Ymgeisio am gynllun rheoli coedwig

Rydym wedi gwneud rhai newidiadau i'n canllaw a ffurflen gais ar gyfer y Cynllun Rheoli Coedwigoedd, a ddaw i rym o 30 Mehefin eleni.

Os byddwch yn cyflwyno Cynllun Rheoli Coedwigoedd i ni ar ôl 30 Mehefin, defnyddiwch y copi newydd wedi'i ddiweddaru ac nid fersiwn hŷn y gall fod wedi’i gadw ar eich cyfrifiadur.

Bydd eich cynllun yn cael ei ddychwelyd atoch os yw wedi'i gyflwyno ar yr hen ffurflen gais

Mae Cynllun Rheoli Coedwig yn disgrifio’r modd yr ydych fel pechennog coetir preifat yn bwriadu rheoli eich coedwig neu goetir yn gynaliadwy dros gyfnod rhwng deng ac ugain mlynedd.

Gofynnwch am y canllaw i’r cynllun rheoli coedwig, a ffurflenni cais, drwy anfon e-bost at fellinglicence@naturalresourceswales.gov.uk.

I ddarganfod sut mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rheoli Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru, ewch i Cyfoeth Naturiol Cymru / Cynlluniau Adnoddau Coedwigaeth (naturalresources.wales)

Manteision Cynllun Rheoli Coedwig

Mae Cynllun Rheoli Coedwig yn offeryn rheoli:

• sy’n nodi’n glir eich cynlluniau ar gyfer cyfnod rhwng deng mlynedd ac ugain mlynedd, yn eu cysylltu â’ch gweledigaeth a’ch amcanion rheoli, ac yn ystyried nodweddion eich coedwig neu goetir, ei elfennau sensitif, ei gyfleoedd, y gweithrediadau a fwriedir yno, ei fioamrywiaeth, ei wytnwch, ynghyd â ffactorau amgylcheddol a chymdeithasol, ac sy’n ymwneud â’r dirwedd
• sy’n rhoi caniatâd cwympo i’ch gwaith teneuo, cwympo ac ailstocio arfaethedig ar gyfer pum mlynedd gyntaf eich cynllun, a chaniatâd amlinellol ar gyfer y pum mlynedd ddilynol
• y gellir ei ddefnyddio i ddarparu gwybodaeth gefndir ar gyfer rowndiau grantiau tymor byr, gan gynnwys datganiadau o ddiddordeb i gynlluniau grantiau plannu a rheoli Llywodraeth Cymru neu geisiadau ar gyfer cynlluniau rheoli coetir cynaliadwy Cyswllt Ffermio
• sy’n darparu tystiolaeth o broses gynaliadwy o reoli coedwig pan fo’ch coedwig neu goetir yn cael ei ardystio o dan Gynllun Ansawdd Coetiroedd y Deyrnas Unedig (UKWAS), a thystiolaeth ehangach o’r broses o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy fel y’i diffinnir yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

Pryd y mae angen Cynllun Rheoli Coedwig arnoch

Dylid bob amser ystyried Cynllun Rheoli Coedwig pan fyddwch yn rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy ac mae angen cynllun tymor hwy. Gallai hyn gynnwys:

• pan fyddwch yn ailstrwythuro eich coedwig
• pan fyddwch yn bwriadu llwyrgwympo coetir mewn dalgylch sy’n sensitif i asid ac sy’n methu neu sydd mewn perygl
• pan allai eich gwaith rheoli effeithio ar safleoedd a warchodir ar lefel Ewropeaidd neu’r DU a phan fo angen ichi ystyried mesurau lliniaru neu osgoi
• pan fyddwch yn rheoli newid hirdymor i amrywiaeth rhywogaethau coed gan fod eich coedwig neu goetir ar ardal o fawn dwfn adferadwy neu pan fo ganddo ardaloedd o blanhigfeydd ar safle coetir hynafol.

Pwy all wneud cais am Gynllun Rheoli Coedwig

Gallwch wneud cais am Gynllun Rheoli Coedwig:

• os ydych yn berchen ar y tir y mae’r coed yn tyfu arno
• os ydych yn brydleswr ac mae’ch les yn rhoi hawl ichi gwympo’r coed
• os gallwch ddangos bod gennych hawl gyfreithiol i gwympo’r coed

Gall asiant sy’n gweithredu ar ran y perchennog neu’r prydleswr wneud cais i gwympo’r coed ond bydd y caniatâd cwympo y byddwch yn ei gael gyda’ch cynllun rheoli coedwig a gymeradwywyd yn cael ei roi yn enw perchennog neu brydleswr y tir.

Os oes angen cydsyniad unrhyw berson arall arnoch er mwyn cwympo’r coed, eich cyfrifoldeb chi yw cael hwn, a rhaid ichi ddarparu’r manylion inni.

A fyddai’n fwy priodol cael trwydded cwympo coed?

Mae trwydded gwympo’n ffordd symlach o gael caniatâd i gwympo coed:

• os nad oes cymhlethdodau iddo y mae angen eu rheoli yn y tymor hir
• os yw eich gweithrediadau arfaethedig yn gymharol syml ac yn rhai tymor byr

Fel arfer, mae trwyddedau cwympo annibynnol yn ddilys am ddwy flynedd yn achos trwyddedau llwyrgwympo, a phum mlynedd yn achos trwyddedau teneuo.

Beth i’w gynnwys yn y cais

Bydd eich cais am gynllun rheoli coedwig yn cynnwys yr hyn a ganlyn:

• y ffurflen gais
• rhaglen waith
• mapiau

Efallai hefyd y bydd angen ichi gynnwys ffurflenni atodol a ffotograffau digidol gyda’ch cais, a fydd yn cael eu hychwanegu at eich trwydded cwympo coed ar ffurf atodlenni.

Mae’r nodyn canllaw ar wahân yn cynnwys rhagor o fanylion am bob adran o’r ffurflen.

Dylai cyfanswm y wybodaeth yr ydych yn ei darparu adlewyrchu maint, cymhlethdod a sensitifrwydd eich uned rheoli coedwig, ynghyd â natur a graddfa’r gweithrediadau yr ydych yn eu cynnig dros gyfnod eich cynllun.

Diweddarwyd ddiwethaf