Penderfyniad rheoleiddio 025: Symud a defnyddio gwastraff asffalt wedi'i drin sy'n cynnwys col-tar
Mae’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ddilys tan 31 Rhagfyr 2025, a bydd wedi cael ei adolygu erbyn hynny. Dylech wirio gyda ni bryd hynny i sicrhau bod y penderfyniad rheoleiddiol yn dal i fod yn ddilys.
Gall CNC dynnu’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ôl neu ei ddiwygio cyn y dyddiad adolygu os ydym o’r farn bod hynny’n angenrheidiol. Mae hyn yn cynnwys pan nad yw'r gweithgaredd y mae’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ymwneud ag ef wedi newid.
Penderfyniad rheoleiddiol
Os byddwch yn cydymffurfio â gofynion y penderfyniad rheoleiddiol hwn, byddwn yn caniatáu'r defnydd terfynol o wastraff asffalt wedi'i drin sy'n cynnwys col-tar mewn gweithrediadau adeiladu penodol heb fod angen cael trwydded amgylcheddol. Byddwn hefyd yn llacio’r gofynion adrodd ar wastraff peryglus ar gyfer y man lle defnyddir gwastraff asffalt wedi’i drin sy'n cynnwys col-tar yn y pen draw.
Mae'n gymwys i ddefnyddio gwastraff asffalt wedi'i drin sy'n cynnwys col-tar mewn gweithrediadau adeiladu ar gyfer strwythurau palmant caled megis ffyrdd, palmentydd, llwybrau troed, meysydd parcio neu feysydd awyr.
Mae gwastraff asffalt yn cael ei greu pan fydd deunydd yn cael ei dynnu o strwythurau palmant, er enghraifft wrth atgyweirio ac adnewyddu ffyrdd a llwybrau. Pan mai bitwmen yw'unig r rhwymwr a ddefnyddir o fewn y strwythur, nid yw gwastraff asffalt fel arfer yn beryglus. Fodd bynnag, pan fo'r cyfryngau rhwymo yn cynnwys col-tar a’u bod uwchlaw’r trothwy gwastraff peryglus perthnasol, bydd y gwastraff asffalt yn cael ei ddosbarthu’n wastraff peryglus. Mae gwastraff asffalt sy'n cynnwys col-tar wedi’i ddosbarthu'n wastraff peryglus.
Y ffordd gyffredin o drin gwastraff asffalt sy'n cynnwys col-tar yw ei fathru, ei falu a’i sgrinio, ac yna fe'i defnyddir eto i adeiladu strwythurau palmant tebyg i'r rhai y deilliodd y gwastraff ohonynt, er enghraifft ffyrdd neu lwybrau. Mae defnyddio gwastraCTff asffalt sy'n cynnwys col-tar yn y ceisiadau adeiladu hyn yn weithrediad adfer gwastraff sy’n gofyn am drwydded o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016. Fodd bynnag, ystyrir ei bod yn anghymesur ei gwneud yn ofynnol cael trwydded. Mae risg amgylcheddol y gweithgaredd yn isel a gellir ei rheoli'n ddigonol drwy reolau cyffredinol addas.
Mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn caniatáu defnyddio gwastraff asffalt sy'n cynnwys col-tar wrth adeiladu ar yr amod y bodlonir y meini prawf a bennir isod. Nid yw'n cwmpasu'r driniaeth o gwastraff asffalt sy'n cynnwys col-tar.
Mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn hefyd yn darparu rhanddirymiad o ran ffurflenni derbynnydd chwarterol i'r man lle defnyddir y gwastraff yn y pen draw, sy'n symleiddio'r gofyniad i anfon ffurflen chwarterol i CNC. Mae’r holl ofynion eraill o dan y Rheoliadau Gwastraff Peryglus yn dal yn berthnasol, gan gynnwys y gofyniad i gwblhau nodiadau cludo.
Yr amodau y mae’n rhaid i chi gydymffurfio â nhw
Ni fyddwn yn mynd ar drywydd cais am drwydded amgylcheddol ar gyfer defnyddio gwastraff asffalt sy'n cynnwys col-tar mewn gweithrediadau adeiladu ar gyfer strwythurau palmant caled:
- pan fo'r gwastraff asffalt wedi'i drin sy'n cynnwys col-tar yn bodloni gofynion cymal 948, deunydd rhwymedig oer wedi'i ailgylchu oddi ar y safle, yn y fersiwn gyfredol o’r Fanyleb ar gyfer Cyfres Gwaith Priffyrdd 0900 (Saesneg yn unig), neu gymalau 810 i 880 ar gyfer sment a chymysgeddau hydrolig eraill yn y fersiwn gyfredol o’r Fanyleb gyfredol ar gyfer Cyfres Gwaith Priffyrdd 0800 (Saesneg yn unig).
- Pan na ddefnyddir y deunydd ond mewn haenau is-wyneb rhwymedig, ee yr haen is-sylfaen, haen y sylfaen a haen y rhwymwr. Ni chaniateir ei ddefnyddio mewn cymwysiadau arwyneb.
Byddwn hefyd yn caniatáu cyflwyno ffurflenni derbynnydd chwarterol symlach ar gyfer llwythi o wastraff asffalt sy'n cynnwys col-tar a dderbynnir yn y lle y caiff ei ddefnyddio yn y pen draw, fel a ganlyn:
- Gellir crynhoi'r holl lwythi o wastraff asffalt sy'n cynnwys col-tar a dderbynnir i un man lle caiff ei ddefnyddio yn y pen draw o fewn cyfnod o dri mis fel ei fod yn un cofnod ar y ffurflen derbynnydd, gan ddefnyddio'r cod post sydd agosaf at y man lle defnyddir y gwastraff yn y pen draw.
Rhagor o ganllawiau ar gyflwyno ffurflenni derbynnydd gwastraff peryglus.
Gorfodi
Nid yw'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn newid y gofyniad cyfreithiol i chi gael trwydded amgylcheddol ar gyfer gweithrediad gwastraff pan ydych yn defnyddio gwastraff asffalt wedi'i drin sy'n cynnwys col-tar.
Fodd bynnag, ni fydd CNC fel arfer yn cymryd camau gorfodi os nad ydych yn cydymffurfio â’r angen i gael trwydded amgylcheddol os ydych yn bodloni’r gofynion yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn.
Yn ogystal, ni chaiff eich gweithgaredd achosi (na bod yn debygol o achosi) llygredd i'r amgylchedd na niwed i iechyd pobl, ac ni chaniateir iddo:
- beri risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion nac anifeiliaid
- peri niwsans drwy sŵn neu arogleuon
- cael effaith andwyol ar gefn gwlad neu leoedd o ddiddordeb arbennig