Penderfyniad rheoleiddio 043: Storio dŵr gwastraff halogedig o bibellau nwy
Mae’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ddilys tan 31 Gorffennaf 2026, a bydd wedi cael ei adolygu erbyn hynny. Dylech wirio gyda ni bryd hynny i sicrhau bod y penderfyniad rheoleiddiol yn dal i fod yn ddilys.
Gall CNC dynnu’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ôl neu ei ddiwygio cyn y dyddiad adolygu os ydym o’r farn bod hynny’n angenrheidiol. Mae hyn yn cynnwys pan nad yw'r gweithgaredd y mae’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ymwneud ag ef wedi newid.
Penderfyniad rheoleiddiol
Nid yw'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn newid y gofyniad cyfreithiol i chi gael trwydded amgylcheddol ar gyfer gweithrediad gwastraff pan ydych yn storio mwy na 1,000 litr o ddŵr gwastraff halogedig a dynnwyd o bibellau nwy.
Mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn berthnasol pan fo dŵr wedi mynd i mewn i bibell nwy a bod angen ei dynnu oddi wrthi. Mae’n bosibl y dosbarthir y dŵr yn wastraff peryglus (cod 16 10 01* gwastraff hylif dyfrllyd sy'n cynnwys sylweddau peryglus). Cewch dynnu'r dŵr gwastraff halogedig a’i roi i mewn i dancer.
Mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn gymwys pan fydd angen i chi storio mwy o ddŵr gwastraff halogedig o bibellau nwy na'r 1,000 litr o wastraff hylifol a ganiateir gan esemptiad 3 y Gyfarwyddeb Fframwaith Deunydd nad yw’n Wastraff.
Yr amodau y mae’n rhaid i chi gydymffurfio â nhw
Rhaid i chi wneud y canlynol:
- dim ond storio dŵr gwastraff halogedig mewn man a reolir gan weithredwr y grid nwy neu ei gontractwr awdurdodedig
- storio dŵr gwastraff halogedig mewn man diogel – rhaid i chi gymryd rhagofalon rhesymol i sicrhau na all y gwastraff ddianc ac na all aelodau’r cyhoedd gael mynediad ato
- storio dŵr gwastraff halogedig mewn man â system atal eilaidd – mae hyn yn golygu defnyddio bwnd neu system arall i atal unrhyw wastraff sy'n gollwng o’r cynhwysydd gwreiddiol rhag dianc o'r man lle mae'n cael ei storio cydymffurfio â gofynion gwastraff peryglus, gan gynnwys cofrestru fel cynhyrchydd gwastraff peryglus pan fo angen a gwaredu gwastraff peryglus yn briodol
- cadw cofnodion am ddwy flynedd i ddangos eich bod wedi cydymffurfio â’r penderfyniad rheoleiddiol hwn a sicrhau bod y cofnodion hyn ar gael i CNC ar gais
Os ydych yn defnyddio bwnd fel system atal eilaidd rhaid sicrhau bod ganddo’r nodweddion canlynol:
- leinin anathraidd
- capasiti o 110% neu fwy o gapasiti storio'r cynhwysydd gwreiddiol
Os oes mwy nag un cynhwysydd yn y system atal, rhaid i gapasiti’r bwnd fod yr un mwyaf o naill ai:
- 110% neu fwy o gapasiti storio'r cynhwysydd mwyaf
- 25% o gapasiti storio’r cynwysyddion gyda’i gilydd
Rhaid i chi gymryd camau rhesymol i gynnal capasiti’r systemau atal hyn bob amser.
Ni chewch wneud y canlynol:
- storio mwy na 17,000 litr o ddŵr gwastraff halogedig ar unrhyw adeg
- storio dŵr gwastraff halogedig am fwy na thri mis
Gorfodi
Nid yw'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn newid y gofyniad cyfreithiol i chi gael trwydded amgylcheddol ar gyfer gweithrediad gwastraff pan ydych yn storio dŵr gwastraff halogedig o bibellau nwy.
Fodd bynnag, ni fydd CNC fel arfer yn cymryd camau gorfodi os nad ydych yn cydymffurfio â’r angen i gael trwydded amgylcheddol os ydych yn bodloni’r gofynion yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn.
Yn ogystal, ni chaiff eich gweithgaredd achosi (na bod yn debygol o achosi) llygredd i'r amgylchedd na niwed i iechyd pobl, ac ni chaniateir iddo:
- beri risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion nac anifeiliaid
- peri niwsans drwy sŵn neu arogleuon
- cael effaith andwyol ar gefn gwlad neu leoedd o ddiddordeb arbennig