Penderfyniad rheoleiddio 097: Llosgi gwastraff ar danau gwersyll a choelcerthi

Mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ddilys tan 1 Mehefin 2025, a bydd wedi cael ei adolygu erbyn hynny. Dylech wirio gyda ni bryd hynny i sicrhau bod y penderfyniad rheoleiddiol yn dal i fod yn ddilys.

Gall CNC dynnu’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ôl neu ei ddiwygio cyn y dyddiad adolygu os ydym o’r farn bod hynny’n angenrheidiol. Mae hyn yn cynnwys pan nad yw'r gweithgareddau y mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ymwneud â hwy wedi newid.

Penderfyniad rheoleiddiol

Gall llosgi'r gwastraff anghywir yn ormodol ac mewn ffordd nad yw wedi’i rheoli achosi llygredd a niweidio iechyd pobl. Os dilynwch yr amodau yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn, cewch losgi gwastraff mewn digwyddiadau traddodiadol fel coelcerthi Guto Ffowc a thanau gwersyll Sgowtiaid a Geidiaid heb drwydded amgylcheddol ar gyfer gweithrediad gwastraff.

Nid yw'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn gymwys i unrhyw weithgaredd arall, hyd yn oed os yw’n dod o dan yr un ddeddfwriaeth. Mae’n bosibl y bydd angen i chi gael trwyddedau eraill o hyd ar gyfer gweithgareddau eraill yr ydych chi’n eu cyflawni.

Os na fedrwch gydymffurfio â'r amodau yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn, mae angen i chi wneud cais am drwydded amgylcheddol.

Yr amodau y mae’n rhaid i chi gydymffurfio â nhw

Rhaid i chi wneud y canlynol:

  • eich bod dim ond yn llosgi gwastraff mewn digwyddiadau traddodiadol fel coelcerthi Guto Ffowc a thanau gwersyll Sgowtiaid a Geidiaid
  • eich bod yn cadw’r gwastraff yn ddiogel cyn i chi ei losgi
  • eich bod dim ond llosgi gwastraff sy’n addas i’w losgi, er enghraifft canghennau, dail a phren sy’n amlwg yn lân ac nad yw wedi’i baentio na’i drin â chadwolion,
  • eich bod dim ond yn defnyddio papur a darnau o gerdyn yn y meintiau angenrheidiol i gynnau'r tân
  • bod maint y goelcerth neu’r tân gwersyll yn briodol ar gyfer y digwyddiad

Ni chewch wneud y canlynol:

  • llosgi gwastraff anaddas fel plastig, rwber, gwydr, olew neu fetel – mae llosgi'r mathau hyn o wastraff hwn yn debygol o gynhyrchu mwg tywyll a chemegion niweidiol
  • cael y gwastraff i'w losgi o gyfleuster rheoli gwastraff
  • cynnau’r goelcerth neu’r tân gwersyll mewn cyfleuster rheoli gwastraff

Gorfodi

Nid yw'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn newid y gofyniad cyfreithiol i chi gael trwydded amgylcheddol ar gyfer gweithrediad gwastraff pan ydych yn llosgi gwastraff ar danau gwersyll a choelcerthi.

Fodd bynnag, ni fydd CNC fel arfer yn cymryd camau gorfodi os nad ydych yn cydymffurfio â’r angen i gael trwydded amgylcheddol os ydych yn bodloni’r gofynion yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn.

Yn ogystal, ni chaiff eich gweithgaredd achosi (na bod yn debygol o achosi) llygredd i'r amgylchedd na niwed i iechyd pobl, ac ni chaniateir iddo:

  • beri risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion nac anifeiliaid
  • peri niwsans drwy sŵn neu arogleuon
  • cael effaith andwyol ar gefn gwlad neu leoedd o ddiddordeb arbennig

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf