Gwneud cais i ddefnyddio tir yr ydym yn ei reoli: paratoi map

Er mwyn gwneud cais am ganiatâd i ddefnyddio tir yr ydym yn ei reoli, bydd angen i chi anfon map atom. Mae’n rhaid i’r map fod yn ddigon manwl i ddangos y rhannau o’r tir yr ydych yn dymuno ei ddefnyddio.

Beth sydd angen ei gynnwys ar eich map

Dangoswch leoliad eich cyfleusterau. Mae cyfleusterau’n cynnwys:

  • toiledau
  • arlwyo
  • biniau gwastraff
  • parcio
  • cysgod (e.e. gasebo)
  • ardaloedd llwyfannu
  • cerddoriaeth
  • mannau gwersylla
  • firepits
  • barbeciws
  • mannau llenwi cerbydau â thanwydd
  • generaduron

Os ydych chi’n bwriadu defnyddio llwybr penodol bydd angen i farcio’r canlynol:

  • y llwybr o’r dechrau i’r diwedd
  • any marshals and checkpoints
  • unrhyw fannau cymorth cyntaf

Os nad oes gennych lwybr penodol, rhowch ffin o amgylch yr ardal yr ydych yn dymuno ei defnyddio.

Ar ôl gwneud cais

Byddwn yn gwirio bod yr ardaloedd a farciwyd gennych ar y map ar gael ar y dyddiadau a nodwyd gennych. Os na allwn roi mynediad, mae’n bosibl y byddwn yn awgrymu llwybr arall, neu’n gofyn i chi newid lleoliad y cyfleusterau.

Gwneud cais i ddefnyddio tir yr ydym yn ei reoli

Diweddarwyd ddiwethaf