carthu mordwyo cynnal a chadw

Mae gwaith carthu arferol yn cynnwys deunydd sydd wedi’i ollwng yn ddiweddar gan brosesau gwaddodi mewn harbwr, aber neu ardal forol.

Band 3 – yn cael eu diffinio fel ceisiadau cymhleth sy’n:

  • Cynnwys amcangyfrif o gostau prosiect ar gyfer gwaith morol o dros £1 miliwn; a/neu:
  • Angen cael Asesiad Effaith Amgylcheddol (EIA);
  • Gweithgareddau sy’n cynnwys elfennau adeiladu a charthu, gan gynnwys carthu cynnal a chadw

Gall mathau o brosiectau Band 3 gynnwys:

  • Cynlluniau adeiladu mawr
  • Datblygiadau adnewyddadwy morol
  • Cloddio am agregau morol
  • Ymgyrchoedd carthu cyfalaf
  • Ceisiadau am weithgareddau lluosog, fel adeiladu gydag elfennau carthu

Carthu cyfalaf yn cynnwys deunydd daearegol a garthwyd o haenau a oedd heb eu datgelu o'r blaen o dan wely'r môr a
deunydd arwynebol o ardaloedd na chawsant eu carthu yn ddiweddar i.e o fewn 10 mlynedd.

Gweler y ffioedd trwyddedu morol a'r dudalen ganllaw i gael gwybodaeth am ein ffioedd a'n taliadau.

Sut ydym ni’n penderfynu ar geisiadau?

Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu Cynllun Morol Cenedlaethol cyntaf Cymru, a fabwysiadwyd ar 12 Tachwedd 2019. Mae’r cynllun yn nodi polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer yr 20 mlynedd nesaf ar gyfer defnydd cynaliadwy o’n moroedd. Mae'n rhaid i ni wneud penderfyniadau yn unol â'r cynllun morol, oni bai bod ystyriaethau perthnasol yn nodi fel arall, a dylai ymgeiswyr ystyried y cynllun wrth wneud eu ceisiadau. Dylai pob cais (ac eithrio ceisiadau gweithgaredd risg isel Band 1) ddangos bod eu gweithgareddau arfaethedig yn cydymffurfio â’r cynllun morol. Mae templed ar gael ar y dudalen ffurflenni cais am drwyddedau morol ar ein gwefan. 

Ar gyfer rhai ceisiadau sy'n ymwneud ag adeiladu, addasu neu wella gwaith, rhaid i ni ystyried effeithiau'r defnydd arfaethedig o'r gwaith unwaith y bydd wedi'i gwblhau. Er enghraifft, wrth ystyried cais am estyniad i lanfa a fydd yn galluogi mynediad i longau mwy, rhaid inni ystyried yr effeithiau y bydd y cychod mwy yn eu cael ar yr amgylchedd. Ar gyfer ceisiadau carthu cynnal a chadw a/neu waredu byddwn yn ystyried cyfnod trwydded o hyd at 10 mlynedd lle darperir tystiolaeth briodol. Gallai’r dystiolaeth hon gynnwys data bathymetreg, data neu fodelau hydrodynameg, manylion am amlder ac amseriad y broses o ryddhau gwaddodion a dadansoddiad o ddefnyddiau amgen o’r gwaddodion. Gellir gosod amodau ychwanegol ar y trwyddedau hyn gan gynnwys torbwyntiau, gofynion samplu a monitro.

Pa sefydliadau ydym ni’n ymgynghori â nhw?

Pan wneir cais am Drwydded Forol, byddwn yn ymgynghori ag amrywiaeth o sefydliadau i ofyn am gyngor ar effeithiau’r prosiect ac unrhyw fesurau neu amodau lliniaru y dylid eu cynnwys mewn trwydded i leihau effeithiau posibl.

