Deall geomorffoleg ar gyfer llunio cynllun ynni dŵr

Yn ein hadran ganllaw Trwyddedu coredau ar gyfer cynlluniau ynni dŵr, gwnaethom esbonio bod angen i ni ddeall sut mae dyluniad a dull gweithredu cynllun ynni dŵr yn cael effaith ar geomorffoleg yr afon. Yn yr adran hon, byddwn yn disgrifio'n gryno beth mae hyn yn ei olygu, pam ei fod yn bwysig, a'r hyn sydd angen i chi ei wneud.

Beth yw geomorffoleg?

Mae trosglwyddo gwaddod – tywod, graean, cerrig crynion a cherrig mawrion – ar hyd afon neu nant yn broses naturiol bwysig. Nodweddir afonydd a nentydd yn ôl y ffordd y mae'r llif o ddŵr yn creu ac yn symud y deunydd hwn, gan siapio gwely a glannau'r cwrs dŵr. Geomorffoleg afonol yw'r enw a roddir i'r gwaith o astudio'r prosesau hyn, a ffurf afon, yn wyddonol. Mae prosesau geomorffolegol yn creu ac yn cynnal yr amrediad eang o nodweddion sianel naturiol fel gwelyau graean, pyllau a rifflau sy'n gynefinoedd hanfodol ar gyfer y planhigion ac anifeiliaid sy'n byw yn ein nentydd ac afonydd.

Gelwir y ffordd y mae gwaddod yn symud ar hyd cwrs dŵr yn arfer llif gwaddod. Gellir delweddu hyn fel llif cyson o ddeunydd gwaddod yn symud ar hyd system afon gyfan, o'i tharddle i'r môr. Bydd arfer llif gwaddod unigryw yn perthyn i bob cwrs dŵr, a bydd yn dibynnu ar ddaeareg y safle, pa mor serth yw'r sianel, a ffurf a siâp gwely'r afon, ei glannau, ac ardaloedd o dir cyfagos i'w glannau. Ceir cysylltiad agos iawn rhwng yr arfer llif gwaddod a ffurf a siâp y cwrs dŵr, ac maent yn sensitif i newid. Gan hynny, os newidiwch un elfen, gallwch ddisgwyl newid adweithiol mewn un arall. 

Gall adeileddau hydrolig ar gyfer cynlluniau ynni dŵr, a gostyngiadau mewn llifau afon o ganlyniad i dyniadau dŵr, newid geomorffoleg afon a tharfu ar yr arfer llif gwaddod. Gallant hefyd ddarnu ecosystemau ein hafonydd, gan gael effaith ar eu gallu i gynnal poblogaethau iach o blanhigion ac anifeiliaid drwy gyfyngu ar eu symudiad o fewn hyd afon.

Lleoli a chynllunio isel eu heffaith

Byddwn fel arfer ond yn ystyried rhoi trwydded ar gyfer gwaith cronni dŵr newydd ar gyfer cynllun ynni dŵr os yw wedi'i leoli mewn dalgylch uwch, os gellir ei gynllunio a'i adeiladu mewn modd sy'n ail-greu nodweddion sianel naturiol sydd eisoes yn bodoli, ac os yw'n peri risg isel o newid neu darfu ar brosesau geomorffolegol ac ecolegol.

Ceir dau gam wrth sicrhau hyn, fel a ganlyn:

Lleoli eich cored mewnlif – mae hyn yn golygu cymhwyso egwyddorion geomorffolegol er mwyn pennu ble i leoli eich cored mewnlif ar raddfa leol o fewn hyd afon fel y bydd yn cael effaith geomorffolegol isel. Gelwir hyn hefyd yn ‘ficro-leoli’. Rydym yn disgrifio sut i wneud hyn yn ein hadran ganllaw Lleoli cored mewnlif ar gyfer cynllun ynni dŵr.

Cynllunio eich cored mewnlif, llifddor a gollyngfa – ceir  egwyddorion syml y dylech eu hymgorffori yng ngwaith cynllunio ac adeiladu eich adeileddau ynni dŵr fel y byddant yn gweithredu yn unol ag amodau’r drwydded ac yn lleihau'r risg i geomorffoleg ac ecoleg. Ceir disgrifiad o'r egwyddorion hyn yn ein hadran ganllaw Egwyddorion cynllunio ar gyfer adeileddau ynni dŵr.

Yr hyn sydd angen i chi ei wneud

Cyflwyno arolwg lluniau geomorffoleg

Bydd angen i chi gyflwyno arolwg lluniau geomorffoleg i ni ynghyd ag unrhyw gais am drwydded lawn neu drwydded drosglwyddo, amrywiad i drwydded, neu adnewyddu trwydded (lle nad ydym eisoes wedi derbyn arolwg lluniau gennych) ar gyfer gwaith tynnu a/neu gronni dŵr ar gyfer cynllun ynni dŵr.

Mae'r arolwg lluniau'n ddogfen annhechnegol lle defnyddir lluniau i ddangos priodoleddau geomorffolegol yr hyd afon i ni y caiff eich cynllun ynni dŵr effaith arno.  Ceir arweiniad ar sut i gynnal arolwg lluniau yn ein hadran ganllaw Arolygon geomorffoleg.

Os yw'r wybodaeth a gyflwynir, ynghyd â'n dadansoddiad bwrdd gwaith, yn dangos i ni fod gan yr hyd afon y caiff eich cynllun arfaethedig effaith arno lefel sensitifrwydd isel i newid, ac y caiff yr adeileddau arfaethedig eu lleoli yn unol â'n hegwyddorion cynllunio, mae'n annhebyg y bydd angen arnom gael unrhyw asesiadau geomorffolegol pellach.

Os ydym o'r farn y bydd lleoliad eich adeileddau arfaethedig yn parhau i beri risg i geomorffoleg ac ecoleg, a bod yr arolwg lluniau'n dangos bod lleoliadau cyfagos y gellid gosod eich adeileddau ynddynt a fyddai'n peri llai o risg, efallai y byddwn yn gofyn i chi eu hail-leoli i'r lleoliadau hynny.

Mewn achosion cymhleth, mae'n bosib y bydd yn ofynnol i'n geomorffolegwyr ymweld â'r safle.

Arolwg geomorffoleg meintiol

Yn achos cynlluniau mwy, cymhleth, sy'n gofyn am wneud addasiadau i gored sydd eisoes yn bodoli, neu gynlluniau mewn hydoedd sy'n debygol o fod yn sensitif i newid, mae'n bosibl y byddwn yn gofyn i chi gyflwyno asesiad geomorffolegol meintiol mwy manwl. Bydd y math hwn o asesiad yn gofyn am gynnal arolwg a chasglu data yn y maes, a bydd yn golygu dadansoddi'r data hyn er mwyn disgrifio priodoleddau geomorffolegol presennol ar gyfer hyd penodol, a sut y gallai'r rhain newid o ganlyniad i adeiladu a gweithredu cynllun ynni dŵr. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd hyn yn ei gwneud yn ofynnol i'r ymgeisydd gaffael gwasanaethau ymgynghorydd geomorffoleg arbenigol. Byddwn yn eich cynghori ynghylch yr wybodaeth fydd ei hangen arnom ar gyfer cynnal asesiad geomorffoleg meintiol os byddwn o'r farn ei fod yn angenrheidiol ar ôl adolygu'ch cais cychwynnol.

Asesiad o'r effaith geomorffolegol gronnus

Nid ydym o blaid adeiladu cynlluniau ynni dŵr lluosog (nac addasiadau ffisegol sylweddol eraill) o fewn hyd afon neu mewn dalgylchoedd bach sy'n gyfagos i'w gilydd. Mae effaith gronnus tyniadau dŵr niferus a rhwystrau yn yr afon yn peri risg i briodoleddau afonydd, hyd yn oed y rhai mwyaf sefydlog. Gall hyn arwain at ddirywiad yr amgylchedd afon o safbwynt cynefinoedd a rhywogaethau, ac at ddirywio'r statws ecolegol o dan Reoliadau’r Amgylchedd Dŵr (Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) 2017. Bydd angen cyflwyno asesiad o'r effaith geomorffolegol gronnus ynghyd ag unrhyw gais am drwydded a fydd yn arwain at bresenoldeb addasiadau ffisegol niferus ar hyd cwrs dŵr. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd hyn yn ei gwneud yn ofynnol i'r ymgeisydd gaffael gwasanaethau ymgynghorydd geomorffoleg arbenigol. Byddwn yn eich cynghori ynghylch yr wybodaeth fydd ei hangen arnom os byddwn o’r farn fod asesiad o'r effaith gronnus yn angenrheidiol.

Gellir dod o hyd i ganllawiau manwl ar sut i wneud hyn mewn effeithiau cronnus

Diweddarwyd ddiwethaf