Penderfyniad rheoleiddio 053: Storio a thrin diffoddwyr tân gwastraff i'w hadfer
Mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ddilys tan 31 Gorffennaf 2025, a bydd wedi cael ei adolygu erbyn hynny. Dylech wirio gyda ni bryd hynny i sicrhau bod y penderfyniad rheoleiddiol yn dal i fod yn ddilys.
Gall CNC dynnu’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ôl neu ei ddiwygio cyn y dyddiad adolygu os ydym o’r farn bod hynny’n angenrheidiol. Mae hyn yn cynnwys pan nad yw'r gweithgaredd y mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ymwneud ag ef wedi newid.
Penderfyniad rheoleiddiol
Nid yw’r penderfyniad rheoleiddiol hwn ond yn gymwys i ddiffoddwyr tân o dan god Catalog Gwastraff Ewropeaidd 16 05 05.
Yr amodau y mae’n rhaid i chi gydymffurfio â nhw
Triniaeth
Ni chewch ond trin:
- diffoddwyr tân nad ydynt yn cynnwys halonau
- hyd at 1,000 o ddiffoddwyr tân mewn unrhyw fis
- diffoddwyr tân drwy ollwng y cynnwys a datgymalu'r silindrau i gasglu rhannau ohonynt o dan drwydded neu esemptiad
- diffoddwyr tân gwastraff ar wyneb anathraidd gyda system ddraenio sydd wedi'i selio
Storio
Rhaid i chi wneud y canlynol:
- storio dim mwy na 4,000 o ddiffoddwyr tân gwastraff ar unrhyw adeg
- storio diffoddwyr tân gwastraff am hyd at 12 mis yn unig
- storio'r diffoddwyr tân gwastraff mewn man diogel
- storio'r diffoddwyr tân gwastraff ar wyneb anathraidd gyda system ddraenio sydd wedi'i selio
- gwahanu’r gwahanol fathau o bowdr yr ydych yn eu tynnu o ddiffoddwr tân a'u cadw'n sych
Rhyddhau cynnwys
Rhaid i chi ollwng dŵr ac ewyn i naill ai:
- carthffos fudr o dan gydsyniad gollwng elifiant masnach
- cynhwysydd wedi'i selio i'w waredu neu ei adennill mewn cyfleuster trin gwastraff awdurdodedig
Ni chewch ollwng unrhyw beth o ddiffoddwyr tân ewyn neu ddŵr sy'n cynnwys asid perfflworooctanoig neu fflworo-arwynebyddion i garthffos fudr. Rhaid gwaredu’r deunyddiau y mae’r diffoddwyr tân hyn yn eu cynnwys yn unol â rheoliadau sy’n ymwneud â llygryddion organig parhaus. Os ydych yn ansicr, gwiriwch y ddalen ddata diogelwch deunydd cyn gollwng unrhyw beth.
Rhaid i chi wneud y canlynol:
- rhoi unrhyw bowdr i mewn i gynwysyddion addas sydd wedi'u selio
- rhyddhau’r hyn sydd wedi’i gynnwys mewn diffoddwyr carbon deuocsid i'r aer oni bai eich bod yn gallu ei ddal a’i ailddefnyddio
Arwyneb anathraidd gyda system ddraenio sydd wedi'i selio
Mae arwyneb anathraidd yn arwyneb neu balmant sydd wedi’i adeiladu a'i gynnal i atal hylifau rhag cael eu trosglwyddo y tu hwnt i wyneb y palmant.
Mae gan system ddraenio sydd wedi'i selio gydrannau anathraidd nad ydynt yn gollwng. Mae'n sicrhau:
- na fydd unrhyw hylif yn rhedeg oddi ar yr wyneb ac eithrio drwy'r system
- bod unrhyw hylif sy'n mynd i mewn i'r system yn cael ei gasglu mewn swmp sydd wedi'i selio ac eithrio pan ellir ei ollwng yn gyfreithlon i garthffos fudr
Gorfodi
Nid yw'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn newid y gofyniad cyfreithiol i chi gael trwydded amgylcheddol ar gyfer gweithrediad gwastraff pan ydych yn storio ac yn trin diffoddwyr tân gwastraff i'w hadfer.
Fodd bynnag, ni fydd CNC fel arfer yn cymryd camau gorfodi os nad ydych yn cydymffurfio â’r angen i gael trwydded amgylcheddol os ydych yn bodloni’r gofynion yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn.
Yn ogystal, ni chaiff eich gweithgaredd achosi (na bod yn debygol o achosi) llygredd i'r amgylchedd na niwed i iechyd pobl, ac ni chaniateir iddo:
- beri risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion nac anifeiliaid
- peri niwsans drwy sŵn neu arogleuon
- cael effaith andwyol ar gefn gwlad neu leoedd o ddiddordeb arbennig