Morgludo ffynonellau ymbelydrol rhwng y DU a'r UE

Mae’r canllawiau hyn yn disodli proses flaenorol Rheoliad 1493/93 yn dilyn ymadawiad y DU â’r UE.

Datganiad ysgrifenedig

Bydd yn dal yn angenrheidiol cael datganiad ysgrifenedig ymlaen llaw er mwyn morgludo ffynonellau ymbelydrol seliedig i’r DU o’r UE. Gall y rhain fod yn berthnasol i fwy nag un llwyth ac maent yn para am gyfnod o 3 blynedd. Mae datganiadau ysgrifenedig a wnaed cyn inni ymadael â’r UE yn parhau i fod yn ddilys o 1 Ionawr 2021 hyd eu dyddiad dod i ben penodol.

Pan fydd angen datganiad ysgrifenedig newydd ymlaen llaw ar gyfer ffynonellau a fwriedir ar gyfer Cymru, gellir anfon hwn i Cyfoeth Naturiol Cymru gan ddefnyddio’r ffurflen ar gyfer morgludo sylweddau ymbelydrol. 

Er mwyn cael copi o’r ffurflen hon, cysylltwch â ni a byddwn yn rhoi gwybod ichi sut i’w hanfon yn ddiogel inni. Peidiwch â’i hanfon yn electronig heb ei hamgryptio.

industryregulation.southeast@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Ceir rhagor o wybodaeth am y prosesau sydd angen i weithredwyr eu dilyn ar wefan GOV.UK.

Gall yr wybodaeth am ffynonellau eithriedig aros yr un fath ar y dudalen.

Ffynonellau wedi eu heithrio

Mae actifedd rhai ffynonellau seliedig mor isel fel eu bod yn cael eu heithrio, gweler Tabl 5 yn Atodlen 23 Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol 2010 (fel y’u diwygiwyd yn 2011). Er enghraifft  mae ffynhonnell cobalt-60 llai na 100 kBq yn eithriedig.

Diweddarwyd ddiwethaf