Gweithgareddau a allai fod yn eithriedig rhag trwydded forol

Efallai y bydd rhai gweithgareddau sy'n drwyddedadwy am drwydded forol yn gymwys i fod yn esempt ac ni fydd arnynt angen Trwydded Forol. Mae'r rhain wedi'u nodi yn y Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 2011. Yn ogystal, mae yna esemptiadau y manylir amdanynt yn adran 75 Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009.

Dylid cofio fod Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithrediadau Esempt) (Cymru) 2011 yn berthnasol ar gyfer gweithgareddau a gynhelir yn rhanbarth glannau Cymru ac yn rhanbarth môr mawr Cymru. Mae rhanbarth glannau Cymru yn ymestyn 12 môr filltir tua’r môr o Benllanw Cymedrig y Gorllanw (MHWS) hyd at y terfyn tiriogaethol. Mae rhanbarth môr mawr Cymru yn ymestyn y tu hwnt i’r terfyn tiriogaethol ac yn cynnwys yr holl ardaloedd o fôr ym Mharth Cymru.

Os ydych chi'n bwriadu dibynnu ar esemptiad(au) rhaid i chi sicrhau eich bod yn bodloni'r meini prawf a'r amodau cymwys perthnasol. Efallai y bydd angen i chi hefyd roi gwybod i ni am eich gweithgareddau.

Gellir rhannu'r gweithgareddau hyn yn dri chategori:

  1. esemptiadau nad oes angen unrhyw hysbysiad yn eu cylch
  2. esemptiad y mae angen rhoi rhybudd i ni yn ei gylch
  3. esemptiadau sydd angen cymeradwyaeth gennym ni

Gellid cymryd camau gorfodi os penderfynir yn ddiweddarach nad yw'r gweithgaredd, neu'r amgylchiadau y cawsant eu cyflawni ynddynt, yn gyson â thelerau'r esemptiad perthnasol.

Darperir y rhestr hon fel canllaw. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch y gallu i fodloni esemptiad efallai yr hoffech ystyried cael eich cyngor cyfreithiol eich hun.

Gweithgareddau sy'n dod o fewn Rhan 6 Deddf Llongau Masnach 1995

Nid oes angen trwydded ar gyfer gweithgareddau sy'n dod o fewn Rhan 6 Deddf Llongau Masnach 1995 (atal llygredd).

Ymdrinnir â hyn gan Erthygl 7 Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 2011.

Cyfarwyddyd diogelwch o dan Ddeddf Llongau Masnach 1995

Nid oes angen trwydded ar gyfer y gweithgareddau a wneir gan neu ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol wrth arfer pŵer o dan Atodlen 3A i Ddeddf Llongau Masnach 1995 (Cyfarwyddiadau Diogelwch). Mae hyn hefyd yn cynnwys unrhyw bersonau sy'n cydymffurfio â chyfarwyddyd y rhestr honno neu’r bobl hynny sy'n osgoi ymyrraeth gyda chamau a gymerwyd yn rhinwedd y rhestr honno.

Pan fydd damwain wedi digwydd ac mae perygl i ddiogelwch neu o lygredd, yna nid oes angen trwydded ar gyfer unrhyw gamau sy'n deillio o gyfarwyddiadau a roddir gan y Llywodraeth i'r perchennog, meistr ac eraill sy'n rheoli llong. Mae'r Ysgrifennydd Gwladol wedi penodi cynrychiolydd a fydd, mewn gwirionedd, fel rheol yn rhoi’r cyfarwyddiadau hyn.

Ymdrinnir â hyn gan Erthygl 8 Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 2011.

Gweithgareddau Achub

Nid oes angen trwydded ar gyfer gweithgareddau a wneir yn ystod gwaith achub i sicrhau diogelwch llong neu i atal llygredd.

Ymdrinnir â hyn gan Erthygl 9 Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 2011.

Nid bwriad yr esemptiad hwn yw eithrio codi llongddrylliadau neu bynciau eraill o ddiddordeb archeolegol. Mae gweithgareddau achub mewn achosion o'r fath yn debygol o fod yn esempt os dynodir risg newydd o lygredd yn unig.

Diffodd Tân ac ati

Nid oes angen trwydded er mwyn diffodd, neu atal unrhyw dân rhag lledaenu.

Ymdrinnir â hyn gan Erthygl 10 Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Eithriedig) (Cymru) 2011.

Ymchwiliad i ddamweiniau awyr

Nid oes angen trwydded ar gyfer gweithgareddau gollwng neu symud, a wneir i adfer unrhyw sylwedd neu wrthrych fel rhan o ymchwiliad i ddamwain sy'n cynnwys awyrennau.

Mae hyn er mwyn cynorthwyo i wneud ymchwiliad cyflym i achosion damwain. Nid yw'n esemptio achub awyrennau hanesyddol.

Ymdrinnir â hyn gan Erthygl 11 Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 2011.

Gweithrediadau Pysgota

Nid oes angen trwydded mewn perthynas â'r gweithgareddau canlynol a gyflawnir yn ystod gweithrediad pysgota:

  • gollwng offer pysgota (ac eithrio at ddiben gwaredu)
  • gweithgaredd symud neu garthu at ddiben pysgota neu gymryd pysgod, neu gael gwared ag offer pysgota
  • gollwng unrhyw bysgod neu wrthrych arall drwy eu dychwelyd i'r môr

Ymdrinnir â hyn gan Erthygl 12 Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 2011.

Mae "pysgod" yn cynnwys unrhyw ran o bysgodyn a physgod cregyn hefyd. Mae "taclau pysgota" yn cynnwys taclau a ddefnyddir i bysgota pysgod cregyn neu i gymryd pysgod cregyn, ond nid yw'n cynnwys unrhyw beth a ddefnyddir mewn cysylltiad â lluosogi neu amaethu pysgod cregyn.

Mae yna esemptiad penodol Erthygl 13 ar gyfer gweithgareddau gollwng, symud neu garthu a gyflawnir er mwyn lluosogi neu amaethu pysgod cregyn.

Lluosogi ac amaethu pysgod cregyn

Nid oes angen trwydded forol ar gyfer y gweithgareddau canlynol a gyflawnir wrth luosogi ac amaethu pysgod cregyn;

  • gollwng unrhyw bysgod cregyn, trestl, cawell, polyn, rhaff neu lein
  • gweithgaredd symud neu weithgaredd carthu a gyflawnir er mwyn symud pysgod cregyn o fewn y môr

Amodau'r esemptiad hwn:

  • nid yw'r gollwng at ddiben gwaredu
  • nid yw'r gollwng at ddiben creu, newid neu gynnal riff artiffisial
  • nid yw'r gollwng yn achosi nac yn debygol o achosi rhwystr neu berygl i lywio

Rydym yn cynghori eich bod chi'n cysylltu â'r awdurdod harbwr lleol, Trinity House (Navigation.directorate@trinityhouse.co.uk) a'r Asiantaeth Forwrol a Gwylwyr y Glannau (navigationsafety@mcga.gov.uk) er mwyn sicrhau na fydd y gweithgaredd yn achosi rhwystr neu berygl i lywio ac i ni.

Ymdrinnir â hyn gan Erthygl 13 Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 2011.

Gollwng sylweddau triniaeth gemegol forol a sylweddau trin olew morol ac ati

Nid oes angen trwydded ar gyfer gollwng unrhyw sylwedd triniaeth gemegol forol, sylwedd trin olew morol neu unrhyw sylwedd a ddefnyddir ar gyfer tynnu deunydd sy’n baeddu o wyneb y môr neu o wely'r môr.

Mae'r esemptiad yn ddarostyngedig i'r amod canlynol:

  • rhaid i sylwedd gael ei gymeradwyo at y diben hwn gan Gyfoeth Naturiol Cymru sy'n gweithredu ar ran yr awdurdod trwyddedu
  • rhaid defnyddio sylwedd yn unol ag unrhyw amodau y mae'r gymeradwyaeth yn ddarostyngedig iddynt
  • nid oes unrhyw beth yn cael ei ollwng mewn ardal o'r môr sydd â dyfnder o lai nag 20 metr neu o fewn un filltir forol o unrhyw ardal o'r fath, oni bai bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithredu ar ran yr awdurdod trwyddedu wedi rhoi cymeradwyaeth i wneud hynny
  • ni ellir gollwng unrhyw sylwedd trin cemegol / trin olew morol islaw wyneb y môr, oni bai bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithredu ar ran yr awdurdod trwyddedu wedi rhoi cymeradwyaeth i wneud hynny

Ymdrinnir â hyn gan Erthygl 14 Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 2011.