Mae’r ymgyngoreion yn amrywio yn dibynnu ar y math o gais, ond gallant gynnwys:

Amgylcheddol

  • Adrannau mewnol Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Ymgynghorwyr technegol allanol fel; Canolfan Gwyddorau’r Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaethu (Cefas)
  • Cymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB)
  • Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur (JNCC).  Ymgynghorir â’r JNCC ynghylch ceisiadau ar gyfer gweithgareddau sy’n fwy na 12 môr filltir oddi ar yr arfordir

Mordwyaeth / arall

  • Trinity House
  • Asiantaeth Forol a Gwylwyr y Glannau
  • Cymdeithas Hwylio Brenhinol
  • Y Weinyddiaeth Amddiffyn
  • Yr Awdurdod Harbwr Lleol perthnasol
  • Yr Adran Drafnidiaeth
  • Ystâd y Goron / Ystâd Swangrove. Ystâd y Goron / Ystâd Swangrove yw perchnogion y blaendraeth / gwely môr yn y rhan fwyaf o achosion
  • Yr Awdurdod Cynllunio Lleol perthnasol

Archeolegol

  • Ymddiriedolaethau Archeolegol Lleol
  • Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

Ymgyngoreion Llywodraeth Cymru

  • Swyddogion Gorfodi Morol
  • Is-adran Môr a Physgodfeydd
  • Polisi, Cynllunio a Phartneriaethau Cludiant
  • Cangen Rheoli Risg Arfordirol a Llifogydd

A oes ymgynghoriad cyhoeddus?

Yn y rhan fwyaf o achosion mae’n ofynnol i ymgeiswyr roi rhybudd cyhoeddus o’u cynigion mewn papur newydd lleol. Bydd yr hysbysiad hwn yn cyfeirio aelodau o’r cyhoedd â diddordeb at adeilad cyhoeddus lle mae’n rhaid i'r ymgeisydd drefnu bod copïau o’r cais a dogfennau ategol ar gael. Bydd yr hysbysiad hefyd yn rhoi manylion cyswllt i'r cyhoedd fel y gallant wneud unrhyw sylwadau ynglŷn â'r cais i ni.

Byddwn yn rhoi’r testun y mae'n rhaid i’r ymgeisydd ei ddefnyddio yn yr hysbysiad, ar ôl derbyn cais.

Ceisio cyngor cyn ymgeisio

Bydd faint o amser mae’n ei gymryd i ni wneud penderfyniad ynghylch trwydded forol yn dibynnu ar ansawdd y wybodaeth a ddarperir yn eich cais. Dylai cais o ansawdd uchel ddarparu digon o wybodaeth i ni allu asesu effeithiau tebygol y gweithgareddau sydd ar y gweill.

Dylai eich cais ddangos yn glir eich bod wedi ystyried effeithiau posibl eich gwaith ar yr amgylchedd gan gynnwys safleoedd dynodedig ac asedau hanesyddol. Dylai hefyd ystyried y risg posibl i fodrwyo a defnyddwyr morol eraill.

Dylai eich cais hefyd amlygu unrhyw gamau y byddwch yn eu cymryd i leihau neu osgoi effeithiau posibl. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth bellach ynglŷn â’r hyn y dylid ei gyflwyno fel gwybodaeth ategol ar dudalen ffurflenni cais trwydded forol ar ein gwefan.

Rydym ni’n eich annog yn gryf i ymgysylltu gyda gwasanaeth cynghori morol CNC: marine.advice@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk ac ymgyngoreion eraill

Bydd datrys problemau gydag ymgyngoreion cyn cyflwyno eich cais yn lleihau’r perygl o oedi.

Gwiriadau addasrwydd ceisiadau

Credwn fod ymgysylltu ystyrlon cyn ymgeisio yn helpu i gryfhau ceisiadau am drwyddedau morol ac yn lleihau risgiau ac oedi yn y broses benderfynu.

Er nad yw’n orfodol yn y broses trwyddedu morol yng Nghymru, gall ymgysylltu cyn-ymgeisio strwythuredig ac ystyrlon â’r ymgyngoreion cywir eich helpu i nodi problemau posibl gyda’ch cais yn gynnar, egluro’r wybodaeth sydd ei hangen, a llywio’r dyluniad a’r dulliau i'w defnyddio. Bydd hyn yn gwella ansawdd eich cais ac yn cefnogi proses benderfynu lyfnach.

Rydym yn cynghori bod ymgysylltu cyn ymgeisio yn cael ei wneud mewn ffordd ystyrlon, gan geisio barn ymgyngoreion a rhanddeiliaid perthnasol, gan ganiatáu digon o amser iddynt fynegi eu barn. Lle bo modd, dylech geisio datrys yr holl faterion perthnasol a godwyd gan ymgyngoreion cyn cyflwyno'ch cais. Rydym yn argymell eich bod yn cynnal yr ymgysylltiad cyn-ymgeisio hwn mewn modd amserol, fel ei fod yn parhau i fod yn ddilys. Rydym felly’n annog peidio â chaniatáu gormod o amser rhwng yr ymgynghoriad a chyflwyno’ch cais.

Felly, rydym yn eich annog yn gryf i geisio cyngor ymgyngoreion perthnasol, yn arbennig ar gyfer y prosiectau canlynol:

  • Pob cais Band 3 sydd angen asesiad o’r effaith amgylcheddol
  • Datblygiadau seilwaith mawr (Band 3)
  • Technolegau a dulliau gweithredu newydd (Band 2 a 3)
  • Dyframaethu
  • Prosiectau a allai ryngweithio'n sylweddol â defnyddwyr cyfreithlon eraill y môr
  • Prosiectau sy'n digwydd mewn ardaloedd sensitif

Y prif ymgyngoreion yr ydym yn argymell eich bod yn estyn allan atynt am gyngor ar eich cais yw’r sefydliadau isod, ond nid ydynt yn gyfyngedig i’r sefydliadau hyn:

Rydym hefyd yn annog ymgysylltu â chymunedau cyn ymgeisio os ydych yn meddwl y gallai eich prosiect fod o ddiddordeb i’r cyhoedd yn gyffredinol.

Lle mae proses ymgysylltu cyn ymgeisio wedi’i chynnal, dylid cyflwyno tabl cryno o’r ymgynghoriad cyn ymgeisio a’r canlyniadau i gefnogi’ch cais. Dylai hyn gynnwys dyddiadau ac enwau’r sefydliadau yr ymgynghorwyd â nhw, crynodeb o’r materion a godwyd, a sut y cafodd y rhain eu hystyried a’u datrys ai peidio, a lle gellir dod o hyd i’r wybodaeth berthnasol yn eich dogfennau ategol.

Ar ôl ei gyflwyno, byddwn yn cynnal adolygiad cychwynnol o'r cais cyn iddo gael ei dderbyn. Mae gennym lefel gwasanaeth o 21 diwrnod ar gyfer y broses hon.

  • Ar gyfer ceisiadau sy’n cynnwys tabl canlyniadau ymgysylltu cyn ymgeisio, bydd y gwiriadau’n cynnwys adolygiad o’r tabl hwn i ddeall sut mae sylwadau a wnaed gan ymgyngoreion wedi’u hystyried (mewn rhai achosion, bydd hyn yn cynnwys cadarnhad gan ymgyngoreion).
  • Ar gyfer ceisiadau nad ydynt yn cael eu cefnogi gan dabl canlyniadau ymgysylltu cyn ymgeisio, efallai y byddwn yn ystyried bod angen cynnal “gwiriad addasrwydd” cyn derbyn eich cais. Bydd hyn yn cynnwys ymgynghoriad strwythuredig gyda detholiad o ymgyngoreion allweddol ar bynciau perthnasol gyda'r nod o asesu'r dull a ddefnyddiwyd, y gofynion data, a’r fethodoleg.

Canlyniad y gwiriad cychwynnol fydd naill ai derbyn ceisiadau sy’n addas i fynd drwy’r broses benderfynu mewn ffordd ystyrlon, neu ddychwelyd y ceisiadau hynny na fyddent yn galluogi asesiad trylwyr ac ystyrlon. Fodd bynnag, mae'n bwysig nodi, hyd yn oed ar gyfer ceisiadau a dderbynnir, efallai y bydd angen i'r ymgeisydd ddarparu rhagor o wybodaeth ar ôl ymgynghori, a disgwylir i’r wybodaeth hon gael ei chynhyrchu mewn modd amserol er mwyn caniatáu i'r broses benderfynu barhau.

