Hysbysiad O Gais Am Orchymyn Sychder Afon Hafren
Asiantaeth Yr Amgylchedd A Cyfoeth Naturiol Cymru Deddf Adnoddau Dŵr 1991 Hysbysiad O Gais Am Orchymyn Sychder Afon Hafren
NODER, oherwydd y bygythiad o ddiffyg difrifol o ran llifoedd/lefelau yn nalgylch Afon Hafren sy'n peri bygythiad difrifol i'r fflora neu'r ffawna sy'n ddibynnol ar y dyfroedd hynny, fod Asiantaeth yr Amgylchedd (“yr Asiantaeth”) mewn perthynas â Lloegr yn gwneud cais i Ysgrifennydd Gwladol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, a bod Cyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas â Chymru yn gwneud cais i Lywodraeth Cymru am orchymyn sychder o dan Adran 73 o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991. Mae'r diffyg yn cael ei achosi gan brinder glaw eithriadol.
Nod y gorchymyn sychder arfaethedig, y bwriedir iddo fod yn berthnasol am hyd at 6 mis, yw cynnal adnoddau dŵr â chymorth ar hyd Afon Hafren gyfan am gyfnod hirach ar symiau is, yn hytrach na mentro rhedeg allan o ddŵr â chymorth ac achosi gostyngiadau sylweddol a sydyn yn lefelau/llif yr afon a fyddai’n rhoi straen ar ecoleg ac yn effeithio ar bysgod mudol.
Mae Afon Hafren yn cael ei chynnal yn artiffisial gan ollyngiadau o gronfeydd dŵr a dŵr daear y rhan fwyaf o flynyddoedd: 'Rheoleiddio Afon Hafren' yw’r enw ar y broses hon. Eleni, bu angen rhyddhau dŵr yn barhaus ac mewn symiau mawr er mwyn cynnal afon iach. Mae hyn wedi gostwng lefelau dŵr yng Nghronfa Ddŵr Llyn Clywedog ym mlaen Afon Hafren yng Nghymru i’r trothwyon gweithredu sychder, lefel sy'n gofyn am newidiadau mewn gweithrediadau trwy orchymyn sychder i arbed dŵr.
Mae cynnig Gorchymyn Sychder Afon Hafren yn cynnwys:
- rhoi terfyn uchaf ar faint o ddŵr y gellir ei ryddhau o gronfa ddŵr Llyn Clywedog i 300 megalitr y dydd (Ml/d);
- lleihau'r llif penodedig yn Bewdley o gymedr dyddiol sengl o 727 Ml/d ac 850 Ml/d ar gyfartaledd dros 5 diwrnod i darged o 730 Ml/d ar gyfartaledd dros 5 diwrnod;
- lleihau'r llif penodedig yn Bewdley islaw'r llif targed o 730 Ml/d ar gyfartaledd dros 5 diwrnod os na all gollyngiadau Rheoleiddio Afon Hafren gyflawni hyn mwyach;
- gosod gostyngiad o 5% ar faint o ddŵr y gall cwmnïau dŵr dynnu yn ôl eu trwyddedau ar Afon Hafren;
- gosod terfyn tynnu dŵr o 300 Ml/d ar dynnu dŵr yn Nociau Caerloyw ar gyfer Camlas Caerloyw a Sharpness yn Lloegr, pan fydd llifoedd ym mesurydd Deerhurst neu Haw Bridge islaw 1,200 Ml/d;
- gosod terfyn uchaf ar ollyngiadau o gronfa ddŵr Llyn Clywedog o 1.5% o'r dŵr wedi’i storio sy'n weddill os yw lefel y dŵr wedi’i storio yn Llyn Clywedog yn mynd o dan y trothwy 'storio argyfwng'.
Bydd effaith ddisgwyliedig y gorchymyn sychder, os caiff ei ganiatáu, yn gostwng llif a lefelau dŵr ar hyd Afon Hafren er mwyn arbed dŵr yng nghronfa ddŵr Llyn Clywedog. Bydd arbed dŵr yn caniatáu i ollyngiadau dŵr barhau am gyfnod hirach i amddiffyn pysgod mudol ac ecoleg yn ystod cyfnod gwaethaf y sychder a sicrhau y gall y gronfa ail-lenwi'n gyflymach i ddarparu gwell amddiffyniad mewn blynyddoedd sych dilynol. Heb y gorchymyn sychder, mae risg y bydd gollyngiadau o gronfa ddŵr Llyn Clywedog yn
dod i ben a gallai rhannau o ran uchaf afon Hafren fod mewn perygl o sychu, gan achosi i’r afon gyfan brofi’r llifoedd isaf erioed a straen amgylcheddol.
Rhagwelir y bydd effeithiau gweithredu Gorchymyn Sychder Afon Hafren yn rhai dros dro ac unwaith y bydd glawiad arferol yn dychwelyd, dylai'r amgylchedd wella'n naturiol ac adfer o fewn un i dair blynedd. Mae hyn yn gyson â’r cyfnod naturiol disgwyledig ar gyfer adfer ar ôl sychder.
Gall unrhyw un archwilio'r cynigion, sy'n cynnwys map o'r ardal yr effeithir arni gan y gorchymyn, tan 25 Awst 2026. Gallwch archwilio’r cynigion yn rhad ac am ddim yn ystod oriau gwaith arferol trwy apwyntiad yn:-
Swyddfeydd Asiantaeth yr Amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru:
- Cyfoeth Naturiol Cymru, Powells Place, Powells Lane, y Trallwng, Powys
SY21 7JY (Oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener 9:00-17:00). I drefnu apwyntiad yn y swyddfa hon, cysylltwch â thîm Ymholiadau'r Ganolfan Cwsmeriaid ar 0300 065 3000 neu ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk - Asiantaeth yr Amgylchedd, Hafren House, Welshpool Road, Shelton, Amwythig
SY3 8BB (Oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener 9:00-17:00). - Asiantaeth yr Amgylchedd, Mance House, Arthur Drive, Kidderminster, DY11 7RA (Oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener 9:00-17:00).
- Asiantaeth yr Amgylchedd, Riversmeet House, Ystâd Ddiwydiannol Newtown, Northway Lane, Tewkesbury, Swydd Gaerloyw, GL20 8JG (Oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener 9:00-17:00).
- I drefnu apwyntiad yn swyddfa Asiantaeth yr Amgylchedd cysylltwch â 03708 506 506 neu enquiries_westmids@environment-agency.gov.uk
Llyfrgell leol:
- Llyfrgell Llanidloes, 6 Great Oak Street, Llanidloes SY18 6BN llanidloes.library@powys.gov.uk (Oriau Agor dydd Llun 10am-1pm, dydd Mercher 10am-1pm a 2pm-6pm, dydd Gwener 10am-1pm a 2pm-4pm, dydd Sadwrn 9:30am-1pm)
Gallwch weld y cais a'r dogfennau ategol ar-lein yn: https://ymgynghori.cyfoethnaturiol.cymru/permitting-caniatau/gorchymyn-sychder-afon-hafren
Rhaid anfon gwrthwynebiadau at Defra a Llywodraeth Cymru drwy e-bost neu yn ysgrifenedig:
water.resources@defra.gov.uk a dwr@llyw.cymru
Secretary of State for Environment
Food and Rural Affairs
c/o Water Resources Policy
Department for Environment
Food and Rural Affairs
Seacole 3rd Floor
2 Marsham Street
London
SW1P 4DF
Y Gangen Dŵr
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Dylid gwneud gwrthwynebiadau ar unwaith ac ym mhob achos rhaid eu derbyn erbyn 5pm ar 25 Awst 2026 fan bellaf. Dylai'r ymateb amlinellu a ydych chi'n gwneud gwrthwynebiad ffurfiol i'r cynnig a'r sail dros y gwrthwynebiad.
Dyddiedig 17 Awst 2026
Grace Wight
Rheolwr Amgylchedd
Cynllunio ac Ymgysylltu Gorllewin Canolbarth Lloegr
Asiantaeth yr Amgylchedd
Mance House
Arthur Drive
Kidderminster
DY11 7RA
Huwel Manley
Cyfarwyddwr Gweithredol Dros Dro
Gweithrediadau Lle
Cyfoeth Naturiol Cymru
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3NQ