Datganiad rheoleiddio 053.1: Storio a thrin diffoddwyr tân gwastraff

Yn ddilys tan: 31 Awst 2026

Mae’r datganiad rheoleiddio (DRh) hwn yn berthnasol i storio a thrin diffoddwyr tân gwastraff.

Gall Cyfoeth Naturiol Cymru dynnu’r DRh hwn yn ôl neu ei ddiwygio cyn y dyddiad y bydd yn cael ei dynnu yn ôl os ydym yn ystyried bod angen gwneud hynny. Mae hyn yn cynnwys lle nad yw’r gweithgareddau y mae’r DRh hwn yn ymwneud â nhw wedi newid.

Datganiad rheoleiddio

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn bwriadu tynnu’r DRh hwn yn ôl ar 31 Awst 2026.

Mae’r DRh hwn yn fesur dros dro i ganiatáu i safleoedd wneud cais am drwydded gwaith gwastraff berthnasol sy’n caniatáu’r gweithgaredd hwn.

Rhaid i chi roi’r gorau i ddefnyddio’r DRh hwn os gwrthodir eich cais am drwydded.

Dim ond i ddiffoddwyr tân o dan god 16 05 05 Catalog Gwastraff Ewrop y mae’r DRh hwn yn berthnasol.

Yr amodau y mae’n rhaid i chi gydymffurfio â nhw

Triniaeth

Ni chewch ond trin:

  • diffoddwyr tân nad ydynt yn cynnwys sylweddau peryglus gan gynnwys halonau
  • hyd at 1,000 o ddiffoddwyr tân mewn unrhyw fis
  • diffoddwyr tân drwy ollwng y cynnwys a datgymalu’r silindrau i gasglu rhannau ohonynt o dan drwydded neu esemptiad
  • diffoddwyr tân gwastraff ar wyneb anathraidd gyda system ddraenio sydd wedi’i selio

Storio

Rhaid i chi fodloni’r canlynol:

  • storio dim mwy na 4,000 o ddiffoddwyr tân gwastraff ar unrhyw adeg cyn eu trin
  • storio diffoddwyr tân gwastraff am hyd at dri mis yn unig cyn eu trin
  • storio’r diffoddwyr tân gwastraff mewn man diogel
  • storio’r diffoddwyr tân gwastraff ar wyneb anathraidd gyda system ddraenio sydd wedi’i selio
  • gwahanu’r gwahanol fathau o bowdr yr ydych yn eu tynnu o ddiffoddwyr tân a’u storio mewn cynwysyddion addas wedi’u selio

Rhyddhau cynnwys

Rhaid i chi wacáu’r holl ewyn, dŵr a phowdrau o ddiffoddwyr tân i gynwysyddion wedi’u selio cyn eu gwaredu neu eu hadfer.

Rhaid i chi waredu ewyn, dŵr neu ffracsiynau wedi’u gwahanu sy’n cynnwys sylffonad perfflwrol octan, asid perfflworooctanoig neu asid perfflworohecsanesylffonig trwy losgi tymheredd uchel oddi ar y safle.

Lle mae ewyn a dŵr wedi’u gwahanu’n ffracsiynau ar wahân, dim ond y ffracsiynau sy’n cynnwys llygryddion organig parhaus sydd angen i chi eu hanfon i’w llosgi ar dymheredd uchel.

Rhaid i chi beidio â gollwng unrhyw ewyn sy’n cynnwys hylif i’r garthffos yn sgil y weithred hon.

Rhaid i chi beidio â gollwng diffoddwyr carbon deuocsid i’r awyr os gallwch chi ddal ac ailddefnyddio’r cynnwys.

Arwyneb anathraidd gyda system ddraenio sydd wedi’i selio

Mae arwyneb anathraidd yn arwyneb neu balmant sydd wedi’i adeiladu a’i gynnal i atal hylifau rhag cael eu trosglwyddo y tu hwnt i wyneb y palmant.

Mae gan system ddraenio sydd wedi’i selio gydrannau anathraidd nad ydynt yn gollwng. Mae’n sicrhau:

  • na fydd unrhyw hylif yn rhedeg oddi ar yr wyneb ac eithrio drwy’r system
  • bod unrhyw hylif sy’n mynd i mewn i’r system yn cael ei gasglu mewn swmp sydd wedi’i selio ac eithrio pan ellir ei ollwng yn gyfreithlon i garthffos fudr

Gorfodi

Nid yw’r DRh hwn yn newid eich gofyniad cyfreithiol i gael trwydded amgylcheddol ar gyfer gwaith gwastraff pan fyddwch chi’n storio ac yn trin diffoddwyr tân gwastraff i’w hadfer.

Fodd bynnag, ni fydd Cyfoeth Naturiol Cymru fel arfer yn cymryd camau gorfodi yn eich erbyn os na fyddwch yn cydymffurfio â’r gofyniad cyfreithiol hwn, os yw’r amodau canlynol yn cael eu bodloni:

  • mae eich gweithgaredd yn bodloni’r disgrifiad a nodir yn y DRh hwn
  • rydych chi’n cydymffurfio â’r amodau a nodir yn y DRh hwn

Yn ogystal, rhaid i’ch gweithgaredd beidio ag achosi (na bod yn debygol o achosi) llygredd i’r amgylchedd na niwed i iechyd pobl, ac ni chaniateir iddo wneud fel a ganlyn:

  • peri risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion nac anifeiliaid
  • peri niwsans drwy sŵn neu arogleuon
  • cael effaith andwyol ar gefn gwlad neu leoedd o ddiddordeb arbennig

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf