Penderfyniad rheoleiddio 002: Defnyddio lludw tanwydd maluriedig heb ei rwymo a lludw gwaelod ffwrnais wrth adeiladu

Mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ddilys tan 1 Mehefin 2025, a bydd wedi cael ei adolygu erbyn hynny. Dylech wirio gyda ni bryd hynny i sicrhau bod y penderfyniad rheoleiddiol yn dal i fod yn ddilys.

Gall CNC dynnu’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ôl neu ei ddiwygio cyn y dyddiad adolygu os ydym o’r farn bod hynny’n angenrheidiol. Mae hyn yn cynnwys pan nad yw'r gweithgareddau y mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ymwneud â hwy wedi newid. 

Penderfyniad rheoleiddiol

Os byddwch yn cydymffurfio â'r gofynion isod, byddwn yn caniatáu defnyddio lludw tanwydd maluriedig heb ei rwymo a lludw gwaelod ffwrnais o dan amgylchiadau penodol heb fod angen cael trwydded amgylcheddol. 

Ystyriodd y Prosiect Protocolau Gwastraff a ellid datblygu safle diwedd gwastraff generig ar gyfer defnyddio lludw tanwydd maluriedig heb ei rwymo a lludw gwaelod ffwrnais heb ei rwymo. Daeth y gwaith i'r casgliad na ellid llunio protocol ansawdd, yn nodi'r meini prawf diwedd gwastraff ar gyfer cynhyrchu a defnyddio lludw tanwydd maluriedig a lludw gwaelod ffwrnais heb eu rhwymo, ar hyn o bryd. Mae’r diwydiant ar hyn o bryd yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i asesu effaith defnyddio lludw tanwydd maluriedig heb ei rwymo ar yr amgylchedd. 

Mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn caniatáu i ludw tanwydd maluriedig a lludw gwaelod ffwrnais heb eu rhwymo gael eu defnyddio mewn adeiladu o dan amodau penodol heb drwydded amgylcheddol tra bo'r diwydiant yn aros am ganfyddiadau'r gwaith maes sy'n cael ei wneud gan brosiect Equal. Pan fydd y canfyddiadau wedi'u cyrraedd, bydd y penderfyniad rheoliadol hwn naill ai'n cael ei ddiwygio neu ei dynnu'n ôl. 

Nid yw'r penderfyniad rheoleiddiol hwn ond yn ymdrin â’r defnydd terfynol o ludw tanwydd maluriedig a lludw gwaelod ffwrnais heb eu rhwymo – a’r trefniadau cysylltiedig ar gyfer eu storio – mewn prosiectau adeiladu megis argloddiau, adeiladu ffyrdd ac adeiladu amddiffynfeydd rhag llifogydd. Os byddwch yn trin unrhyw ludw tanwydd maluriedig/lludw gwaelod ffwrnais, neu os ydych yn storio'r deunyddiau hyn yn unrhyw le heblaw'r man lle cânt eu defnyddio'n derfynol, neu os ydych yn cyflawni gweithgaredd gwaredu, bydd angen trwydded arnoch. Ein safbwynt ni yw bod lludw tanwydd maluriedi a lludw gwaelod ffwrnais heb eu rhwymo yn parhau i fod yn wastraff nes iddo gael ei ddefnyddio'n derfynol. 

Os na fedrwch gydymffurfio â'r amodau yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn, mae angen i chi wneud cais am drwydded amgylcheddol. 

Yr amodau y mae’n rhaid i chi gydymffurfio â nhw 

Rhaid i'r storfa fod yn ddiogel a bod yn y man y caiff y deunydd ei ddefnyddio’n derfynol. 

Ni chaniateir storio: 

  • mwy na 50,000 tunnell
  • am fwy na chwe mis
  • ar brif ddyfrhaen
  • o fewn 500 metr i unrhyw dwll turio neu ffynnon a ddefnyddir i gyflenwi dŵr ar gyfer yfed neu ar gyfer cynhyrchu bwyd domestig
  • o fewn 500 metr i ecosystem daearol sy’n ddibynnol ar ddŵr daear oni bai bod system casglu trwytholchion yn ei lle 

O ran y defnydd o wastraff: 

  • ni chaniateir defnyddio mwy na 100,000 tunnell ar gyfer y prosiect adeiladu cyfan. Byddwn yn defnyddio dull synnwyr cyffredin o ran a yw rhywbeth yn brosiect unigol neu wedi’i rannu’n artiffisial. Er enghraifft, byddai adeiladu ffordd neu briffordd fel arfer yn brosiect unigol hyd yn oed pe bai’n cael ei ddisgrifio fel un sydd wedi’i rannu’n sawl cam. Yn yr un modd, byddai adeiladu bwnd sŵn, creu cwrs golff neu adeiladu arglawdd llifogydd fel arfer yn brosiect unigol.
  • rhaid i’r defnydd fod ar gyfer gweithgaredd adfer ac nid ar gyfer gwaredu. Darganfod a yw gweithgaredd yn gyfystyr ag adfer neu waredu 


