Gwyddoniaeth, ymchwil, addysg, arolygon neu ffotograffiaeth

Gallwch wneud cais am drwydded at y dibenion canlynol:

  • gwyddoniaeth, addysg, ymchwil, arolygon, ffotograffiaeth
  • modrwyo neu nodi neu archwilio unrhyw fodrwy neu nod (adar nad ydynt yn Atodlen 1)

Lawrlwythwch y ffurflen gais at ddibenion gwyddonol, ymchwil, addysg, arolygon neu ffotograffiaeth (saesneg yn unig)

Rhaid i’ch cais gynnwys dau eirda gan arbenigwyr sy’n gyfarwydd â’ch gwaith. Lawrlwythwch y templed geirda.

Modrwyo, nodi neu gofnodi nyth adar Atodlen 1

Os oes angen trwydded arnoch i gofnodi nyth, modrwyo neu nodi adar gwyllt Atodlen 1, rhaid i chi wneud cais i Ymddiriedolaeth Adareg Prydain

Rheoli adar

Gallwch wneud cais am drwydded i reoli adar er mwyn gwneud y canlynol:

  • gwarchod iechyd y cyhoedd a diogelwch y cyhoedd
  • atal clefydau rhag lledaenu
  • atal difrod difrifol i dda byw, porthiant ar gyfer da byw, cnydau, llysiau, ffrwythau a choed sy’n tyfu
  • gwarchod adar gwyllt
  • gwarchod fflora a ffawna
  • gwarchod unrhyw gasgliad o adar gwyllt

Lawrlwythwch y ffurflen gais am drwydded i reoli adar

Gwarchod diogelwch yr aer

Lawrlwythwch y ffurflen gais am drwydded i reoli adar er mwyn gwarchod diogelwch yr aer

Pysgodfeydd ac adar sy’n bwyta pysgod

Gallwch wneud cais am drwydded i reoli adar sy'n bwyta pysgod os ydych chi wedi rhoi cynnig ar ddulliau nad ydynt yn angheuol yn gyntaf.

Gwneud cais am drwydded i reoli adar sy'n bwyta pysgod ar afon er mwyn gwarchod eog yr Iwerydd neu frithyll y môr (siwin)

Gwneud cais am drwydded i reoli adar sy'n bwyta pysgod ar bysgodfa fras neu frithyll.

Heboga a magu adar

Lawrlwythwch y ffurflen gais am drwydded i ladd adar gwyllt ar gyfer heboga.

Arddangos yn gyhoeddus neu gystadlu

Gwiriwch y trwyddedau cyffredinol.

Tacsidermi 

Mae mwy o wybodaeth yma am ba fath o drwydded tacsidermi y gallai fod ei hangen arnoch.

Taliadau

Mae mwy o wybodaeth yma am ein tâl am gais am drwydded adar.

Amserlenni

Mae mwy o wybodaeth yma am yr amser y mae’n ei gymryd i ni brosesu ceisiadau am drwyddedau adar.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf