Croniadau dŵr â risg isel ar gyfer prosiectau Rheoli Llifogydd yn Naturiol ac adfer afonydd

Mae dau weithgaredd sy'n berthnasol i adfer prosesau afonol naturiol a chynlluniau Rheoli Llifogydd yn Naturiol lle mae’n bosibl na fyddwn yn bodloni cais am drwydded cronni dŵr:

  • Gosod (a phan fo angen sicrhau) deunydd naturiol sy’n debyg i'r hyn a geir yn naturiol yn y dalgylch (e.e. canghennau) ar draws rhan o'r sianel neu ran o arwynebedd trawsdoriadol y sianel i arallgyfeirio llifoedd
  • Adeileddau atal llifogydd goddefol o fewn y sianel sydd ond yn dal yn ôl, yn arafu llif, neu'n dargyfeirio dŵr llifogydd tra bod llifoedd canolig ac isel yn parhau i lawr yr afon mewn ffordd nad yw wedi’i newid yn fawr

Nid esemptiadau ffurfiol yw'r rhain ac felly mae angen ystyriaeth ofalus wrth ddefnyddio'r canllawiau hyn i bennu gofynion trwyddedu adnoddau dŵr ar gyfer ymyriadau yn yr afon i adfer prosesau naturiol yr afon.

Gan fod prosiectau adfer afonydd yn cael eu teilwra'n bwrpasol, gyda gwahanol safleoedd yn meddu ar wahanol nodweddion ffisegol ac amcanion prosiect (e.e. Rheoli Llifogydd yn Naturiol, arallgyfeirio llif neu leihau silt), nid yw'n bosibl nodi paramedrau manwl gywir ar gyfer pryd y gallai'r canllawiau hyn fod yn berthnasol ai peidio.  Mae angen ystyried safleoedd yn ofalus fesul achos i benderfynu a oes angen trwydded cronni dŵr.

Gwella cynefinoedd

Mae gwella cynefinoedd yn golygu gosod cerrig, boncyffion, deunydd pren, neu ddeunyddiau addas eraill ar gyfer gwella cynefinoedd ar draws rhan o led neu ran o arwynebedd trawsdoriadol y sianel.

Rhaid i chi ddefnyddio deunyddiau sydd i'w cael yn naturiol lle bydd y gwaith yn digwydd, neu ddewis amgen addas.

Rheoli Llifogydd yn Naturiol

Nod pennaf mesurau Rheoli Llifogydd yn Naturiol yw lleihau neu ohirio llifoedd llifogydd brig. Rhaid i chi wneud y canlynol:  

  • caniatáu i lifoedd canolig ac isel basio i lawr yr afon heb rwystr
  • sicrhau, lle maen nhw'n bresennol ar hyn o bryd neu lle disgwylir iddyn nhw fod, fod pysgod a llyswennod yn cael symud yn rhydd i fyny'r afon ac i lawr yr afon 
  • defnyddio deunyddiau sydd i'w cael yn naturiol lle bydd y gwaith yn digwydd, neu ddeunydd amgen addas 
  • sicrhau nad yw defnyddwyr dŵr eraill yn cael eu heffeithio arnynt mewn ffordd niweidiol

Ni ddylai'r gwaith wneud y canlynol:   

  • codi lefel y dŵr i fyny'r afon fel ei fod yn gorlifo dros y lan o dan amodau llif arferol (h.y. heb lifogydd)
  • achosi sgwrio gormodol (math o erydiad) i wely neu lannau'r cwrs dŵr a fyddai'n tanseilio'r adeiledd

Adfer mawnogydd neu wlyptiroedd

Ar gyfer prosiectau adfer mawnogydd neu wlyptiroedd pan fydd cynefinoedd yn cael eu hadfer trwy rwystro ffosydd draenio artiffisial, efallai na fydd angen trwydded cronni dŵr, ond mae angen i chi sicrhau nad oes unrhyw ddefnyddwyr dŵr i lawr yr afon a fydd yn cael eu heffeithio arnynt mewn ffordd niweidiol.

Rhwystrau o falurion prennaidd mandyllog o fewn cyrsiau dŵr

Gan ddefnyddio'r canllawiau ar Reoli Llifogydd yn Naturiol uchod, gellir defnyddio deunydd prennaidd naturiol (canghennau ysgafn yn bennaf) i greu rhwystrau mandyllog mewn lleoliadau lle nad oes unrhyw risgiau cyfagos i unigolion nac eiddo. Nid yw'r rhwystrau malurion prennaidd yn cyfyngu ar barhad y rhan fwyaf o lifoedd, cyn belled ag nad ydynt yn cael eu rhwystro gan falurion a/neu waddod. Felly, er bod y rhwystrau mandyllog hyn yn groniadau dŵr, gellir eu hystyried yn risg isel. Fodd bynnag, rhaid sicrhau bod llifoedd isel a chanolig yn gallu parhau i lawr yr afon heb eu rhwystro ac nad ydynt yn dod yn rhwystr i boblogaethau pysgod lleol, a rhaid ystyried effaith gronnus cyfres o rwystrau mandyllog.

Byddai rhaglen cynnal a chadw barhaus yn hanfodol i sicrhau nad yw'r rhwystrau malurion prennaidd yn dod yn rhwystrau parhaol sy'n atal llif parhaus i lawr yr afon neu allu pysgod i basio fel ei bod yn debygol y byddai angen trwydded cronni dŵr ar eu cyfer.

Nid yw adeileddau mwy solet sy'n defnyddio boncyffion wedi'u llifio yn hytrach na thocion a changhennau ysgafn yn dderbyniol gan eu bod yn creu croniad dŵr, yn effeithio ar lifoedd i lawr yr afon a defnyddwyr dŵr eraill, yn effeithio ar allu pysgod i basio, ac yn gallu achosi effeithiau geomorffolegol.

 

Testun amgen – Mae canghennau ysgafn a thocion wedi'u gosod yn dynn ar draws rhan o arwynebedd trawsdoriadol y cwrs dŵr i greu rhwystr ysgafn y gall dŵr lifo drwyddo ac nad yw’n rhwystro pysgod rhag pasio drwyddo.

 

Mae'r diagram uchod yn dangos sut mae rhwystrau mandyllog a grëwyd o ddeunydd pren a thocion naturiol yn caniatáu i'r llif barhau i lawr yr afon wrth wella cynefin naturiol yr afon (fel y gwelir yn y lluniau uchod), tra bod y rhai a grëwyd gan foncyffion wedi'u llifio yn creu adeiledd llawer mwy cadarn sy’n effeithio ar lifoedd, ac sydd o bosibl heb unrhyw fudd neu hyd yn oed yn cael effaith niweidiol ar yr amgylchedd. Byddai angen trwydded cronni dŵr ar gyfer yr adeiledd yn y diagram uchaf.

 

Testun amgen – Defnyddiwyd canghennau trwchus a boncyffion coed, gyda changhennau llai o docion wedi'u tynnu, i greu croniad dŵr o fewn y cwrs dŵr.  Nid yw hon yn enghraifft dderbyniol o groniad dŵr risg isel.  Nid yw'n caniatáu i lifoedd isel a chanolig barhau i lawr yr afon heb rwystr ac mae'n rhwystr i allu pysgod a llyswennod i fudo.

Adeileddau mewn ffosydd dros dro

Mae adeileddau o foncyffion solet yn fesur Rheoli Llifogydd yn Naturiol i arafu'r llif a storio dŵr dros dro mewn ffosydd dros dro (nad ydynt yn llifo drwy gydol y flwyddyn) mewn amodau llifogydd posibl – er enghraifft, mewn coedwigaeth. Wedi'u hadeiladu gan ddefnyddio boncyffion solet yn hytrach na malurion o docion pren, bydd yr adeileddau hyn yn cadw mwy o'r llif. Mewn ffos dros dro o fewn coedwig, mae'n debygol y byddai'r math hwn o adeiledd yn dderbyniol fel croniad dŵr risg isel, yn amodol ar gwblhau'r rhestr wirio.

Fodd bynnag, pe bai'r adeileddau hyn yn cael eu hadeiladu mewn cwrs dŵr parhaol, byddent yn effeithio ar lifoedd i lawr yr afon, defnyddwyr dŵr eraill a'r amgylchedd a byddai angen trwydded cronni dŵr.

Testun amgen – Adeiledd siâp pyramid o foncyffion solet wedi'u gosod yn dynn yn y ffos sych dros dro i gynnal y llif yn ystod llifogydd a digwyddiadau llif uchel.  Mae'r rhain yn creu adeiledd eithaf cadarn heb unrhyw fylchau gweladwy rhwng y boncyffion ar gyfer llif i lawr yr afon.  Byddai angen trwydded cronni dŵr ar gyfer y rhain os cânt eu defnyddio mewn cwrs dŵr parhaol.

Coed a gwympwyd i atal llifoedd llifogydd

Unig fwriad coed a gwympwyd sy'n gorwedd ar draws pen glannau cwrs dŵr yw atal llifoedd llifogydd sydd wedi llenwi’r sianel neu wedi gorlifo’r glannau. Byddai pob llif arferol o fewn y glannau yn gallu parhau heb rwystr i lawr yr afon. Nid yw'r math hwn o fesur Rheoli Llifogydd yn Naturiol yn groniad dŵr gan nad yw o fewn y sianel wlyb arferol ac ni fyddai angen trwydded gronni arno. Yn y rhan fwyaf o achosion, ni fyddai angen cwblhau'r rhestr wirio croniad dŵr risg isel.

Testun amgen – Boncyffion coed a gwympwyd â’u holl ganghennau wedi’u tynnu, wedi'u gosod yn dynn ar draws pen glannau'r cwrs dŵr i atal llif llifogydd dros y glannau heb unrhyw bren na changhennau o fewn y sianel.

Testun amgen – Coeden a gwympwyd neu sydd wedi cwympo yn gorwedd ar draws glannau'r cwrs dŵr gyda'r holl ganghennau'n gyfan.  Mae rhai o'r canghennau yn y cwrs dŵr ond gall yr holl lif barhau i lawr yr afon heb rwystr.

 

Diweddarwyd ddiwethaf