Penderfyniad Rheoleiddiol 073: Gwaith adfer ar raddfa fach ar gyfer tir halogedig

Mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ddilys tan 30 Tachwedd 2026 ac erbyn hynny bydd yn cael ei adolygu. Dylech wirio gyda ni bryd hynny i sicrhau bod y penderfyniad rheoleiddiol yn dal i fod yn ddilys.

Gall CNC dynnu’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ôl neu ei ddiwygio cyn y dyddiad adolygu os ydym o’r farn bod hynny’n angenrheidiol. Mae hyn yn cynnwys pan nad yw'r gweithgareddau y mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ymwneud â hwy wedi newid.

Os byddwch yn cydymffurfio â'r gofynion isod, byddwn yn caniatáu gwaith adfer ar raddfa fach o dir dan amgylchiadau penodol heb fod angen trwydded amgylcheddol.

Os na fedrwch gydymffurfio â'r amodau yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn, mae angen i chi wneud cais am drwydded amgylcheddol.

Penderfyniad rheoleiddiol

Mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn berthnasol pan fyddwch yn cyflawni gwaith adfer ar raddfa fach, â chyfyngiad amser:

  • gwaith adfer pridd a dŵr daear ar gyfer digwyddiadau llygredd neu halogiad tir hanesyddol
  • profion adfer safle-benodol i ganfod a fydd techneg yn effeithiol

Mae prawf adfer safle-benodol yn golygu defnyddio un neu ragor o'r technegau sefydledig a roddir yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn i weld a fydd y math o driniaeth yn gweithio ar wastraff neu safle penodol ai peidio.

Mae graddfa fach yn golygu'r cyfeintiau penodedig a roddir yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn.

 

Yr amodau y mae’n rhaid i chi gydymffurfio â nhw 

Rhaid i chi wneud y canlynol:

Defnyddio technegau adfer sefydledig

Rhaid i chi ddefnyddio’r technegau adfer canlynol yn unig, ar eu pen eu hunain neu ar y cyd, ar gyfer trin pridd a dŵr daear ar y safle neu oddi arno:

  • chwistrellu aer
  • bioadferion megis rhenciau, biopynnau ac adweithyddion mewn cynhwysydd
  • chwistrellu hylif neu nwy gwasgeddedig
  • bio-awyrellu
  • triniaeth gemegol megis ocsideiddio a dadhalogeneiddio
  • trin dŵr daear, gan ddefnyddio, er enghraifft, driniaeth gemegol a biolegol, tynnu aer, hidlo, neu arsugniad carbon
  • echdynnu anwedd o’r pridd, gan gynnwys cyfnod deuol
  • fflysio pridd, gan gynnwys chwistrelliad ager
  • golchi pridd
  • soledu a sefydlogi
  • triniaeth thermol fel dadsugno a chwistrellu ager
  • gwaith trin ar gyfer didoli a gwahanu
  • gwaith trin ar gyfer cyfuno, cymysgu, crynhoi, sgrinio, darnio, lleihau maint gronynnau a/neu wahanu gronynnau i hwyluso camau adferol

Rhaid i chi wneud y canlynol:

  • os ydych chi'n defnyddio cemegion, dim ond mewn crynodiad a chyfaint sy'n angenrheidiol i gyflawni amcanion unrhyw driniaeth y dylech eu defnyddio
  • bodloni'r gofynion ar gyfer allyriadau, sŵn a dirgryniadau, ac arogleuon a dilyn yr egwyddorion a nodir yng nghanllawiau’r ffurflen defnyddio
  • atal sylweddau peryglus rhag mynd i mewn i ddŵr daear

Storio gwastraff

Rhaid i chi wneud y canlynol:

  • storio'r pridd neu ddŵr daear halogedig mewn man diogel
  • storio'r holl wastraff hylifol mewn cynwysyddion a defnyddio cyfyngiant eilaidd

Rhaid i gyfyngiant eilaidd fod â’r canlynol:

  • leinin anathraidd
  • cynhwysedd o 110% neu fwy o gynhwysedd storio'r cynhwysydd gwreiddiol
  • cynhwysedd o 110% neu fwy o gynhwysedd storio'r cynhwysydd mwyaf ar gyfer dau neu ragor o gynwysyddion
  • cynhwysedd o 25% o gapasiti storio cyfanredol yr holl gynwysyddion

Rhaid i chi weithredu mesurau rhesymol i gynnal y rhain bob amser.

Mae man diogel yn golygu bod pob rhagofal rhesymol yn cael ei gymryd i sicrhau na all y gwastraff ddianc ac nad yw pobl heb awdurdod yn gallu cael mynediad at y gwastraff.

Mae cyfyngiant eilaidd yn golygu defnyddio bwnd, neu system arall, i atal unrhyw wastraff sy'n gollwng o gynhwysydd cynradd rhag dianc o'r man lle caiff ei storio.

Llunio datganiad dull

Rhaid i chi lunio a dilyn datganiad dull. Rhaid iddo gynnwys:

  • manylion cefndir:
    – eich manylion cyswllt, a manylion cyswllt yr unigolyn cymwys, os yw'n wahanol
    – cyfeiriad safle, cyfeirnod grid a chynllun safle sy'n dangos ffin y safle a maint ffisegol y gwaith adfer neu brawf
    – manylion pam fod angen gwaith adfer neu brofion
    – manylion os mai pridd neu ddŵr daear yr ydych yn ei drin neu gyfuniad o'r ddau
    – y dechneg neu'r technegau sefydledig yr ydych yn eu defnyddio
    – hyd disgwyliedig y gweithgarwch a phryd y bydd yn dechrau
  • sut y byddwch yn storio gwastraff wedi’i drin a'r cynhyrchion a ddefnyddir yn ddiogel dros dro
  • manylion y rheolaethau rheoleiddiol sydd ar waith os ydych am ailddefnyddio unrhyw ddeunydd sydd wedi'i drin
  • manylion yr holl beiriannau prosesu, offer ac unrhyw sylweddau a ddefnyddir ar gyfer y gwaith adfer
  • tystiolaeth eich bod wedi asesu’r risgiau i’r safle a’r amgylchoedd – gallwch ddefnyddio, er enghraifft, y model safle cysyniadol rydych wedi’i ddatblygu
  • ar gyfer trin dŵr daear ar y safle, cyfrifiad o faint fydd yn cael ei drin yn seiliedig ar ddata hydroddaearegol
  • y mesurau lliniaru sydd gennych ar waith ar gyfer allyriadau, sŵn a dirgryniadau, ac arogleuon
  • y deilliant disgwyliedig
  • cynllun wrth gefn os nad yw’r gwaith adfer neu’r prawf yn gweithio yn ôl y disgwyl

 

Defnyddio techneg adfer nad yw wedi'i rhestru yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn

Os ydych am ddefnyddio techneg adfer nad yw wedi'i rhestru yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn sy'n waith gwastraff neu'n weithgaredd dŵr daear (neu'r ddau), rhaid i chi ddilyn y gofynion hyn.

Ar gyfer gwaith gwastraff, rhaid i chi wneud un o’r canlynol:

  • defnyddio a chydymffurfio â’n canllawiau ar gynnal ymchwil neu brofion gyda gwastraff ar safleoedd heb drwydded amgylcheddol
  • gwneud cais am drwydded amgylcheddol bwrpasol ar gyfer gwaith gwastraff

Ar gyfer gweithgarwch dŵr daear, rhaid i chi wneud un o’r canlynol:

 

Cwblhau’r gweithgarwch a chadw cofnodion

Rhaid i chi wneud y canlynol:

  • cwblhau'r gweithgarwch cyn gynted â phosibl
  • defnyddio’r penderfyniad rheoleiddiol hwn dim ond unwaith mewn cyfnod o dair blynedd ar gyfer safle unigol neu brosiect adfer fel y dangosir ar eich cynllun safle
  • cadw cofnodion am ddwy flynedd o ddyddiad y defnyddiwyd y penderfyniad rheoleiddiol ddiwethaf i ddangos eich bod wedi cydymffurfio â’r penderfyniad rheoleiddiol hwn, a sicrhau bod y cofnodion hyn ar gael i ni ar gais

Rhaid i chi gadw cofnodion o’r canlynol:

  • datganiad dull
  • cyfeintiau a driniwyd
  • gwirio amcanion adferol
  • unrhyw achosion o lygredd a sut yr ymdriniwyd â'r rhain
  • unrhyw halogiad annisgwyl
  • unrhyw ohebiaeth â ni

 

Cyfyngiadau o dan y penderfyniad rheoleiddiol hwn

Ni chewch wneud y canlynol:

  • trin cyfanswm o fwy na 1,000 metr ciwbig o bridd a/neu ddŵr daear
  • ailddyddodi priddoedd wedi'u trin
  • gollwng y dŵr daear wedi'i drin yn ôl i'r ddaear, dŵr daear neu ddŵr wyneb heb drwydded gweithgarwch dŵr daear neu ollwng dŵr
  • mewnforio neu drin gwastraff wedi'i fewnforio
  • storio gwastraff am fwy na 12 mis

 

Pethau i'w nodi

Mae’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ymwneud â gweithgaredd yr ystyriwn y gallai fod yn addas i fod yn esemptiad o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016. Diffinnir gweithgarwch dŵr daear ym mharagraff 3 o Atodlen 22 i Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016.



Delio â phriddoedd wedi'u trin

Er mwyn delio â phriddoedd wedi'u trin, gallwch wneud y canlynol:

Y ddau esemptiad gwastraff sydd fwyaf perthnasol i weithgareddau adfer tir yw: 

Rhaid cofrestru unrhyw esemptiadau gyda Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

Delio â dŵr daear wedi'i drin

Er mwyn delio â dŵr daear wedi'i drin, gallwch wneud y canlynol:

  • gwneud cais am drwydded amgylcheddol ar gyfer gweithgarwch dŵr daear i ollwng y dŵr daear sydd wedi'i drin yn ôl i'r ddaear
  • cael caniatâd gan eich ymgymerwr carthffosiaeth lleol i ollwng y dŵr daear wedi’i drin i garthffos fudr
  • dim ond gwaredu’r dŵr daear wedi’i drin i gyfleuster awdurdodedig sydd â’r rheolaethau rheoleiddio cywir ar waith i dderbyn y gwastraff
  • gwneud cais am drwydded amgylcheddol ar gyfer gweithgarwch gollwng dŵr i ollwng dŵr daear wedi'i drin i ddŵr wyneb

Gwneud cais am drwydded

Rhaid i chi wneud cais am drwydded amgylcheddol os ydych chi am wneud:

  • rhagor o brofion neu waith adfer ar y safle
  • triniaeth ar gyfer adfer neu waredu uwchlaw'r terfynau yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn
  • gweithgarwch dŵr daear uwchlaw’r terfynau yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn, ac nid oes unrhyw waharddiad nac esemptiad arall yn berthnasol

Am fanylion trwyddedau a chaniatadau, gweler yr adran ar ‘fathau o reolaethau rheoleiddiol’ yn y canllawiau ar reoli risg halogiad tir.

Pryd mae'n rhaid i chi wirio am newidiadau

Rydym yn bwriadu adolygu’r penderfyniad rheoleiddiol hwn erbyn 30 Tachwedd 2026.

Gallwn dynnu’r sefyllfa reoleiddiol hon yn ôl, neu ei diwygio, cyn y dyddiad adolygu os ystyrir bod hynny’n angenrheidiol. Mae hyn yn cynnwys pan nad yw'r gweithgarwch y mae’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ymwneud ag ef wedi newid.

Bydd angen ichi wirio am newidiadau o bryd i'w gilydd, gan gynnwys ar y dyddiad adolygu a chyn hynny, i weld a yw'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn dal yn berthnasol.

Mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn parhau mewn grym hyd nes y caiff ei ddileu neu hyd nes y nodir fel arall ei fod wedi'i dynnu'n ôl.

 

Os na allwch gydymffurfio â'r penderfyniad rheoleiddiol hwn

Os ydych yn gweithredu o dan y penderfyniad rheoleiddiol hwn, ond na allwch gydymffurfio ag ef mwyach, rhaid i chi roi'r gorau i'r gweithgarwch y mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ymwneud ag ef, a rhaid i chi roi gwybod i ni ar unwaith.

Gorfodi

Nid yw'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn newid eich gofyniad cyfreithiol i gael trwydded amgylcheddol ar gyfer gwaith adfer tir ar raddfa fach.

Fodd bynnag, ni fydd CNC fel arfer yn cymryd camau gorfodi os nad ydych yn cydymffurfio â’r angen i gael trwydded amgylcheddol os ydych yn bodloni’r gofynion yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn.

Yn ogystal, ni chaiff eich gweithgaredd achosi (na bod yn debygol o achosi) llygredd i'r amgylchedd na niwed i iechyd pobl, ac ni chaniateir iddo wneud y canlynol:

  • peri risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion nac anifeiliaid
  • peri niwsans drwy sŵn neu arogleuon
  • cael effaith andwyol ar gefn gwlad neu leoedd o ddiddordeb arbennig

 

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf