Llifddor yw'r term a roddir i'r biblinell sy'n cludo dŵr o'r mewnlif i'r tŷ tyrbin. Unwaith mae'r effeithiau ar geomorffoleg wedi'u diwallu trwy leoli a chynllunio’r adeiledd mewnlif mewn modd priodol, y cam nesaf yw lleiafu effaith y llifddor ar y sianel a’r parth torlannol drwy gyfeirio priodol. 

Nid yw cynllun amgylcheddol y llifddor na’r gwaith o'i hadeiladu yn cael eu rheoleiddio'n arferol drwy drwyddedau adnoddau dŵr, ond mae'n ofyniad unrhyw gydsyniad cynllunio Gwlad a Thref yn ogystal â Thrwyddedau Gweithgarwch Perygl Llifogydd neu gydsyniadau Cyrsiau Dŵr Cyffredin ar gyfer gwaith o fewn neu'n gyfagos i sianel afon.

Gweler Cymeradwyaethau, trwyddedau a chydsyniadau 

Cyfeirio llifddor

Dylid cyfeirio'r llifddor er mwyn gadael sianel yr afon mor agos i'r adeiledd mewnlif â phosibl. Bydd hyn yn lleihau ei heffaith ar brosesau geomorffolegol ac yn ei hatal rhag rhwystro pysgod sy'n mudo. Mae'n rhaid cynnal y gwaith o adeiladu'r llifddor gan beri’r aflonyddwch lleiaf i lan a gwely'r afon i gadw sefydlogrwydd tir a lleihau’r perygl o erydu yn y dyfodol.

Cyfeirio yn y sianel

Dylid osgoi cyfeirio'r llifddor o fewn sianel yr afon. Mae cyfeirio yn y sianel ond yn dderbyniol lle mae'n galluogi rhoi adeiledd mewnlif mewn lle gwell a’i bod yn bosibl gosod y llifddor yn ddiogel y tu allan i sianel y prif lif.

Croesfannau afonydd

Dylid cynllunio llwybr y llifddor i osgoi croesfannau afonydd p'un ai ar ffurf adeileddau uwchben y tir (pontydd pibell) neu wedi'u claddu ar draws gwely afon, oni bai fod eu defnydd yn fanteisiol wrth alluogi lleoli adeiledd mewnlif lle ceir effaith is. Os yw croesfan afon yn angenrheidiol, yna dylid ystyried pont bibell uwchben y tir yn gyntaf, gydag ategweithiau yn cael eu gosod i ffwrdd o'r sianel i osgoi rhwystro llwybrau llif llifogydd.

Mae'r gwaith adeiladu sy'n rhan o groesfannau piblinellau wedi'u claddu yn debygol o achosi aflonyddwch mawr i amodau tir a chynefinoedd ar ochr y glannau ac yn y sianel. Gallent hefyd arwain at amodau geomorffegol ansefydlog os nad yw'r gwely a'r glannau yn cael eu hadfer i'w cyflwr blaenorol. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd angen claddu piblinellau yn ddyfn i osgoi iddynt gael eu datguddio yn y dyfodol o ganlyniad i erydiad i wely'r afon.

Os yw croesfan afon wedi'i chladdu yn angenrheidiol, mae'n rhaid adfer gwely a glannau'r sianel wrth y groesfan i'w croestoriadau, uchderau a phroffiliau gwreiddiol. Lle adeiladir piblinellau claddedig mewn ardal gorlifdir neu waelod dyffryn, mae'n rhaid adfer y tir i'w lefelau gwreiddiol i atal tarfiad ar lwybrau llif naturiol ar gyfer llifoedd llifogydd dros y tir. Fel arall, dylid cyfeirio a gosod unrhyw biblinell uwchben y tir mewn modd sensitif i osgoi unrhyw darfiad ar lwybrau llif gorlifdiroedd.

Gosod llifddorau

Dylid gosod llifddorau gan ddilyn arferion da ar gyfer adeiladu piblinellau. Gall ffosydd ar gyfer y llifddor ac ôl-lenwi gwael arwain yn anfwriadol at y llwybr llifddor yn gweithredu fel draen tir claddedig. Lle mae hyn yn digwydd, gall ddarparu arwyneb ffafriol neu lwybr llif is-wyneb sy'n newid patrymau draenio lleol a gall arwain at sgwrio ac ansefydlogrwydd o amgylch y llifddor ei hun neu dir cyfagos. Dylid adeiladu llwybr y llifddor hefyd i warchod llwybrau draenio ar y wyneb lleol ac i osgoi blocio sianeli draenio neu greu argloddiau sy'n newid cyfeiriad y llif, yn enwedig mewn ardaloedd gorlifdir neu gwlyptir.

Gallai gosod llifddorau uwchben y tir fod yn briodol mewn rhai lleoliadau lle mae agor ffosydd yn debygol o achosi niwed amgylcheddol, fel niwed i safleoedd gwlyptir neu goetir gwarchodedig sy'n agored i niwed yn sgil newid mewn patrymau draenio naturiol. I'r gwrthwyneb, mae gan lifddorau uwchben y tir effaith weledol ar y dirwedd ac yn debygol o fod angen caniatadau arbennig gan awdurdodau cynllunio lleol.

Arferion gorau adeiladu

Dylai mabwysiadu arferion gorau dulliau adeiladu i adfer amodau tir blaenorol leihau unrhyw amharu wrth osod y llifddor, galluogi adferiad cynt o'r safle, a lleihau'r angen am beirianneg galed ddianghenraid i sefydlogi ochrau glannau a gwely'r sianel. Anogir yn gryf i beidio defnyddio technegau fel rhoi clogfeini ar ochr y lan neu osod concrit dros wely'r sianel i lawr yr afon a byddai angen eu cynnwys mewn unrhyw gais am drwydded. Gall peirianneg galed amharu ar batrymau lleol o lif a phrosesau cludo gwaddod a gall arwain yn anfwriadol at gynnydd mewn erydiad wrth i amodau geomorffolegol ail-gydbwyso. Dylid gweithredu'r defnydd o dechnegau biobeirianneg ar gyfer adfer glannau a gwely afonydd lle bynnag y bo'n bosibl.

Egwyddorion allweddol – Cyfeirio llifddor

  • Cyfeirio'r llifddor allan o sianel yr afon mor agos i'r mewnlif â phosibl
  • Osgoi cyfeirio'r llifddor o fewn sianel yr afon
  • Osgoi croesfannau afonydd ar lwybr y llifddor
  • Gwarchod patrymau draenio sy'n bodoli eisoes wrth gyfeirio ac adeiladu'r llifddor
  • Gweithredu dulliau arferion gorau ar gyfer adeiladu piblinellau er mwyn osgoi llwybrau llif ffafriol wrth agor ffosydd
  • Gweithredu dulliau adeiladu arferion gorau yn ystod y gwaith adeiladu i leihau effaith ar lannau'r afon a gwely'r afon
  • Adfer gwely a glannau sianel yr afon i'w croestoriadau, uchderau a phroffiliau gwreiddiol
  • Lleihau'r defnydd o dechnegau peirianneg galed i sefydlogi glannau'r afon a gwely'r afon

Darllenwch am ddylunio'r arllwysfa ar gyfer cynllun ynni dŵr

Diweddarwyd ddiwethaf