Trwyddedu Morol a'r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr
Gwybodaeth ynghylch y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr a sut mae’n berthnasol i drwyddedu morol
Diweddariad Coronafirws (gyda BACS)
Mae ein staff bellach yn gweithio gartref cyn belled ag y bo modd. Mae hyn yn golygu na allwn dderbyn ffurflenni cais papur ar hyn o bryd. Byddwch yn gallu anfon ffurflenni drwy e-bost ac os bydd angen, gallwch wneud taliadau trwy BACS.
Bydd arnoch angen Microsoft Word 2010 neu gyfwerth i allu defnyddio'r ffurflenni electronig.
Er ein bod yn gobeithio sicrhau fod hyn yn amharu gyn lleied ag sydd bosibl arnoch, cofiwch y gallai’r amser prosesu fod yn hwy yn ystod y cyfnod hwn o drawsnewid.
Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr
Diogelir cyrff dŵr trosiannol ac arfordirol o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr gyda'r bwriad o sicrhau statws cyffredinol da. Felly, rhaid i brosiect neu weithgaredd trwyddedig tua’r môr o'r Cymedr Penllanw Mawr a hyd at 1 môr-filltir ddangos na fydd yn achosi 'dirywiad yn y corff dŵr'. Sylwer – nid yw statws cemegol y corff dŵr yn cael ei asesu hyd at 12 milltir forol.
Rhaid i bob cais (ac eithrio ceisiadau am weithgareddau risg isel Band 1) gael ei ategu gan asesiad WFD (Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr).
Gellir dod o hyd i ganllawiau ar sut i gynnal asesiad WFD ar wefan Gov.uk. Bydd dolenni ar wefan gov.uk yn eich tywys at ddata’n ymwneud â chyrff dŵr yn Lloegr; mae data’n ymwneud â chyrff dŵr yng Nghymru ar gael ar we-dudalennau Arsylwi Dyfroedd Cymru.