Gollwng offer i reoli, cynnwys neu adfer olew ac ati

Nid oes angen trwydded ar gyfer gollwng unrhyw offer sydd wedi'i fwriadu i reoli, cynnwys neu adfer olew, cymysgeddau sy'n cynnwys olew, cemegau, broc môr neu ordyfiant o algae.

Ymdrinnir â hyn gan Erthygl 15 Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 2011.

Offerynnau gwyddonol ac ati

Mewn llawer o achosion ni fydd angen trwydded i ollwng offerynnau gwyddonol neu offer cysylltiedig mewn cysylltiad ag unrhyw arbrawf gwyddonol neu arolwg ar y môr (neu i’w symud wedyn).

Nid oes angen trwydded ar gyfer gollwng adweithyddion neu dracwyr sydd wedi'u cymeradwyo gan Gyfoeth Naturiol Cymru sy'n gweithredu ar ran yr awdurdodau trwyddedu, ond rhaid eu defnyddio yn unol ag unrhyw amodau.

Nid yw'r eithriad hwn yn berthnasol i;

  • ollwng unrhyw beth at ddibenion gwaredu,
  • gollwng unrhyw beth a allai achosi neu sy'n debygol o achosi rhwystr neu berygl i lywio
  • gollwng neu ddileu unrhyw beth sy'n debygol o gael effaith sylweddol ar ardal warchodedig forol (oni bai ei fod yn uniongyrchol gysylltiedig â rheoli'r safle hwnnw neu sy'n angenrheidiol i reoli'r safle hwnnw)

Yn ogystal, ystyriwn nad yw'r esemptiad yn berthnasol i:

  • unrhyw waith adeiladu cysylltiedig, er enghraifft i adeiladu strwythur ar y môr i gynnwys offer gwyddonol
  • unrhyw garthu - a ystyrir fel unrhyw weithgaredd sy’n defnyddio unrhyw ddyfais i symud deunydd o un rhan o wely'r môr i un arall (fel y diffinnir hynny yn adran 66(2)  Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009)

Rydym yn cynghori eich bod chi'n cysylltu â'r awdurdod harbwr lleol, Trinity House (Navigation.directorate@trinityhouse.co.uk) a'r Asiantaeth Forwrol a Gwylwyr y Glannau (navigationsafety@mcga.gov.uk) er mwyn sicrhau na fydd y gweithgaredd yn achosi rhwystr neu berygl i lywio ac i ni y Tîm Cyngor a Rheoli Ardal Forol (marine.advice@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk) er mwyn sicrhau na fydd y gollwng neu'r symud yn debygol o effeithio'n sylweddol ar ardal warchodedig forol.

Ymdrinnir â hyn gan Erthygl 16 Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 2011.

Gollwng wrth garthu am agregau neu fwynau

Nid oes angen trwydded i ddychwelyd unrhyw sylwedd neu wrthrych ar safle’r carthu i'r môr a gymerir wrth garthu am agregau neu fwynau. Mae gwrthrychau neu sylweddau yn golygu eitemau megis hen arfau, sbwriel neu eitemau swmpus eraill. (Nid yw hyn yn cynnwys yr agregau neu'r mwynau sy'n cael eu carthu.) Ond lle mae'n ddiogel gwneud hynny, rydym yn annog llongau'n gryf i ddychwelyd sbwriel i'r lan i'w ailgylchu.

Gallai peiriant carthu am agregau hefyd ollwng dŵr naill ai trwy bibellau gorlif trwy’r tyllau yn ei ochr neu drwy bwmpio dŵr o howld y llong i ddraenio cargo. Nid oes ar beiriannau carthu angen trwydded ar gyfer gollyngiadau o'r fath yn ystod carthu fel hyn, ar ôl cwblhau'r carthu neu ar y daith yn ôl i'r porthladd.

Ymdrinnir â hyn gan Erthygl 17 Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 2011.

Cynnal a chadw gwaith diogelu’r arfordir, draenio a gwaith amddiffyn rhag llifogydd

Nid oes angen trwydded ar gyfer gweithgaredd a wneir gan, neu ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru, i gynnal gwaith diogelu'r arfordir, gwaith draenio neu waith amddiffyn rhag llifogydd. Nid oes angen trwydded ychwaith ar gyfer gweithgaredd a wneir gan neu ar ran awdurdod diogelu'r arfordir (yr awdurdod lleol fel arfer) at ddibenion cynnal gwaith amddiffyn yr arfordir.

Mae'r esemptiad yn ddarostyngedig i’r amod bod y gweithgaredd yn cael ei wneud o fewn ffiniau presennol y gwaith sy'n cael ei gynnal. Nid yw'n berthnasol i unrhyw weithgaredd sy'n cynnwys ailgyflenwi traeth.

Ymdrinnir â hyn gan Erthygl 18 Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 2011.

Gwaith argyfwng mewn ymateb i lifogydd neu berygl llifogydd

Nid oes angen trwydded ar gyfer gweithgareddau sy'n cael eu cynnal gan neu ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer gwaith brys mewn ymateb i unrhyw lifogydd, neu'r risg o lifogydd sydd ar fin digwydd.

Ond rhaid rhoi cymeradwyaeth gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn gweithredu ar ran yr awdurdod trwyddedu cyn dechrau'r gwaith.

Ymdrinnir â hyn gan Erthygl 19 Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 2011.

Defnyddio cerbydau i gael gwared â sbwriel neu wymon o draethau

Nid oes angen trwydded ar gyfer defnyddio cerbyd i gael gwared â sbwriel neu wymon o'r traeth cyn belled â bod y gweithgaredd yn cael ei wneud gan neu ar ran awdurdod lleol. Nid yw'r esemptiad yn berthnasol os yw'r gweithgaredd yn debygol o gael effaith sylweddol ar ardal forol a ddiogelir oni bai ei fod mewn cysylltiad uniongyrchol â rheoli’r safle hwnnw neu'n angenrheidiol iddo.

Ymdrinnir â hyn gan Erthygl 20 Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 2011.

Gollwng yn ystod mordwyo neu waith cynnal a chadw arferol

Nid oes angen trwydded i ollwng o gerbyd, llong, awyren neu strwythur morol wrth fordwyo arferol neu wrth wneud gwaith cynnal a chadw arferol. Bwriedir i'r esemptiad hwn ganiatáu i weithgareddau arferol megis gollwng angor, profi gorfodol ar offer diffodd tân neu sgleinio llafnau gwthio gael eu gwneud heb fod angen trwydded.

Ymdrinnir â hyn gan Erthygl 21 Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 2011.

Nid yw hyn yn cynnwys dyddodion i bwrpas gwaredu.

Cynnal gwaith harbwr

Nid oes angen trwydded ar gyfer y gweithgaredd dyddodi, symud neu waith sy'n cael ei gynnal gan neu ar ran awdurdod harbwr er mwyn cynnal unrhyw waith harbwr. Mae'r eithriad yn ddarostyngedig i’r amod bod y gweithgaredd yn cael ei wneud o fewn ffiniau presennol y gwaith sy'n cael ei gynnal.

Ymdrinnir â hyn gan Erthygl 22 Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 2011.

Dileu rhwystr neu berygl i lywio

Nid oes angen trwydded ar awdurdod gwarchod, awdurdod harbwr, awdurdod goleudy neu gorff sy'n cael pwerau i gynnal camlas neu lwybrau mordwyo eraill, gan gynnwys mordwyo mewn dyfroedd llanw i gael gwared ar unrhyw beth sy'n achosi neu sy'n debygol o achosi rhwystr neu berygl i lywio.

Ymdrinnir â hyn gan Erthygl 23 Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 2011.

Angori a chymhorthion i lywio

Nid oes angen trwydded ar awdurdodau harbwr ac awdurdodau goleudy i ollwng neu gael gwared ar angorfeydd ar ffurf polion neu rai sy’n siglo neu rai ‘trot’ neu gymhorthion i fordwyo (fel bwiau marcio). Nid oes angen trwydded ychwaith ar bobl sy'n ymgymryd â gweithgareddau o'r fath gyda'r caniatâd, sy'n ofynnol gan ac a roddir gan awdurdod harbwr neu awdurdod goleudy.

Ymdrinnir â hyn gan Erthygl 24 Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 2011.

Nid yw’r esemptiad hwn yn berthnasol i ollwng neu adeiladu pontŵn.

Marcwyr ar gyfer safleoedd morol Ewropeaidd

Nid oes angen trwydded ar gyfer gollyngiad a wneir gan Gyfoeth Naturiol Cymru i osod marcwyr i nodi presenoldeb a ffiniau safleoedd cadwraeth morol yr UE a/neu ddileu marcwyr o’r fath.

Ond rhaid i Gyfoeth Naturiol Cymru sy’n gweithredu ar ran yr awdurdod trwyddedu cyn dechrau'r gwaith roi cymeradwyaeth, a rhaid gwneud y gwaith yn unol ag unrhyw amodau y mae'r gymeradwyaeth yn ddarostyngedig iddynt.

Ymdrinnir â hyn gan Erthygl 25 Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 2011.

Lansio llongau ac ati

Nid oes angen trwydded ar gyfer gollyngiad sy’n gysylltiedig â lansio cerbyd, llong, awyren, strwythur morol neu gynhwysydd symudol.

Ymdrinnir â hyn gan Erthygl 26 Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 2011.

Mae “llong” yn cynnwys:

  • hofrenfad
  • unrhyw long arall sy'n gallu teithio ar, yn, neu o dan ddŵr, p'un a yw'n gallu symud ei hun ymlaen ai peidio

Ystyr "strwythur morol" yw llwyfan neu strwythur artiffisial arall ar y môr, heblaw am biblinell.

Datgymalu Llongau

Nid oes angen trwydded ar gyfer gweithgaredd gollwng neu symud a gyflawnir fel rhan o ddatgymalu llong sy'n wastraff.

Ymdrinnir â hyn gan Erthygl 27 Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 2011.

Llwybrau deifwyr mewn ardaloedd cyfyngedig

Nid oes angen trwydded ar weithgaredd gollwng neu symud at ddibenion gosod, diogelu neu symud arwyddion neu farciau adnabod eraill ar gyfer deifwyr ar longddrylliadau a ddiogelir o dan Ddeddf Llongddrylliadau 1973.

Ymdrinnir â hyn gan Erthygl 28 Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 2011.

Mae angen cymeradwyarth gan CADW o dan Ddeddf 1973 ar gyfer gweithgareddau ar longddrylliadau o'r fath.

Rydym hefyd yn cynghori ymgysylltiad a’r Comisiwm Brenhinol Henebion Cymru (RCAHMW).

Gweithgareddau gwylwyr y glannau - dibenion diogelwch a hyfforddiant

Nid oes angen trwydded ar gyfer gweithgaredd a wneir gan neu ar ran yr Asiantaeth Forwrol a Gwylwyr y Glannau er mwyn sicrhau diogelwch llong, awyren neu strwythur morol, achub bywyd neu i hyfforddi ar gyfer sefyllfaoedd o'r fath.

Ymdrinnir â hyn gan Erthygl 29 Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 2011.

Gollwng a defnyddio fflêr ayyb - dibenion diogelwch a hyfforddiant

Nid oes angen trwydded ar gyfer gollwng a defnyddio fflôt mwg, fflêr trallod neu sylwedd neu wrthrych pyrotechnig tebyg er mwyn sicrhau diogelwch llong, awyren neu strwythur morol, achub bywyd neu i hyfforddi ar gyfer sefyllfaoedd o'r fath.

Ymdrinnir â hyn gan Erthygl 30 Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 2011.

Ceblau a phiblinellau - arolygu ac atgyweirio brys awdurdodedig

Nid oes angen trwydded ar gyfer gweithgaredd gollwng, symud neu garthu i wneud gwaith archwilio neu atgyweirio brys i unrhyw gebl neu bibell.

Ond rhaid i Gyfoeth Naturiol Cymru roi cymeradwyaeth ar ran yr awdurdod trwyddedu cyn dechrau'r gwaith.

Ymdrinnir â hyn gan Erthygl 31 Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 2011.

Twneli wedi’u tyllu

Nid oes angen trwydded ar gyfer gweithgareddau sy'n gysylltiedig ag adeiladu neu weithredu twnnel wedi’i dyllu sy'n cael ei wneud yn gyfan gwbl o dan wely'r môr.
Mae'r eithriad yn ddarostyngedig i’r amod na ddylai'r gweithgaredd effeithio'n andwyol ar amgylchedd Cymru a rhanbarth y môr Cymru na'r adnoddau byw y mae'n eu cynnal. Nid yw'r eithriad yn berthnasol i unrhyw ddyddodion a wneir at ddibenion gwaredu.

Nid yw'r esemptiad yn berthnasol i ollwng unrhyw sylwedd yn y twnnel wedyn, fel ceblau a phiblinellau.

Rhaid rhoi hysbysiad ysgrifenedig o'r bwriad i wneud gwaith i Gyfoeth Naturiol Cymru sy'n gweithredu ar ran yr awdurdod trwyddedu cyn dechrau'r gwaith.
Ymdrinnir â hyn gan Erthygl 32 Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 2011.

Mae'r esemptiad hwn yn berthnasol i adeiladu neu weithredu'r twnnel wedi’i dyllu’n unig ac nid i unrhyw weithgaredd adeiladu neu ddyddodi cysylltiedig.

Hawliau llongau tramor ac ati o dan y gyfraith ryngwladol

Nid oes angen trwydded pan gynhelir gweithgareddau trwy arfer hawl o dan reolau cyfraith ryngwladol, gan neu mewn perthynas â:

  • llong trydedd wlad (llong sy'n chwifio baner, neu sydd wedi'i chofrestru o fewn, unrhyw wladwriaeth neu diriogaeth (heblaw Gibraltar) nad yw'n aelod-wladwriaeth, neu nad yw wedi ei chofrestru mewn aelod-wladwriaeth)
  • llong rhyfel, llongau cynorthwyol neu long neu awyren arall sy'n eiddo i neu'n cael ei gweithredu gan unrhyw Genedl pan gaiff ei ddefnyddio yn unig ar gyfer gwasanaeth anfasnachol y llywodraeth

Mae'r esemptiad hwn yn bwriadu sicrhau nad yw hawliau dan gyfraith forol ryngwladol gwledydd nad ydynt yn rhan o'r UE a llongau sofran o wledydd eraill yn cael eu torri.

Ymdrinnir â hyn gan Erthygl 33 Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 2011.

Llwytho cerbyd neu long ac ati i'w losgi y tu allan i Gymru a rhanbarth y môr Cymru

Nid oes angen trwydded ar gyfer llwytho cerbyd, llong, awyren, strwythur morol neu gynhwysydd symudol gydag unrhyw sylwedd neu wrthrych i'w losgi y tu allan i Gymru a rhanbarth y môr Cymru cyn belled â bod llosgi yn digwydd o fewn rhanbarth yr Alban neu mewn ardal drwyddedu forol y DU.

Ymdrinnir â hyn gan Erthygl 34 Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 2011.

Bwriedir i hyn gael gwared â dyblygu a fyddai’n cael ei achosi fel arall oherwydd y gofyniad i gael trwydded o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 ac o dan Ddeddf Forol (Yr Alban) 2010.

Byddai angen trwydded gan yr awdurdod trwyddedu perthnasol ar gyfer gweithgaredd llosgi.

Nid yw'r esemptiad hwn yn berthnasol os yw'r gyrchfan ar gyfer y llosgi tu allan i ranbarth arfordirol yr Alban neu ardal drwyddedu forol y DU.

Eithriadau ar gyfer Rhai Gweithgareddau Carthu

Nid oes angen trwydded forol pan fydd gweithgarwch carthu neu waredu sbwriel sy'n deillio o'r gweithgaredd hwnnw yn cael ei gyflawni gan neu ar ran awdurdod harbwr ac wedi'i awdurdodi gan ac yn cael ei gyflawni yn unol ag unrhyw Ddeddf leol neu Ddeddf Harbyrau 1964.

Os yw'r gweithgaredd yn cynnwys adennill neu waredu deunydd wedi'i garthu, mae'n rhaid bodloni'r amodau canlynol hefyd:

  • mae'r gweithgaredd carthu a gwaredu yn cynnwys adleoli gwaddodion o fewn i ddyfroedd wyneb
  • pwrpas y gollwng yw un o'r canlynol:
    • rheoli dyfroedd neu ddyfrffyrdd
    • atal llifogydd
    • lliniaru effeithiau llifogydd neu sychder
    • adfer tir
  • y profir i foddhad Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gweithredu ar ran yr awdurdod trwyddedu nad yw'r gwaddodion yn wastraff peryglus

Ymdrinnir â hyn gan Adran 75 Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir (2009).

Diweddarwyd ddiwethaf