Awdur: Sarah Senior. Swyddog Trwyddedu (Adnoddau Dŵr)
Rhif y Cais: PAN-022237
Rhif y drwydded: 22/62/01/0087
Ardal CNC: Canolbarth

Dyddiad y cais: 02/06/2023   

Manylion yr ymgeisydd: Dŵr Cymru Cyfyngedig, Dŵr Cymru Welsh Water, Linea, Heol Fortran, Llaneirwg, Caerdydd, Cymru CF3 0LT

Crynodeb o'r cynnig: Mae gan yr ymgeisydd drwydded tynnu dŵr lawn rhif 22/62/01/0087, sy'n caniatáu tynnu dŵr at ddibenion cyflenwi dŵr cyhoeddus yn SN 79 66. Wrth dynnu dŵr defnyddir pwynt mewnlif sefydlog trwy borthiant disgynnol. Mae'r ymgeisydd wedi gwneud cais i amrywio'r drwydded hon i ychwanegu ail ddull o dynnu dŵr – pwmp dros dro. Y rheswm dros ychwanegu'r ail ddull yw caniatáu i’r broses dynnu dŵr barhau yn ystod adegau o sychder difrifol pan y gallai lefel y dŵr ddisgyn yn is na'r mewnlif presennol.

Hanes yr achos: Gwnaeth yr ymgeisydd gais i amrywio trwydded 22/62/01/0087 ym mis Mawrth 2022; i ychwanegu ail ddull o dynnu dŵr a chynyddu’r cyfaint trwyddedig. Cafodd y cais hwn ei dynnu'n ôl ym mis Hydref 2022 gan nad oedd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gallu cwblhau Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA) oherwydd diffyg asesiad ecolegol ategol.

Gwnaeth yr ymgeisydd gais eto i amrywio'r drwydded ym mis Mehefin 2023 - ychwanegu ail ddull o dynnu dŵr oedd yr amrywiad hwn.

Statws y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr ac argaeledd dŵr: Ni allai CNC ddod i'r casgliad na fyddai'r amrywiad yn achosi i statws corff dŵr y ffynhonnell y tynnir y dŵr ohoni ddirywio nac ychwaith y byddai'n atal y corff dŵr rhag cyflawni ei amcanion.

Asesiad effaith y cynnig: Roedd gwybodaeth ategol a ddarparwyd gan yr ymgeisydd yn nodi y byddai defnyddio pwmp i dynnu dŵr yn achosi i lefelau dŵr ffynhonnell y cyflenwad ostwng ymhellach nag y gallant wrth ddefnyddio'r mewnlif sefydlog yn unig.

Gallai’r gwaith o osod y pwmp dros dro a'r pibellau cysylltiedig a defnyddio'r pwmp darfu ar/neu drapio rhywogaethau Adran 7 o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (dyfrgwn a brithyllod), ond gydag amodau priodol gellid lliniaru'r risgiau hyn.

Fodd bynnag, mae'r gwaith tynnu dŵr wedi'i leoli mewn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA). Yn ystod y penderfyniad gofynnwyd i'r ymgeisydd ddarparu gwybodaeth ategol i ganiatáu i CNC ymgymryd ag Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd gan ystyried yr effaith bosibl ar yr ACA ac asesu'r effaith bosibl ar y SoDdGA. Darparodd yr ymgeisydd ran o'r wybodaeth y gofynnwyd amdani ond nid oedd yn gallu darparu'r arolwg ecolegol y gofynnwyd amdano o fewn y cyfnod penderfynu y cytunwyd arno. Felly, cynhaliwyd yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd a’r asesiad SoDdGA gan ddefnyddio'r wybodaeth a oedd ar gael i CNC ar adeg y penderfyniad. O ganlyniad, daeth CNC i'r casgliad na ellid diystyru effaith andwyol ar nodwedd ACA a difrod i nodwedd SoDdGA.

Ymgynghoriad Statudol: Nid oedd angen unrhyw ymgynghoriad statudol. Nid oedd angen hysbysiad statudol i'r Ymgymerwr Dŵr Statudol gan mai ef yw'r ymgeisydd.

Sylwadau allanol: Yn unol â Deddf Adnoddau Dŵr 1991 (fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Dŵr 2003), hysbysebwyd y cais yn The Cambrian News ar 16 Awst 2023 ac ar wefan CNC. Ni dderbyniwyd unrhyw sylwadau ynglŷn â’r cais.

Hawliau Gwarchodedig: Ni nodwyd fod unrhyw hawliau gwarchodedig mewn perygl o randdirymiad o ganlyniad i'r amrywiad. Ni nodwyd fod unrhyw ddefnyddwyr cyfreithlon mewn sefyllfa lle gallai’r amrywiad effeithio arnynt.

Costau/Buddion:

Opsiynau sy’n cael eu hystyried

Opsiwn 1: rhoi'r trwyddedau yn unol â’r cais amdanynt.
Opsiwn 2: rhoi'r drwydded gydag amodau.
Opsiwn 3: gwrthod y cais.

Yr opsiwn sy’n cael ei ffafrio

Opsiwn 3

Rheswm dros ddewis yr opsiwn sy’n cael ei ffafrio

Ni allwn ddiystyru effeithiau andwyol i nodwedd ACA/SoDdGa a/neu ddirywiad statws/rhwystr sy’n atal y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr rhag cyflawni ei hamcanion. Mae’r ffaith bod risg annerbyniol i'r amgylchedd o ganlyniad i'r amrywiad arfaethedig i Drwydded 22/62/01/0087 yn gwneud gwrthod yn ffordd resymol a phriodol o weithredu.

Gan na all CNC ddiystyru’r ffaith na fyddai'r amrywiad yn cael unrhyw effaith andwyol sylweddol ar yr ecoleg ar safle’r gwaith tynnu dŵr, ystyrir bod gwrthod trwyddedu'r amrywiad o fudd i'r amgylchedd.

Bioamrywiaeth a datblygu cynaliadwy: Gan fod y cais yn cael ei wrthod ni fydd unrhyw effeithiau negyddol ar fioamrywiaeth na datblygiad cynaliadwy.

Lles cymdeithasol ac economaidd cymunedau gwledig: Bydd y gymuned leol yn parhau i gael mynediad at gyflenwad dŵr cyhoeddus a bydd hefyd yn elwa o atal effaith bosibl yr ail ddull tynnu dŵr arfaethedig ar ACA/SoDdGA.

Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy: Rydym yn fodlon bod y penderfyniad hwn yn gydnaws â'n pwrpas cyffredinol o fynd ar drywydd rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy mewn perthynas â Chymru a chymhwyso egwyddorion rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.

Casgliad ac argymhelliad: Argymhelliad CNC yw bod yn rhaid gwrthod y cais i amrywio trwydded 22/62/01/0087 gan na allwn ddiystyru:

  • dirywiad statws corff dŵr Cyfarwyddiaeth Fframwaith Dŵr a/neu atal y corff dŵr rhag cyflawni ei amcanion;
  • effaith andwyol ar integredd ACA; neu
  • ddifrod i nodwedd SoDdGA.

Cysylltwch â'r Tîm Gorfodi sy'n gyfrifol am y penderfyniad hwn:

E-bost: permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Neu ysgrifennwch at:

Arweinydd Tîm Adnoddau Dŵr
Gwasanaeth Trwyddedu
Cyfoeth Naturiol Cymru
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Rhodfa'r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3NQ

Diweddarwyd ddiwethaf