Gwneud cais i ddefnyddio tir yr ydym yn ei reoli: creu asesiad risg
Er mwyn gwneud cais i ddefnyddio tir yr ydym yn ei reoli, bydd angen i chi greu asesiad risg.
Byddwn yn gofyn i chi atodi eich asesiad risg gyda’ch cais.
Beth sydd angen ei gynnwys
Mae’n rhaid i’ch asesiad risg gynnwys y wybodaeth ganlynol o leiaf:
- enw trefnydd y gweithgaredd
 - crynodeb o’r gweithgaredd (er enghraifft gyrru car a cheffyl neu feicio mynydd)
 - lleoliad y gweithgaredd
 - enw’r person sydd wedi paratoi’r asesiad risg
 - dyddiad cwblhau’r asesiad
 
Ar gyfer pob perygl, mae’n rhaid i chi nodi’r canlynol:
- pwy allai gael ei niweidio
 - dulliau rheoli y byddwch yn eu rhoi ar waith
 - could be harmed
 - controls you will put in place
 - the risk rating for severity, likelihood of harm and level of risk
 
Enghraifft
| 
 Perygl  | 
 Pwy allai gael ei niweidio  | 
 Difrifoldeb (1-5)  | 
 Tebygolrwydd (1-5)  | 
 Lefel y risg (1-5)  | 
 Mesurau rheoli  | 
|---|---|---|---|---|---|
| 
 Drain, danadl poethion, brigau  | 
 Oedolion sy’n cymryd rhan  | 
 1  | 
 1  | 
 1  | 
 Annog ymwybyddiaeth ymysg cyfranogwyr, cadw pecyn cymorth cyntaf wrth law, arsylwi  | 
                
Diweddarwyd ddiwethaf