Datganiad rheoleiddio 124: Derbyn cyfryngau storio electronig wedi’u darnio mewn safleoedd â chaniatâd i dderbyn cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff peryglus

Mae’r Datganiad Rheoleiddio (DRh) hwn yn ddilys tan 30 Tachwedd 2028, ac erbyn hynny bydd wedi cael ei adolygu. Dylech wirio’n ôl bryd hynny i sicrhau bod y DRh yn dal yn ddilys.

Gall Cyfoeth Naturiol Cymru dynnu’r DRh hwn yn ôl neu ei ddiwygio cyn y dyddiad adolygu os ydym yn ystyried bod angen gwneud hynny. Mae hyn yn cynnwys lle nad yw’r gweithgareddau y mae’r DRh hwn yn ymwneud â nhw wedi newid.

Datganiad rheoleiddio

Mae’r DRh hwn yn ymwneud â derbyn cyfryngau storio electronig wedi’u darnio mewn safleoedd trwyddedig a all ar hyn o bryd dderbyn cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff gyda’r cod gwastraff 16 02 15* – sy’n dynodi bod cydrannau peryglus wedi’u tynnu o gyfarpar a waredwyd – ar eu trwydded.

Mae’r DRh hwn yn cysylltu â RS123 – Darnio cyfryngau storio data electronig sy’n cynnwys deunydd cyfrinachol neu sensitif. Mae’r DRh hwn yn nodi mai cod gwastraff y Catalog Gwastraff Ewropeaidd ar gyfer gyriannau caled a chydrannau eraill a dynnwyd o gyfarpar trydanol ac electronig gwastraff yw naill ai 16 02 15* neu 16 02 16 cyn eu darnio. Ar ôl darnio, dylid codio’r allbynnau (gwastraff cymysg sy’n cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff llygryddion organig parhaus) fel 19 02 04*.

Nid oes gan y rhan fwyaf o safleoedd trwyddedig sy’n derbyn y ffrwd wastraff hon ar gyfer cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff, y cod hwn (19 02 04*) ar eu trwydded ar hyn o bryd. Mae’r DRh hwn yn caniatáu i’r safleoedd trwyddedig penodol hyn barhau i dderbyn y ffrwd wastraff hon ar gyfer cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff nes bod trwyddedau wedi’u diwygio i gynnwys y cod gwastraff hwn.

Mae’r DRh hwn yn ddilys tan 30 Tachwedd 2028. Erbyn y dyddiad hwn dylech sicrhau bod eich trwydded wedi’i hamrywio i gynnwys y cod gwastraff perthnasol os ydych am barhau i dderbyn y ffrwd wastraff hon.

Yr amodau y mae’n rhaid i chi gydymffurfio â nhw

Rhaid i chi fodloni’r canlynol:

  • bod â thrwydded amgylcheddol ar gyfer storio a/neu drin cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff a chydymffurfio â hi
  • bod â chod gwastraff 16 02 15* wedi’i restru ar eich trwydded ar gyfer derbyn gwastraff
  • rhoi’r cod 19 02 04* ar y ffrwd wastraff benodol hon, sef gwastraff wedi’i gymysgu o flaen llaw yn cynnwys o leiaf un darn o wastraff peryglus (cyfryngau storio electronig wedi’u darnio o ddinistrio data yn unig)
  • trin unrhyw ddeunydd wedi’i ddarnio sy’n cynnwys plastig (gan gynnwys byrddau cylched argraffiedig) fel gwastraff llygryddion organig parhaus oni bai bod gennych dystiolaeth gadarn i’r gwrthwyneb
  • anfon unrhyw wastraff llygryddion organig parhaus i gyfleuster a fydd yn sicrhau ei fod yn cael ei drawsnewid neu ei ddinistrio’n ddiwrthdro
  • storio cyfryngau storio electronig wedi’u darnio ar balmant anathraidd dan orchudd neu mewn adeilad
  • cydymffurfio â’r rheoliadau ar reoli gwastraff peryglus drwy baratoi nodyn trosglwyddo gwastraff peryglus i’w gasglu a’i drosglwyddo a thrwy gwblhau a chyflwyno ffurflenni gwastraff peryglus ar ôl eu derbyn
  • cadw cofnodion am ddwy flynedd o ddyddiad y defnydd diwethaf o’r DRh i ddangos eich bod wedi cydymffurfio â’r DRh hwn a sicrhau bod y cofnodion hyn ar gael i Cyfoeth Naturiol Cymru ar gais

Ni chewch wneud y canlynol:

  • derbyn cyfryngau storio electronig wedi’u darnio os nad oes gennych ganiatâd i’w derbyn, neu os nad oes gennych y cod gwastraff 16 02 15* ar eich trwydded, neu os oes gennych eithriad sy’n cynnwys S2 neu T11 yn unig. 
  • trin cyfryngau storio wedi’u darnio heblaw am yn unol ag amodau eich trwydded

Gorfodi

Nid yw’r DRh hwn yn newid eich gofyniad cyfreithiol i gydymffurfio â thrwydded amgylcheddol ar gyfer gwaith neu osodiad gwastraff pan fyddwch chi’n derbyn cyfryngau storio electronig wedi’u darnio wedi’u codio fel 19 02 04* i’w storio neu eu trin.

Fodd bynnag, ni fydd Cyfoeth Naturiol Cymru fel arfer yn cymryd camau gorfodi yn eich erbyn os na fyddwch yn cydymffurfio â’r gofyniad cyfreithiol hwn, os yw’r amodau canlynol yn cael eu bodloni:

  • mae eich gweithgaredd yn bodloni’r disgrifiad a nodir yn y DRh hwn
  • rydych chi’n cydymffurfio â’r amodau a nodir yn y DRh hwn

Yn ogystal, rhaid i’ch gweithgaredd beidio ag achosi (na bod yn debygol o achosi) llygredd i’r amgylchedd na niwed i iechyd pobl, ac ni chaniateir iddo wneud fel a ganlyn:

  • peri risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion nac anifeiliaid
  • peri niwsans drwy sŵn neu arogleuon
  • cael effaith andwyol ar gefn gwlad neu leoedd o ddiddordeb arbennig
Diweddarwyd ddiwethaf