Amserlenni ar gyfer penderfynu ar gais am drwydded forol

Nid oes unrhyw amserlenni statudol ar gyfer penderfynu ar geisiadau trwydded forol. Fodd bynnag, mae gennym gytundebau yn eu lle ynghylch amserlenni a elwir yn gytundebau lefel gwasanaeth.

Rydym yn argymell y dylech ystyried yr amserlenni hyn wrth wneud eich cais, ac ychwanegu amser wrth gefn i sicrhau na fydd eich gwaith yn cael ei oedi os bydd eich trwydded yn cael ei chadarnhau.

Ein hamserlenni cytundeb lefel gwasanaeth ar gyfer penderfynu ar drwydded yw:

  • Ceisiadau Band 1 – 6 wythnos, ond os byddwn yn penderfynu nad oes angen datganiad dull yn ystod y cyfnod cyn ymgeisio, fel arfer gallwn benderfynu ar gais o fewn 4 wythnos.
  • Cais Band 2 – 4 mis.
  • Cais Band 3 – nid oes gennym gytundeb lefel gwasanaeth ar gyfer ceisiadau Band 3. Mae prosiectau Band 3 yn aml yn gymhleth iawn felly gall yr amser sydd ei angen i wneud penderfyniad amrywio’n sylweddol.

Mae’r amserlen lefel gwasanaeth yn dechrau unwaith y byddwn wedi derbyn cais wedi’i gwblhau. Os byddwn yn cysylltu gyda chi i ofyn am ragor o wybodaeth er mwyn gallu cwblhau eich cais, ni fydd yr amserlen lefel gwasanaeth yn dechrau nes y byddwn wedi derbyn y wybodaeth honno.

Os byddwn yn gofyn am ragor o wybodaeth, bydd gennych chi 10 diwrnod i ddarparu’r wybodaeth honno. Os na fyddwch yn gwneud hynny ar amser byddwn yn dychwelyd eich cais ac yn rhoi ad-daliad i chi.

Nid oes gennym gytundeb lefel gwasanaeth o ran amserlenni ar gyfer ceisiadau Band 3 gan fod y prosiectau hyn yn amrywiol ac yn gymhleth. Mae amserlenni yn ddibynnol iawn ar natur a lleoliad y prosiect, ac ansawdd y cais. Fodd bynnag, i helpu gyda’r gwaith o gynllunio eich prosiect, rydym ni wedi rhestru amserlenni cyfartalog ac uchafswm yr amser a gymerwyd i benderfynu ar wahanol drwyddedau morol Band 3 rhwng 2014 hyd at ddiwedd 2021 isod. Nid yw’r amseroedd hyn yn gytundeb lefel gwasanaeth ac mae’n bosibl y byddwn yn cymryd mwy o amser gan ddibynnu ar y wybodaeth a gyflwynir.

Math o waith Band 3 Amser Cyfartalog (Misoedd) Uchafswm yr amser (Misoedd)
Cynlluniau Amddiffyn Arfordirol 5 5
Agregau 12 25
Ynni Adnewyddadwy alltraeth 14 25
Pob cais Band 3 arall sy’n gofyn am Asesiad Effaith Amgylcheddol 15 24
Pob cais Band 3 arall nad ydynt yn gofyn am Asesiad Effaith Amgylcheddol 5 11

A oes angen caniatâd arall os yw Trwydded Forol wedi’i rhoi?

Nid yw Trwydded Forol yn eich rhyddhau rhag gwneud cais am unrhyw gydsyniad neu ganiatâd angenrheidiol arall a all fod eu hangen cyn i’r gwaith gael ei wneud.

Nid yw’r rhestr ganlynol yn gynhwysfawr a dylid gofyn am gyngor pellach gan gyrff perthnasol, gan gynnwys yr Awdurdod Cynllunio Lleol.

Mae'n bosibl y bydd angen caniatâd gan Ystâd y Goron ar gyfer bob gwaith ymwthiol ar wely’r môr o fewn 12 milltir fôr o'r arfordir. E-bostiwch consents@thecrownestate.co.uk am ragor o wybodaeth neu eglurhad ynghylch a oes angen caniatâd gwaith bach. Os oes angen caniatâd, bydd angen llenwi ffurflen gais fer a bydd y cais yn cymryd hyd at bedair wythnos i’w brosesu.

Os yw lleoliad y gweithgaredd o fewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) neu'n gofyn am fynediad trwy SoDdGA, yna dylid ceisio caniatâd Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae mwy o wybodaeth ar tudalen Cyfarwyddyd i berchnogion a deiliaid (SoDdGA). 

Os ydych chi eisiau gwneud gwaith mewn, dros, o dan neu wrth ymyl prif afon, neu mewn gorlifdir neu amddiffyniad rhag llifogydd (gan gynnwys amddiffyniad môr), efallai y bydd angen i chi wneud cais am Drwydded Gweithgaredd Risg o Lifogydd.

Mae rhywogaethau penodol yn Rhywogaethau Gwarchodedig Ewropeaidd (EPS). Yn nyfroedd morol Cymru, mae'r rhain yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu, i forfilod, dolffiniaid, llamhidyddion a chrwbanod. Mae yn erbyn y gyfraith i niweidio eu safleoedd bridio/mannau gorffwys, neu i gipio, lladd, anafu neu aflonyddu ar EPS yn fwriadol heb drwydded. Mae Rhywogaethau Gwarchodedig Ewropeaidd Daearol y gall gweithgareddau trwyddedadwy morol eu heffeithio (e.e., atgyweiriadau pier a phont) yn cynnwys ystlumod a dyfrgwn. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yma

Gwneud cais i dyfu neu gynaeafu anifeiliaid a phlanhigion dyfrol (gwymon a physgod cregyn)

Rydych angen trwydded i dyfu neu gynaeafu gwymon yn fasnachol.

Mae rhai gweithgareddau i gynaeafu neu dyfu pysgod cregyn yn fasnachol yn esempt ac efallai na fydd angen trwydded forol ar eu cyfer. Edrychwch i weld pa weithgareddau allai fod yn esempt rhag gorfod cael trwydded forol

Beth i’w gynnwys yn y cais am drwydded:

  • Asesiad Risg Mordwyo (NRA) – cysylltwch ag Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau a Trinity House i helpu gyda hyn.  
  • Cynllun bioddiogelwch
  • Protocol Dal Mamaliaid Morol yn Anfwriadol – cysylltwch â’n gwasanaeth cynghori cyn ymgeisio i helpu gyda hyn.
  • Manylion unrhyw nodweddion safle gwarchodedig – cysylltwch â’n gwasanaeth cynghori cyn ymgeisio i helpu gyda hyn.
  • Tystiolaeth eich bod wedi ymgynghori â’r sefydliadau perthnasol i baratoi eich cais.

Rhaid bod asesiad y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr (WFD) yn cyd-fynd â phob cais (ac eithrio ceisiadau Band 1 gweithgaredd risg isel).

Ni allwn brosesu’r cais nes ein bod wedi derbyn yr holl wybodaeth ategol angenrheidiol.

Os byddwn o’r farn nad yw’r wybodaeth ategol yn ddigonol, byddwn yn gofyn am wybodaeth ychwanegol neu’n dychwelyd y cais ac aros hyd nes y darperir yr holl wybodaeth sydd ei hangen.

Ar ôl i chi gyflwyno eich cais

Efallai y bydd angen i ni ofyn am fwy o wybodaeth neu asesiadau ychwanegol fel y gallwn ddeall effeithiau tebygol y gweithgareddau arfaethedig.

Os oes posibilrwydd y bydd y gweithgaredd arfaethedig yn cael effaith sylweddol ar yr amgylchedd, efallai y byddwn yn gofyn i Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (AEA) gael ei gynnal cyn penderfynu ynghylch y drwydded.

Edrychwch ar y Blwch Offer Rheoleiddio Dyframaeth ar gyfer Cymru i gael rhagor o wybodaeth a allai helpu eich cais.

Diweddarwyd ddiwethaf