Cofrestru fel cynhyrchydd batris

O dan Reoliadau Batris a Chronaduron Gwastraff 2009, mae'n rhaid casglu cyfran gynyddol o'r batris cludadwy sy'n cael eu rhoi ar farchnad y DU er mwyn eu hailgylchu. Y targed ar gyfer 2013 yw 30%, gan gynyddu i 45% erbyn 2016. Mae'n gwahardd taflu batris diwydiannol a modurol gwastraff i safleoedd tirlenwi neu losgyddion hefyd.

Newidiadau pwysig i taliadau electronig

Mae ein manylion banc wedi newid. Os yr ydych eisiau talu eich gais trwydded trwy  trosglwyddiad electronig, gallwch defnyddio ein manylion banc newydd isod. Gweler yn y adran “Ein Taliadau” ar ein wefan an manylion llawn or newidiadau.

Gwybodaeth newydd
Enw cwmni: Natural Resources Wales  
Cyfeiriad y Cwmni:     Income Department, PO BOX 663, Cardiff, CF24 0TP 
Banc: RBS
Cyfieriad:    National Westminster Bank Plc, 2 ½ Devonshire Square, London, EC2M 4BA  
Côd didoli:  60-70-80  
Rhif cyfrif:   10014438   

Byddwn yn diweddaru ein ffurflennu gais môr gynt a ffosib, ond mae rhaid defnyddio y manylion isod cyn gwneud taliad electronig o hyn ymlaen. Peidiwch a defnyddio y manylion sydd weid ei rhoi y nein ceisiadau trwydded ac canllawiadau os fod nhw yn wahannol I hyn sydd ywchben.

Ydych chi'n gynhyrchydd batris?

Os yw'ch busnes yn weithgar yn y DU ac yn rhoi batris ar farchnad y DU am y tro cyntaf, rydych chi'n gynhyrchydd. Mae hyn yn cynnwys batris mewn dyfeisiau a cherbydau. Os ydych chi'n prynu batris gan gyflenwr yn y DU, ni fyddech chi'n cael eich ystyried yn gynhyrchydd fel rheol. Bydd eich rhwymedigaethau penodol yn amrywio yn ôl y math a'r nifer o fatris rydych chi'n eu cynhyrchu.

Sut i gofrestru fel cynhyrchydd batris

Os ydych chi'n cynhyrchu batris cludadwy, bydd angen i chi gofrestru, naill ai gydag Cyfoeth Naturiol Cymru (cynhyrchwyr bach) neu gyda chynllun cydymffurfiaeth cynhyrchwyr (cynhyrchwyr mawr) a fydd yn gweithredu ar eich rhan. Rhaid i chi gofrestru gyda'r Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau hefyd os ydych chi'n cynhyrchu batris diwydiannol neu fodurol.

Cynhyrchwyr mawr - batris cludadwy

Os ydych chi'n rhoi mwy nag un dunnell fetrig o fatris cludadwy ar farchnad y DU bobl blwyddyn, rydych chi'n gynhyrchydd mawr. Rhaid i chi ymuno â chynllun cydymffurfiaeth cynhyrchwyr batris a fydd yn trefnu i gasglu, trin ac ailgylchu batris gwastraff ar eich rhan.

Gweld y gofrestr gyhoeddus o gynlluniau cydymffurfiaeth cynhyrchwyr batris ar y gronfa wybodaeth gwastraff pecynnu genedlaethol.

Cynhyrchydd bach - batris cludadwy

Os ydych chi'n rhoi tunnell fetrig neu lai o fatris cludadwy ar farchnad y DU, cewch eich ystyried yn gynhyrchydd bach. Rhaid i chi gofrestru gyda ni a rhoi data blynyddol ar faint o fatris cludadwy rydych chi wedi'u rhoi ar farchnad y DU:

Cofrestru fel cynhyrchydd bach ar y gronfa ddata gwastraff genedlaethol ar wefan Asiantaeth yr Amgylchedd

Cynhyrchwyr batris diwydiannol a modurol

Rhaid i chi gofrestru ar-lein gan ddefnyddio'r Gronfa Ddata Gwastraff Genedlaethol o fewn pedair wythnos ar ôl rhoi batris ar farchnad y DU am y tro cyntaf. Byddwch yn cofrestru gyda'r Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau.

Beth sydd angen i chi ei wneud fel dosbarthwr?

Os ydych chi'n cyflenwi dros 32kg o fatris cludadwy bob blwyddyn, bydd angen i chi ddarparu gwasanaeth i gasglu batris cludadwy gwastraff oddi wrth y defnyddwyr terfynol.

Rhagor o wybodaeth ar wefan yr asiantaeth ardystio cerbydau.

Gallwch fod yn gynhyrchydd ac yn ddosbarthwr a bydd angen i chi gydymffurfio â'r rhwymedigaethau ar gyfer y ddau gategori.

Diweddarwyd ddiwethaf