Datganiad rheoleiddio 123: Darnio cyfryngau storio data electronig sy’n cynnwys deunydd cyfrinachol neu sensitif
Mae’r datganiad rheoleiddio (DRh) hwn yn ddilys tan 30 Tachwedd 2028, ac erbyn hynny bydd wedi cael ei adolygu. Dylech wirio’n ôl bryd hynny i sicrhau bod y DRh yn dal yn ddilys.
Gall Cyfoeth Naturiol Cymru dynnu’r DRh hwn yn ôl neu ei ddiwygio cyn y dyddiad adolygu os ydym yn ystyried bod angen gwneud hynny. Mae hyn yn cynnwys lle nad yw’r gweithgareddau y mae’r DRh hwn yn ymwneud â nhw wedi newid.
Datganiad rheoleiddio
Mae’r DRh hwn yn berthnasol i storio a darnio cyfryngau storio electronig sy’n cynnwys deunydd cyfrinachol neu sensitif at ddibenion diogelu a dinistrio data yn unig.
Ni ellir defnyddio’r DRh hwn mewn cyfleuster trwyddedig.
Mae “cyfryngau storio data electronig” yn gyfryngau ffisegol a ddefnyddir i storio data electronig (megis gyriannau disgiau caled, gyriannau cyflwr solid, cofau bach, byrddau cylched neu eitemau tebyg).
Mae’r DRh hwn yn berthnasol i storio a darnio y mae’n rhaid eu gwneud ar safle cynhyrchydd y gwastraff neu safle’r contractwr gan ddefnyddio offer sefydlog neu symudol. Dim ond i storio deunydd dros dro sy’n aros i gael ei drin oddi ar y safle y mae’r DRh hwn yn berthnasol. Mae storio a thriniaethau ategol eraill o flaen llaw ar y safle cynhyrchu, fel dileu data â maes magnetig neu dyllu gyriannau disgiau caled, wedi’u cynnwys o dan eithriad dau y gyfarwyddeb fframwaith deunydd nad yw’n wastraff (NWFD 2): NWFD 2 temporary storage at the place of production, gan fod cyfansoddiad y gwastraff heb ei newid yn dilyn y triniaethau hyn.
Mae darnio eitemau cyfan cyfarpar trydanol ac electronig sy’n wastraff at ddibenion heblaw dinistrio data y tu allan i gwmpas y DRh hwn ac mae angen trwydded amgylcheddol gan Cyfoeth Naturiol Cymru / Trwyddedu gwastraff
Cod gwastraff y Catalog Gwastraff Ewropeaidd ar gyfer gyriannau caled a chydrannau eraill sy’n cael eu tynnu o gyfarpar trydanol ac electronig gwastraff yw naill ai 16 02 15* neu 16 02 16 cyn eu darnio. Ar ôl darnio dylid codio’r allbynnau fel 19 02 04*.
Yr amodau y mae’n rhaid i chi gydymffurfio â nhw
Rhaid i chi fodloni’r canlynol:
- storio a darnio hyd at bum tunnell yn unig o gyfryngau storio data electronig ar unrhyw un safle mewn unrhyw gyfnod o 12 mis
- darnio cyfryngau storio data electronig yn unig
- darnio offer neu gyfarpar cyfan yn unig (fel ffonau, gliniaduron, llechi) gyda chyfryngau storio data electronig wedi’u hymgorffori na ellir eu tynnu’n hawdd, ar ôl i fatris a sgriniau gael eu tynnu â llaw cyn darnio
- darnio cyfryngau storio data electronig neu offer a chyfarpar cyfan cysylltiedig sy’n cynnwys deunydd cyfrinachol neu sensitif at ddibenion diogelu a dinistrio data yn unig, a hynny yn unol â safon berthnasol – megis BS EN15713:2023, safon y Ganolfan Diogelu Seilwaith Cenedlaethol (CPNI) Ebrill 2014 gan yr Awdurdod Diogelwch Amddiffynnol Cenedlaethol (NPSA), neu gyfwerth
- defnyddio offer â’r cyfyngiadau priodol i atal neu leihau rhyddhau llwch a sŵn
- trin unrhyw allbwn wedi’i ddarnio sy’n cynnwys plastig (gan gynnwys byrddau cylched argraffiedig) fel gwastraff llygryddion organig parhaus (POPs) oni bai bod gennych dystiolaeth gadarn i’r gwrthwyneb
- anfon gwastraff llygryddion organig parhaus i gyfleuster a fydd yn sicrhau ei fod yn cael ei drawsnewid neu ei ddinistrio’n ddiwrthdro
- anfon yr allbynnau gwastraff wedi’u darnio i gyfleuster sydd wedi’i drwyddedu’n briodol
- cydymffurfio â’r rheoliadau ar reoli gwastraff peryglus drwy baratoi nodyn trosglwyddo gwastraff peryglus i’w gasglu a’i drosglwyddo a thrwy gwblhau a chyflwyno ffurflenni gwastraff peryglus os yw’n berthnasol
- cadw cofnodion am ddwy flynedd o ddyddiad y defnydd diwethaf o’r DRh i ddangos eich bod wedi cydymffurfio â’r DRh hwn a sicrhau bod y cofnodion hyn ar gael i Cyfoeth Naturiol Cymru ar gais
Rhaid i chi beidio ag ailgylchu unrhyw wastraff sy’n cynnwys llygryddion organig parhaus na chymysgu gwastraff o’r fath â gwastraff arall er mwyn ei wanedu. Rhaid gwahanu gwastraff llygryddion organig parhaus a’i anfon i’w ddinistrio trwy losgi neu drawsnewid diwrthdro.
Gorfodi
Nid yw’r DRh hwn yn newid eich gofyniad cyfreithiol i gael trwydded amgylcheddol ar gyfer gwaith gwastraff pan fyddwch yn darnio cyfryngau storio data electronig (megis gyriannau disgiau caled, gyriannau cyflwr solid, cofau bach, byrddau cylched neu eitemau tebyg) sy’n cynnwys deunydd cyfrinachol neu sensitif at ddibenion diogelu a dinistrio data yn unig.
Fodd bynnag, ni fydd Cyfoeth Naturiol Cymru fel arfer yn cymryd camau gorfodi yn eich erbyn os na fyddwch yn cydymffurfio â’r gofyniad cyfreithiol hwn, os yw’r amodau canlynol yn cael eu bodloni:
- mae eich gweithgaredd yn bodloni’r disgrifiad a nodir yn y DRh hwn
- rydych chi’n cydymffurfio â’r amodau a nodir yn y DRh hwn
Yn ogystal, rhaid i’ch gweithgaredd beidio ag achosi (na bod yn debygol o achosi) llygredd i’r amgylchedd na niwed i iechyd pobl, ac ni chaniateir iddo wneud fel a ganlyn:
- peri risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion nac anifeiliaid
- peri niwsans drwy sŵn neu arogleuon
- cael effaith andwyol ar gefn gwlad neu leoedd o ddiddordeb arbennig