Trwyddedau ystlumod ar gyfer gwaith datblygu, seilwaith neu waith cynnal a chadw

Os ydych chi’n gwneud gwaith datblygu, seilwaith, neu gynnal a chadw, bydd arnoch angen trwydded datblygu rhywogaethau ar gyfer gwaith sy’n effeithio ar ystlumod neu eu mannau gorffwys.

Beth i'w gynnwys yn eich cais

Bydd angen i’ch cais gynnwys:

  • Eich ffurflen gais
  • ein templed datganiad dull ar gyfer ystlumod
  • map lleoliad (yn ddelfrydol graddfa 1:10.000) sy'n dangos yr ardal lle mae'r broblem yn digwydd
  • cynlluniau a lluniadau manwl o safleoedd presennol a gwaith arfaethedig
  • adroddiad arolwg rhywogaethau
  • tystiolaeth i gefnogi diben y gwaith
  • copïau o unrhyw ganiatadau neu gydsyniadau sy'n gysylltiedig â'r cais
  • unrhyw ohebiaeth berthnasol os yw'r gwaith ar neu'n agos at safle dynodedig
  • Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd, os yw'n berthnasol

Arolwg ystlumod a mesurau lliniaru

Bydd angen i chi gyflogi ecolegydd i gyflawni arolwg ystlumod ichi.

Bydd arolwg yn eich helpu i ddarganfod a fydd ystlumod yn cael eu heffeithio arnynt gan y gwaith arfaethedig. Dylai ddangos pa rywogaeth fydd yn cael eu heffeithio arnynt ac os gellir lleihau neu osgoi unrhyw effeithiau.

Mae arolwg yn cynnwys arolwg cychwynnol liw dydd i edrych ar y safle. Yn dilyn hyn, cynhelir arolygon gweithgarwch i edrych am ystlumod sy’n dod allan o adeiladau neu goed gyda’r cyfnos. Gellir cynnal yr arolwg liw dydd cychwynnol, a elwir hefyd yn asesiad rhagarweiniol, ar unrhyw adeg o’r flwyddyn, fodd bynnag rhaid cynnal arolygon ymddangos (emergence surveys) yn ystod tymor gweithredol yr ystlumod, sef mis Mai tan fis Medi.

Dylech ganiatáu amser i gynnal yr arolwg pan fyddwch yn cynllunio’ch prosiect. Dylai’r ecolegydd gynnal yr arolwg gan ddilyn y canllawiau diweddaraf o ran arferion gorau.

Adroddiad yr arolwg ystlumod

Dylai adroddiad yr arolwg ddarparu'r wybodaeth sydd ei hangen ar yr awdurdod cynllunio i benderfynu ar y cais cynllunio. Bydd hefyd yn ein helpu i benderfynu a oes angen trwydded ac a ellir ei rhoi.

Dylai’r adroddiad gynnwys y canlynol:

  • pwy a gynhaliodd yr arolwg
  • pryd y cynhaliwyd y gwaith arolygu
  • methodoleg sy’n nodi sut y cynhaliwyd y gwaith arolygu
  • canlyniadau a chasgliadau manwl yn sgil yr arolwg
  • nodi a argymhellir unrhyw waith arolygu pellach
  • asesiad o’r effeithiau
  • manylion argymhellion i osgoi, lleihau a lliniaru’r effeithiau
  • argymhellion ar gyfer pryd a sut y dylid cynnal y gwaith adeiladu
  • unrhyw waith monitro y dylid ei wneud ar ôl cwblhau'r gwaith

Mae'r arolwg yn ffurfio sail ar gyfer y Datganiad Dull sydd angen ei gyflwyno fel rhan o'r cais am drwydded.  

Cewch wybodaeth fwy manwl yn what to expect from a bat survey: A Guide for UK Homeowners.

Pwy all wneud cais ar gyfer trwydded

Dysgwch pwy sy’n gallu gwneud cais ar gyfer trwydded rhywogaethau gwarchodedig

Ffurflen geirda

Os nad ydych wedi meddu ar drwydded berthnasol gennym o’r blaen, rhaid i’ch cais gynnwys ffurflen geirda.

Rhaid i'r canolwyr:

  • allu rhoi sylwadau ar eu profiad o weithio gyda'r rhywogaethau perthnasol
  • gallu defnyddio'r dulliau a'r offer a gynigir yn eich cais am drwydded
  • bod yn gymwysedig eu hunain a rhaid eu bod wedi meddu ar drwydded berthnasol o’r blaen
  • bod â phrofiad o'ch gwaith am o leiaf un tymor arolwg

Dim ond un geirda y gallwn ei dderbyn gan y cwmni rydych chi'n gweithio iddo ar hyn o bryd. Efallai y byddwn yn cysylltu â'ch canolwyr i wirio eu datganiadau.

Adroddwch eich gweithredoedd o dan drwydded

Rhaid i chi gwblhau ffurflen adrodd y drwydded ddatblygu bedair wythnos ar ôl y dyddiad mae’r drwydded i fod i ddod i ben.

Efallai y gofynnir i chi gyflwyno ffurflen archwilio cydymffurfiaeth ecolegol os ydych chi’n cynnig cynllun datblygu mawr, neu gynllun sydd â risg uwch ar gyfer rhywogaethau gwarchodedig. Bydd y gofynion hyn yn un o amodau eich trwydded.

Gallai cynllun monitro priodol hefyd fod yn amod a rhaid cyflwyno canlyniadau gan ddefnyddio’r ffurflen adrodd ar fonitro’r drwydded.

Diwygio eich trwydded

Gallwch ofyn am ddiwygiadau i'ch trwydded gan ddefnyddio'r ffurflenni perthnasol.

Ffurflen gais i ddiwygio
Ffurflen newid trwyddedai
Ffurflen newid ecolegydd

Cysylltu â ni

Gallwch gysylltu â ni am gymorth ar unrhyw adeg cyn neu yn ystod eich cais ar gyfer trwydded.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf