Canllawiau ar y gofynion i Ryddhau Safleoedd Niwclear rhag y Rheoliadau Sylweddau Ymbelydrol

Mae CNC, Asiantaeth yr Amgylchedd a’r Scottish Environmental Protection Agency wedi llunio’r canllawiau hyn ar y cyd.

Mae’r canllawiau’n egluro'r hyn y mae angen i weithredwyr safleoedd niwclear ei wneud i ildio’u trwydded ar ôl i’r holl weithgareddau sy’n gysylltiedig â rheoli gwastraff ymbelydrol ddod i ben.

Dylai gweithredwyr ddarllen y canllawiau hyn wrth gynllunio a mynd i’r afael â’u gwaith i ddatgomisiynu a chlirio’u safleoedd. Maent yn berthnasol i bob safle, pa un a ydynt eisoes wedi dechrau ar y gwaith datgomisiynu a chlirio, ai peidio. Ymhellach, dylid eu hystyried wrth gynllunio neu adeiladu safleoedd newydd.

Yn ôl y canllawiau, mae’n ofynnol i weithredwyr wneud y canlynol:

  • llunio cynllun rheoli gwastraff
  • llunio achos diogelwch amgylcheddol ar gyfer y safle cyfan
  • sicrhau bod cyflwr eu safle’n bodloni ein safonau o safbwynt diogelwch pobl a’r amgylchedd, yn awr ac yn y dyfodol

Maent yn pennu ein safonau a’n gofynion ac yn esbonio’r broses reoleiddio sy’n arwain at wneud penderfyniad ynghylch pa un a ddylid:

  • rhoi caniatâd i waredu ar y safle y gwastraff ymbelydrol sy’n deillio o waith datgomisiynu a chlirio
  • caniatáu i weithredwr y safle niwclear ildio’i drwydded amgylcheddol

Scottish Environment Protection Agency

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf