Deddf Adnoddau Dŵr 1991 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Dŵr 2003)

Hysbysir trwy hyn, yn unol ag Adran 37 Deddf Adnoddau Dŵr 1991 a Rheoliad 6 Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Tynnu a Chronni Dŵr) 2006 i gais gael ei wneud i Cyfoeth Naturiol Cymru gan Plas Panteidal Estate Management Limited am drwydded lawn i dynnu dŵr o ffrwd ddienw i fyny’r afon o afon Dyfi yng Nghyfeirnod Grid Cenedlaethol SN 65316 98267 ym Mhlas Panteidal, Aberdyfi, Gwynedd, LL35 0RF. Y cynnig yw tynnu dŵr yn ôl y cyfraddau a’r cyfnodau canlynol ar gyfer cyflenwi dŵr domestig: 2.4 metr ciwbig yr awr, 57.6 metr ciwbig y dydd a 21,024 metr ciwbig y flwyddyn, drwy’r flwyddyn.

Gwneir cais hefyd am drwydded i rwystro neu atal llif ffrwd ddienw i fyny’r afon o afon Dyfi yng Nghyfeirnod Grid Cenedlaethol SN 65316 98267 ym Mhlas Panteidal, Aberdyfi, Gwynedd, LL35 0RF. Mae’r croniad yn gored newydd i reoli’r gwaith o dynnu dŵr.

Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus ar-lein. Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio’r manylion cais isod neu gallwch ofyn am gopi o’r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.

Os ydych am ofyn am gopi neu dymunwch wneud sylwadau ynghylch y cais, rhaid ichi wneud hynny yn ysgrifenedig, gan ddyfynnu enw’r ymgeisydd a’r Cyfeirnod  PAN-031558 & PAN-031559 wrth

Cyfoeth Naturiol Cymru
Gwasanaeth Trwyddedu
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3NQ

neu drwy e-bost i permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk erbyn 18/06/2026 fan bellaf.

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth, gweler adran ymgynghoriadau ein gwefan http://naturalresources.wales/?lang=cy neu ffoniwch ein Canolfan Gofal Cwsmeriaid 0300 0653000 (Dydd Llun-Gwener, 9-5).

Diweddarwyd ddiwethaf