Penderfyniad rheoleiddio 058: Trin a gwaredu planhigion estron goresgynnol
Mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ddilys tan 29 Chwefror 2026, a bydd wedi cael ei adolygu erbyn hynny. Dylech wirio gyda ni bryd hynny i sicrhau bod y penderfyniad rheoleiddiol yn dal i fod yn ddilys.
Gall CNC dynnu’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ôl neu ei ddiwygio cyn y dyddiad adolygu os ydym o’r farn bod hynny’n angenrheidiol. Mae hyn yn cynnwys pan nad yw'r gweithgareddau y mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ymwneud â hwy wedi newid.
Penderfyniad rheoleiddiol
Mae'r penderfyniad rheoliadol hwn yn ymwneud â phlanhigion estron goresgynnol dŵr croyw a daearol a deunydd sy’n deillio ohonynt.
Mae’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn gymwys os ydych am waredu i mewn i dir neu ar dir o fewn safle ddeunydd planhigion estron goresgynnol, a/neu’r swbstrad y mae wedi’i wreiddio ynddo, heb drwydded gwastraff gan CNC.
Os ydych yn dilyn yr amodau yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn, nid oes angen i chi wneud cais am drwydded gwastraff i drin neu gladdu deunydd planhigion estron goresgynnol.
Os yw’r planhigyn wedi’i restru fel rhywogaeth sy’n peri pryder efallai y bydd angen i chi hefyd wneud cais am drwydded gan CNC o dan Orchymyn Rhywogaethau Estron Goresgynnol (Gorfodi a Thrwyddedu 2019.
Mae’n bosibl y bydd angen i chi wneud cais am gytundeb chwynladdwyr gan CNC ar gyfer trin planhigion estron goresgynnol o dan rai amgylchiadau.
Os na fedrwch gydymffurfio â’r amodau yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn a’ch bod am waredu unrhyw ddeunydd planhigion estron goresgynnol drwy ei gladdu ar y safle, neu ailddefnyddio priddoedd wedi’u gogru neu wedi’u sgrinio sy’n cynnwys clymog Japan ar y safle, rhaid i chi wneud cais am drwydded gwastraff gan CNC.
Yr amodau y mae’n rhaid i chi gydymffurfio â nhw
Rhaid i chi fodloni amodau penodol er mwyn dilyn y penderfyniad rheoleiddiol hwn.
Trin neu gladdu pob math o ddeunydd planhigion estron goresgynnol ar y safle
Rhaid:
- bod gennych gynllun rheoli sy’n nodi sut y byddwch yn cloddio, yn trin neu’n claddu’r deunydd er mwyn atal twf pellach neu ymledu y tu hwnt i’r safle
- eich bod yn cynnal asesiad risg o fioddiogelwch y safle, ac o’r gweithgareddau trin a/neu waredu arfaethedig, sy’n nodi’r risg o ledaenu rhywogaethau planhigion estron goresgynnol a’r mesurau i liniaru’r risgiau hynny; rhoi mesurau ar waith i atal rhywogaethau estron goresgynnol rhag lledaenu o fewn y safle ac i’r safle ac oddi wrtho (er enghraifft sicrhau bod pob cerbyd, unrhyw offer ac phob dilledyn yn cael ei wirio, ei lanhau a’i sychu cyn iddo gyrraedd y safle a chyn iddo ei adael)
- sicrhau nad yw'r deunydd yn cynnwys llygryddion a fydd yn fygythiad i ansawdd dŵr daear
- eich bod yn claddu’r deunydd ar dir sydd o werth cynefin isel mewn ardal nad yw’n debygol o gael ei haflonyddu ac sydd fwy na saith metr i ffwrdd o safle perchennog tir cyfagos. Mae tir sydd o werth cynefin isel yn cynnwys tir sydd heb, er enghraifft, ddynodiadau cadwraeth, rhywogaethau a warchodir, cynefinoedd o dan adran 7 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 neu gynefinoedd yn Atodiad 1 i’r Gyfarwyddeb Cynefinoedd.
- eich bod yn cadw cofnodion am ddwy flynedd i ddangos eich bod wedi cydymffurfio â’r penderfyniad rheoleiddiol hwn a sicrhau bod y cofnodion hyn ar gael i CNC ar gais
Ni chewch storio'r deunydd am fwy na 12 mis cyn ei drin neu ei gladdu.
Dylid trin planhigion anfrodorol ymledol â chwynladdwr gan ddilyn yr arferion gorau.
Claddu ar y safle ddeunydd planhigion nad yw'n glymog Japan
Rhaid:
- eich bod dim ond yn claddu deunydd fel y dewis olaf ar ôl i chi ddiystyru opsiynau eraill nad ydynt yn peri unrhyw risg i’r amgylchedd megis compostio mewn ffordd nad yw’n peri unrhyw risg o aildyfu neu ledaenu
- eich bod yn claddu pridd sy'n cynnwys planhigion neu ddeunydd planhigion hyfyw (er enghraifft planhigion, hadau, rhisomau, cormau neu ddarnau o blanhigyn a allai aildyfu) ar ddyfnder o ddau fetr o leiaf ar y safle y daethant ohono. Dylid claddu corchwyn Seland Newydd (Crassula helmsii) ar ddyfnder o ddwy fetr wedi'i selio â philen geotecstil
- Rhaid i chi sicrhau bod unrhyw bilenni geotecstil a ddefnyddir ar gyfer claddu:
- heb eu difrodi
- yn ddigon mawr i leihau'r angen am seliau
- wedi'u selio'n ddiogel
- yn gallu aros yn gyfan am o leiaf 50 mlynedd
- yn gallu gwrthsefyll golau uwchfioled
Ni chewch gladdu cyfanswm o fwy na 1,000 tunnell o ddeunydd.
Claddu clymog Japan ar y safle
Gallwch gael gwared ar gansenni brown marw clymog Japan drwy gompostio ar y safle, cyn belled â'u bod wedi’u torri (nid wedi’u tynnu) o leiaf 10cm uwchlaw’r goron.
Rhaid i chi gladdu deunydd planhigion clymog Japan:
- Ar y safle y daeth ohono – gan gynnwys lludw a phriddoedd sydd o bosibl yn cynnwys clymog Japan
- Ar ddyfnder o bum metr o leiaf os nad ydych wedi ei selio â philen geotecstil
- Ar ddyfnder o ddau fetr o leiaf os ydych wedi ei selio â philen geotecstil
- Rhaid i chi sicrhau bod unrhyw bilenni geotecstil a ddefnyddir ar gyfer claddu:
- heb eu difrodi
- yn ddigon mawr i leihau'r angen am seliau
- wedi'u selio'n ddiogel
- yn gallu aros yn gyfan am o leiaf 50 mlynedd
- yn gallu gwrthsefyll golau uwchfioled
Ni chewch gladdu cyfanswm o fwy na 1,000 tunnell o ddeunydd.
Argymhellwn eich bod yn defnyddio contractwr sydd â phrofiad o gladdu clymog Japan, a chanddo gynllun sicrwydd fel y rhai a gynigir gan gorff masnach perthnasol yn cefnogi hynny.
Rhaid i chi ddweud wrth CNC o leiaf wythnos cyn i chi gladdu’r deunydd clymog Japan gan ddefnyddio’r penderfyniad rheoleiddiol hwn.
Ailddefnyddio ar y safle briddoedd sy'n cynnwys clymog Japan sydd wedi'u gogru neu wedi’u sgrinio
Gallwch leihau faint o glymog Japan sydd mewn pridd drwy ei sgrinio neu ei ogru, ond mae'n annhebygol o gael gwared ar yr holl egin (sef darn o’r deunydd a all ddatblygu'n blanhigyn newydd).
Ni chewch fynd â phriddoedd sydd wedi'u sgrinio neu eu gogru oddi ar y safle, ac eithrio er mwyn cael gwared arnynt ar safle tirlenwi neu safle â llosgydd sydd â'r math cywir o drwydded. Rhaid i chi gael gwared ar unrhyw briddoedd sydd wedi'u sgrinio neu wedi’u gogru nas defnyddiwyd drwy fynd â’r priddoedd hynny i gyfleuster tirlenwi neu gyfleuster llosgi.
Gallwch ailddefnyddio ar y safle cynhyrchu briddoedd sydd wedi'u sgrinio neu wedi'u gogru, ond dim ond mewn ardal gyfyngedig – ni chewch ei ledaenu ar draws y safle. Rhaid sicrhau hefyd fod priddoedd o’r fath yn cael eu defnyddio ffwrdd o’r canlynol:
- cyrsiau dŵr, ffosydd neu ardaloedd gwarchodedig – ddim o fewn 50 metr iddynt
- unrhyw ffiniau ag eiddo cyfagos
- ardaloedd amwynder presennol, lawntiau a gerddi
- lleoedd y mae’n bosibl y bydd pobl neu dda byw yn eu defnyddio
Gwaredu deunyddiau sy'n cynnwys planhigion estron goresgynnol oddi ar y safle
Os na fedrwch gael gwared ar ddeunyddiau sy'n cynnwys deunydd planhigion estron goresgynnol, gan gynnwys clymog Japan, drwy ddull addas ar y safle, rhaid i chi ei anfon i safle tirlenwi neu gyfleuster llosgi sydd â'r math cywir o drwydded i dderbyn y gwastraff.
Mae hyn hefyd yn gymwys os ydych yn cloddio deunydd a gladdwyd yn flaenorol gan ddefnyddio'r penderfyniad rheoleiddiol hwn, ac yna'n ei symud oddi ar y safle.
I gael gwybod i ble y gallwch ei anfon gallwch ddod o hyd i fanylion safleoedd gwastraff trwyddedig yma neu gysylltu â’ch safle gwaredu gwastraff lleol. O ran cael gwared ar glymog Japan, rhaid i chi ddweud wrth CNC eich bod wedi wneud hyn ac i ble yr ydych wedi’i anfon.
Gorfodi
Nid yw'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn newid y gofyniad cyfreithiol i chi gael trwydded amgylcheddol ar gyfer gweithrediad gwastraff pan ydych yn trin ac yn gwaredu planhigion estron goresgynnol.
Fodd bynnag, ni fydd CNC fel arfer yn cymryd camau gorfodi os nad ydych yn cydymffurfio â’r angen i gael trwydded amgylcheddol os ydych yn bodloni’r gofynion yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn.
Yn ogystal, ni chaiiff eich gweithgaredd achosi (na bod yn debygol o achosi) llygredd i’r amgylchedd na niweidio iechyd pobl, ac ni chaniateir iddo:
- beri risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion nac anifeiliaid
- peri niwsans drwy sŵn neu arogleuon
- cael effaith andwyol ar gefn gwlad neu leoedd o ddiddordeb arbennig