Mae mamaliaid bach, at ddibenion y dudalen hon, yn cynnwys llygod pengrwn, llygon, llygod, llygod mawr, gwahaddod a draenogod. Gallwch gael gwybodaeth am drwyddedau ar gyfer mamaliaid eraill ar y tudalennau canlynol:

Mae mamaliaid bach yn cynnwys pryfysorion, fel draenogod, gwahaddod a llygon, a chnofilod, fel llygod a llygod pengrwn. Nid yw pob rhywogaeth yn cael ei gwarchod, ac mae rhai rhywogaethau'n cael eu gwarchod yn fwy nag eraill.

Ni all y dudalen hon roi sylw i bob agwedd ar y gyfraith nac ecoleg mamaliaid, ond mae'n gyflwyniad i ddangos sut y gallwch chi helpu i warchod y rhywogaethau hyn.

Deddfwriaeth y DU

Mae Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y'i diwygiwyd), 'y Ddeddf', yn rhestru sawl rhywogaeth o famaliaid ar Atodlen 6, sy'n gwahardd eu lladd neu eu cymryd mewn rhai ffyrdd. Maen nhw'n cynnwys y mamaliaid bach canlynol:

  • Draenog, Erinaceus europaeus
  • Llygon, Soricidae
  • Llygoden bengron y dŵr, Arvicola amphibius

Mae llygoden bengron y dŵr wedi'i rhestru ar Atodlen 5 y Ddeddf hefyd. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch 'Trwyddedau llygoden bengron y dŵr'.

Deddfwriaeth Ewropeaidd

Nid oes yr un o'r rhywogaethau sy'n cael sylw yma yn cael eu gwarchod dan Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 ('y Rheoliadau Cynefinoedd'). Mae'r pathew wedi'i restru ar atodlen 5 y Rheoliadau Cynefinoedd. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch 'Trwyddedau pathewod'.

Y Bele

Mae'r bele yn brin iawn yng Nghymru. Mae ambell un wedi cael ei gofnodi'n ddiweddar o Sir Gâr i Eryri, ond yr unig sbesimen i gael ei ganfod yn y 40 mlynedd diwethaf oedd un a laddwyd ar y ffordd yn y canolbarth yn 2012.

Mae gan y bele wddf lliw hufen a chot lliw siocled brown. Mae'n ddringwr ystwyth ac mae angen iddo gael tyllau addas mewn coed i fagu rhai bach. Mae'r bele'n bwyta mamaliaid bach, adar, chwilod, cnau ac aeron. Mae'n dibynnu ar leoliadau coediog, a chreigiog yn aml iawn, sy'n tueddu i fod yn bell oddi wrth bobl.

Mae Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y'i diwygiwyd) yn gwarchod y bele'n llwyr dan Atodlen 5. Mae hefyd wedi'i gynnwys yn Atodlen 6, sy'n gwahardd dulliau penodol o ddal a lladd.

Ar gyfer rhywogaethau Atodlen 5, mae'n drosedd gwneud y canlynol:

  • Cymryd, lladd neu anafu'n fwriadol
  • Difa neu ddinistrio ei man cysgodi / llochesu’n fwriadol / ddi-hid
  • Tarfu ar y rhywogaeth yn ei man cysgodi / llochesu’n fwriadol / ddi-hid
  • Rhwystro mynediad at ei man cysgodi / llochesu’n fwriadol / ddi-hid
  • Gwerthu, cynnig gwerthu / neu roi i’w gwerthu
  • Meddu

Ffwlbart

Roedd y ffwlbart o fewn dim i ddiflannu o Gymru erbyn 1900 ar ôl cael ei erlid, ond mae'r boblogaeth wedi adennill tir yn rhyfeddol ers hynny. Mae'n byw ym mhob rhan o Gymru unwaith eto er, fe fyddwch chi’n ffodus iawn i gael cipolwg ar un.

Mae gan y ffwlbart farciau 'bandit' unigryw o amgylch ei lygaid a chot frown frith. Mae'n chwip o heliwr – gall ddal cwningod yn eu tyllau, a nofio hyd yn oed. Mae'n byw mewn cynefinoedd amrywiol yn cynnwys twyni tywod, tir ffermio, coedwigoedd a chorsydd.

Mae Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y'i diwygiwyd) yn rhestru'r ffwlbart yn Atodlen 6. Mae'n gwahardd rhai mathau o ladd neu gymryd anifeiliaid, sy'n cael eu rhestru yn Adran 11. Maen nhw'n cynnwys defnyddio'r canlynol:

  • Unrhyw drap neu fagl, dyfais electronig neu sylwedd gwenwynig / sy'n achosi i'r anifail gysgu
  • Unrhyw rwyd
  • Unrhyw arf awtomatig neu led-awtomatig
  • Unrhyw ddyfais ar gyfer goleuo targed / dyfais anelu
  • Unrhyw ddyfais dallu
  • Unrhyw nwy neu fwg
  • Unrhyw recordiad sain fel anifail denu
  • Unrhyw gerbyd mecanyddol

Os ydych chi am gynnal arolygon / ymchwil a fyddai'n golygu eich bod yn cyflawni troseddau dan y ddeddfwriaeth hon, rhaid i chi wneud cais am drwydded gan CNC.

Llygon

Os ydych yn bwriadu dal llygon mewn trapiau, gellir gwneir hyn dan:

Unwaith y byddwch wedi’i lawrlwytho, cysylltwch â ni a gadewch i ni wybod eich bod yn bwriadu gweithredu’r drwydded.

Darllenwch yr holl delerau ac amodau sydd wedi’u hatodi wrth y drwydded, yn arbennig amodau 97, 98 a 211.

Carlymod

Os ydych yn bwriadu dal carlymod mewn trapiau, gellir gwneud hyn dan osgoi difrod difrifol i gnydau, eiddo a physgodfeydd:

neu warchod adar gwyllt:

Trwyddedu

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n rhoi trwyddedau o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad at ddibenion penodol er mwyn i chi allu gwneud rhai gweithgareddau heb dorri’r gyfraith. Rydym yn rhoi trwyddedau ar gyfer y dibenion canlynol:

  • gwyddonol ac addysgol
  • gosod modrwy neu nod
  • gwarchod anifeiliaid gwyllt neu blanhigion gwyllt, neu eu cyflwyno i ardaloedd penodol
  • gwarchod unrhyw gasgliad sŵolegol neu fotanegol
  • ffotograffiaeth
  • iechyd y cyhoedd neu ddiogelwch y cyhoedd
  • atal clefyd rhag lledaenu
  • atal difrod difrifol i gnydau, eiddo, pysgodfeydd ac ati

Ni allwn roi trwyddedau ar gyfer gwneud gwaith datblygu o dan y ddeddfwriaeth hon.

Pwy all wneud cais am drwydded

Dysgwch pwy sy’n gallu gwneud cais ar gyfer trwydded rhywogaethau gwarchodedig

Gwneud cais am drwydded rhywogaethau a warchodir

Os nad oes modd i chi osgoi tarfu ar rhywogaethau a warchodir, neu ddifrodi eu safleoedd bridio a’u mannau gorffwys, gallwch wneud cais am drwydded am ystod o wahanol weithgareddau:

Cysylltu â ni

Gallwch gysylltu â ni am gymorth ar unrhyw adeg cyn neu yn ystod eich cais ar gyfer trwydded.

Diweddarwyd ddiwethaf