Penderfyniad rheoleiddio 035: Trin plastigau gwastraff â gwres ar raddfa fach er mwyn eu hadfer
Mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ddilys tan 1 Ionawr 2026, a bydd wedi cael ei adolygu erbyn hynny. Dylech wirio gyda ni bryd hynny i sicrhau bod y penderfyniad rheoleiddiol yn dal i fod yn ddilys.
Gall CNC dynnu’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ôl neu ei ddiwygio cyn y dyddiad adolygu os ydym o’r farn bod hynny’n angenrheidiol. Mae hyn yn cynnwys pan nad yw'r gweithgareddau y mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ymwneud â hwy wedi newid.
Penderfyniad rheoleiddiol
Mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn gymwys i drin plastig gwastraff gan ddefnyddio gwres o dan esemptiadau gwastraff T4 ac U9.
Fel arfer mae angen trwydded amgylcheddol arnoch i gynhesu plastig gwastraff gan na chaniateir hyn o dan esemptiad gwastraff T4 neu U9. Fodd bynnag, os ydych yn cydymffurfio â'r amodau yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn, nid oes angen trwydded amgylcheddol arnoch ar gyfer gweithrediad gwastraff os ydych yn gwneud y gweithgaredd hwn o dan esemptiad T4 neu U9.
Nid yw'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn gymwys i unrhyw weithgaredd arall, hyd yn oed os yw’n dod o dan yr un ddeddfwriaeth. Mae’n bosibl y bydd angen i chi gael trwyddedau eraill o hyd ar gyfer gweithgareddau eraill yr ydych chi’n eu cyflawni.
Yr amodau y mae’n rhaid i chi gydymffurfio â nhw
Rhaid i chi wneud y canlynol:
- cofrestru esemptiad gwastraff T4 os ydych yn dibynnu ar esemptiad T4, neu gofrestru esemptiad gwastraff U9 os ydych yn dibynnu ar esemptiad U9
- cydymffurfio â’r holl amodau a chyfyngiadau yn yr esemptiad T4 neu’r esemptiad U9 ac eithrio’r cyfyngiad sy’n ymwneud â gwres
- cynhesu plastig gwastraff fel rhan o broses allwthio
- sicrhau nad ydych yn cynhesu mwy na 100 tunnell o blastig gwastraff yr wythnos
- trin plastigau anfrominedig yn unig, neu blastigau sydd wedi cael eu trin i dynnu plastigion brominedig cyn iddynt gael eu derbyn ar y safle
- cadw cofnodion am ddwy flynedd sy’n dangos eich bod wedi cydymffurfio â’r penderfyniad rheoleiddiol hwn – rhaid i chi sicrhau bod y cofnodion hyn ar gael i Cyfoeth Naturiol Cymru ar gais
Os byddwch yn dilyn yr amodau yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn, cewch eich trin fel pe bai gennych drwydded amgylcheddol pan fyddwch yn gwneud cais am achrediad fel ailbrosesydd gwastraff pecynnu o dan Reoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Pecynwaith) 2007 (fel y'i diwygiwyd).
Gorfodi
Nid yw'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn newid y gofyniad cyfreithiol i chi gael trwydded amgylcheddol ar gyfer gweithrediad gwastraff pan ydych yn trin plastig gwastraff gan ddefnyddio gwres.
Fodd bynnag, ni fydd CNC fel arfer yn cymryd camau gorfodi os nad ydych yn cydymffurfio â’r angen i gael trwydded amgylcheddol os ydych yn bodloni’r gofynion yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn.
Yn ogystal, ni chaiff eich gweithgaredd achosi (na bod yn debygol o achosi) llygredd i'r amgylchedd na niwed i iechyd pobl, ac ni chaniateir iddoff:
- beri risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion nac anifeiliaid
- peri niwsans drwy sŵn neu arogleuon
- cael effaith andwyol ar gefn gwlad neu leoedd o ddiddordeb arbennig