Ni chaniateir defnyddio gwastraff o fewn: 

  • Parthau Diogelu Tarddiad Dŵr Daear 1 neu 2
  • 50 metr i unrhyw bistyll neu ffynnon, neu o fewn 50 metr i unrhyw dwll turio a ddefnyddir i gyflenwi dŵr (gan gynnwys cyflenwadau dŵr preifat)
  • 50 metr i safle sydd â rhywogaethau neu gynefinoedd perthnasol a warchodir o dan y Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth y mae Cyfoeth Naturiol Cymru o’r farn bod y gweithgaredd hwn yn peri risg iddynt
  • 500 metr i safle Ewropeaidd, safle Ramsar neu Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)
  • 50 metr i Warchodfa Natur Genedlaethol (GNG), Gwarchodfeydd Natur Lleol (GNLl), Safle Bywyd Gwyllt Lleol, coetir hynafol neu heneb gofrestredig
  • 250 metr i unrhyw fan lle mae madfallod dŵr cribog yn bresennol pan fo cynefin da yn cysylltu lleoliad y dyddodion gwastraff â phyllau magu’r madfallod. Cynefinoedd da yw’r rhai sy’n darparu digon o orchudd a lloches i’r madfallod mewn tywydd poeth neu oer, a chyflenwad da o infertebratau. Mae’r mathau o gynefinoedd sy’n gallu cynnal madfallod dŵr cribog yn cynnwys prysgwydd a choetir, glaswelltiroedd garw a nodweddion llinellol fel cloddiau, waliau cerrig a llinellau rheilffordd, sydd ag amrywiaeth o lochesau i’r madfallod eu defnyddio

Rhaid i’r gweithredwr hysbysu Cyfoeth Naturiol Cymru am y gweithgaredd arfaethedig:

  • o leiaf 10 niwrnod cyn i’r gwastraff ddechrau cael ei ddanfon i’r safle at ddibenion defnyddio mwy na 5,000 tunnell ohono 
  • o leiaf bum niwrnod cyn i’r wastraff gael ei ddanfon at ddibenion defnyddio llai na 5,000 tunnell ohono

Rhaid i'r hysbysiad gynnwys, o leiaf:

  • enw a manylion cyswllt y gweithredwr; a’r lleoliad lle mae'r lludw tanwydd maluriedig neu'r lludw gwaelod ffwrnais i gael ei ddefnyddio, gan gynnwys cyfeirnod grid
  • y symiau sydd i'w defnyddio (mewn tunelli)
  • hyd y prosiect; manylion y gweithgaredd
  • cadarnhad bod y defnydd o'r gwastraff yn cydymffurfio ag amodau'r penderfyniad rheoleiddiol hwn 

At ddibenion defnyddio mwy na 5,000 tunnell mae’n ofynnol cyflwyno lluniadau cynllun manwl (planiau/trawstoriadau) sy’n dangos y lefelau gwreiddiol a’r lefelau terfynol. 

  • Rhaid i'r gwastraff fod yn addas i'w ddefnyddio a rhaid iddo fodloni'r safonau peirianneg sifil gofynnol
  • Ni chaniateir cymysgu'r gwastraff â mathau eraill o wastraff
  • Ni chaniateir cymysgu'r gwastraff â deunydd nad yw’n wastraff oni bai bod hynny’n ei wella ar gyfer ei ddefnyddio
  • Bydd yr holl reolaethau gwastraff eraill megis dyletswydd gofal a chofrestriad cludwyr gwastraff yn dal i fod yn gymwys 

Os ydych chi o'r farn bod eich deunydd wedi bodloni'r prawf diwedd gwastraff, ewch i'n canllawiau ar y prawf diwedd gwastraff a sut i geisio ein barn. 

Gorfodi 

Nid yw'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn newid y gofyniad cyfreithiol i chi gael trwydded amgylcheddol ar gyfer gweithrediad gwastraff pan ydych yn defnyddio lludw tanwydd maluriedig heb ei rwymo a lludw gwaelod ffwrnais heb ei rwymo wrth adeiladu. 

Fodd bynnag, ni fydd CNC fel arfer yn cymryd camau gorfodi os nad ydych yn cydymffurfio â’r angen i gael trwydded amgylcheddol os ydych yn bodloni’r gofynion yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn. 

Yn ogystal, ni chaiff eich gweithgaredd achosi (na bod yn debygol o achosi) llygredd i'r amgylchedd na niwed i iechyd pobl, ac ni chaniateir iddo: 

  • beri risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion nac anifeiliaid
  • peri niwsans drwy sŵn neu arogleuon
  • cael effaith andwyol ar gefn gwlad neu leoedd o ddiddordeb arbennig 

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf