Rydym wedi derbyn cais am drwydded gan Biffa Waste Services Limited Amrywiad sylweddol i drwydded amgylcheddol o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016

Rhif y cais: PAN-026599

Math o gyfleuster rheoledig:

Prif weithgaredd y weithfa hon yw Adran 5.2 Rhan A (1) (a) gwaredu gwastraff mewn gwaith tirlenwi.

Mae’r drwydded hefyd yn caniatáu’r gweithgareddau perthnasol canlynol:

  • Adran 5.3 Rhan A (1) (a) (ii) adfer gwastraff peryglus gyda chapasiti o fwy na 10 tunnell y dydd sy’n cynnwys triniaeth ffisegol-gemegol priddoedd sydd wedi eu halogi ag asbestos (gorsaf drin asbestos)

Mae’r gweithgareddau canlynol yn cael eu hamrywio/ychwanegu.

  • Adran 5.3 Rhan A (1) (a) (i) adfer gwastraff peryglus gyda chapasiti o fwy na 10 tunnell y dydd sy’n cynnwys triniaeth fiolegol. (amrywio)
  • Adran 5.4 Rhan A 1 (b) (i) adfer gwastraff priddoedd amheryglus gyda chapasiti o fwy na 75 tunnell y dydd sy’n cynnwys triniaeth fiolegol. (amrywio)
  • Adran 5.3 Rhan A (1) (a) (ii) adfer gwastraff peryglus gyda chapasiti o fwy na 10 tunnell y dydd sy’n cynnwys triniaeth ffisegol-gemegol o briddoedd peryglus eraill. (ychwanegu)

Lleoliad y cyfleuster rheoledig: Safle Tirlenwi Tre-cati, Heol Fochriw, Merthyr Tudful, CF48 4AB.

Ar hyn o bryd caniateir i’r cyfleuster drin priddoedd gwastraff peryglus i’w hadfer drwy

  • Driniaeth fiolegol o wastraff peryglus ac amheryglus
  • Triniaeth ffisegol-gemegol ar gyfer trin asbestos.

Diben yr amrywiad hwn yw ehangu’r triniaethau a ganiateir ar briddoedd gwastraff peryglus er mwyn caniatáu iddynt hefyd drin priddoedd â lefelau peryglus o fetelau, lefelau peryglus o ffibrau asbestos, a mathau o wastraff y credir eu bod yn beryglus am resymau eraill fel pH.

Bydd y trwybwn blynyddol ar gyfer priddoedd sydd wedi’u halogi ag asbestos yn parhau yn 25,000 tunnell y flwyddyn. Ond dymuna’r Gweithredwr gynyddu’r trwbwn blynyddol o briddoedd gwastraff peryglus y credir eu bod yn beryglus am resymau eraill o 30,000 tunnell y flwyddyn i 40,000 tunnell y flwyddyn.

Mae’r Gweithredwr yn amlinellu’r cynnig y bydd y driniaeth newydd yn defnyddio’r cyfleuster a’r offer newydd ar y safle ac na fydd angen unrhyw fesurau rheoli llygredd ychwanegol.

Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus ar-lein. Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.

Os oes gennych unrhyw sylwadau anfonwch y rhain erbyn 30 Ionawr 2026.

Ebost: permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Neu ysgrifennwch at:

Gwasanaeth Trwyddedu
Cyfoeth Naturiol Cymru
Adeilad y Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Rhaid i ni benderfynu a ddylid caniatáu neu wrthod y cais. Os ydym yn ei ganiatáu, mae’n rhaid i ni benderfynu pa amodau i’w cynnwys yn y drwydded. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ynglŷn â sut yr ydym yn gwneud penderfyniadau yn ein Datganiad Cyfranogiad Cyhoeddus.

Diweddarwyd ddiwethaf