Penderfyniad rheoleiddio 101.1: Defnyddio diffoddwyr tân gwastraff ar gyfer hyfforddiant

Mae’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ddilys tan 31 Gorffennaf 2028, a bydd wedi cael ei adolygu erbyn hynny. Dylech wirio gyda ni bryd hynny i sicrhau bod y penderfyniad rheoleiddiol yn dal i fod yn ddilys.

Gall CNC dynnu’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ôl neu ei ddiwygio cyn y dyddiad adolygu os ydym o’r farn bod hynny’n angenrheidiol. Mae hyn yn cynnwys pan nad yw’r gweithgaredd y mae’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ymwneud ag ef wedi newid.

Penderfyniad rheoleiddiol 

Mae’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ymwneud â phryd y gallwch storio a defnyddio diffoddwyr tân gwastraff i hyfforddi pobl i ddiffodd tanau.

Os dilynwch yr amodau yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn, gallwch ddefnyddio diffoddwyr tân gwastraff ar gyfer hyfforddiant heb drwydded amgylcheddol ar gyfer gweithgaredd gwastraff. Os na allwch gydymffurfio â’r amodau yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn, mae angen i chi gyflwyno cais am drwydded amgylcheddol.
 

Yr amodau y mae’n rhaid i chi gydymffurfio â nhw  

Rhaid i chi fodloni’r canlynol:

  • bod yn ddarparwr hyfforddiant cydnabyddedig ar gyfer gwasanaethau diffodd tân
  • dim ond storio a defnyddio diffoddwyr tân gwastraff ar gyfer ymarferion hyfforddi
  • dim ond defnyddio diffoddwyr tân gwastraff nad oes angen unrhyw waith trin na thrwsio arnynt
  • dim ond defnyddio diffoddwyr tân gwastraff sydd â dalen ddata diogelwch deunyddiau
  • dim ond storio neu ddefnyddio hyd at 100 o ddiffoddwyr tân gwastraff ar unrhyw un adeg
  • dim ond storio a defnyddio diffoddwyr tân sydd wedi’u dosbarthu fel cod gwastraff 16 05 05
  • storio a defnyddio diffoddwyr tân gwastraff ar arwyneb anathraidd gyda draeniad wedi’i selio
  • anfon unrhyw ewyn sydd wedi’i ollwng oddi ar y safle i gael ei drin yn briodol
  • anfon diffoddwyr tân ail-law i’w trin oddi ar y safle neu i’w gwaredu yn unol â’r rheoliadau cyfredol
  • cadw cofnodion am ddwy flynedd i ddangos eich bod wedi cydymffurfio â’r penderfyniad rheoleiddiol hwn a sicrhau bod y cofnodion hyn ar gael i Cyfoeth Naturiol Cymru ar gais

Ni ddylech ddefnyddio unrhyw ddiffoddwyr tân gwastraff sy’n cynnwys sylffonad perfflwro octan (PFOS), asid perfflworooctanoig (PFOA) nac asid perfflworohecsanesylffonig (PFHxS). Os ydych chi’n ansicr, gwiriwch y ddalen ddata diogelwch deunyddiau gan gyflenwr eich diffoddwyr tân, neu’n uniongyrchol gyda’r cyflenwr os yw’r wybodaeth yn aneglur, cyn i chi ddefnyddio’r diffoddwyr ar gyfer hyfforddiant.

Gorfodi 

Nid yw’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn newid y gofyniad cyfreithiol i chi gael trwydded amgylcheddol ar gyfer gweithrediad gwastraff pan ydych yn defnyddio diffoddwyr tân gwastraff at ddibenion hyfforddi.

Fodd bynnag, ni fydd CNC fel arfer yn cymryd camau gorfodi os nad ydych yn cydymffurfio â’r angen i gael trwydded amgylcheddol os ydych yn bodloni’r gofynion yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn.

Yn ogystal, ni chaiff eich gweithgaredd achosi (na bod yn debygol o achosi) llygredd i’r amgylchedd na niwed i iechyd pobl, ac ni chaniateir iddo wneud y canlynol:

  • peri risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion nac anifeiliaid
  • peri niwsans drwy sŵn neu arogleuon
  • cael effaith andwyol ar gefn gwlad neu leoedd o ddiddordeb arbennig

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf