Croniadau dŵr â risg isel
Croniadau dŵr â risg isel
Ac eithrio rhai gweithgareddau esempt, yn ôl y gyfraith rhaid i chi gael trwydded cronni dŵr a chydymffurfio â hi cyn i chi ddechrau gwaith i wneud y canlynol:
- adeiladu, newid neu dynnu unrhyw waith cronni dŵr ar unrhyw gorff dŵr mewndirol
- achosi i lif unrhyw gorff dŵr mewndirol, gan gynnwys rhai llynnoedd, cronfeydd dŵr a phyllau, gael ei rwystro gan waith cronni dŵr
Mae croniad yn unrhyw adeiledd o fewn dyfroedd mewndirol a all newid lefel neu lif dŵr i fyny'r afon neu i lawr yr afon yn barhaol neu dros dro.
Mae dyfroedd mewndirol yn cynnwys unrhyw lyn neu bwll dŵr, afon, nant, neu gwrs dŵr arall, boed yn naturiol neu'n artiffisial, a boed yn llanwol ai peidio, unrhyw gronfa ddŵr neu ddoc, neu unrhyw sianel, nant, cilfach, aber, neu fraich o'r môr.
Gall croniadau dŵr gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, argaeau, coredau, llwybrau pysgod, llifddorau, llifddorau lloc, logiau atal, fflodiardau, seilwaith lefel isel / croesfannau mynediad, waliau cynnal, argloddiau cronfeydd dŵr, a dargyfeiriadau dros dro yn ystod gwaith adeiladu. Gellir adeiladu croniadau dŵr gan ddefnyddio deunyddiau o waith dyn neu naturiol.
Darganfyddwch a oes angen trwydded cronni dŵr arnoch.
Efallai y bydd gweithgareddau cronni dŵr risg isel na fydd CNC fel arfer yn cymryd camau gorfodi yn eich erbyn.
Gallwch wneud cais am drwydded cronni dŵr o hyd os byddai’n well gennych gael un. Mae'n bosibl y bydd angen i chi wneud hyn ar gyfer rhai cynlluniau achredu.
Bydd y canllawiau hyn a'r rhestr wirio yn eich helpu i benderfynu a yw eich gweithgaredd cronni dŵr yn weithgaredd risg isel.
Os ydych yn dod i’r casgliad nad oes angen i chi gyflwyno cais i ni am drwydded cronni dŵr, dylech gadw copi o'ch rhestr wirio a thystiolaeth ategol (er enghraifft, lluniau a dynnwyd cyn ac ar ôl y gwaith a mesuriadau) ar gyfer eich cofnodion. Bydd yn dystiolaeth eich bod wedi cynnal asesiad ac mae’n dogfennu eich penderfyniad nad oes angen i chi wneud cais am drwydded cronni dŵr. Mae'n bosibl y gwnawn ofyn i chi ddarparu copi i ni.
Mae'n bosibl y bydd angen i chi wneud cais am gydsyniadau neu drwyddedau eraill o hyd.
Dysgwch am drwyddedau a chaniatadau eraill.
Cyn i chi gychwyn gwaith ar adeiledd presennol, bydd angen i chi ddarganfod y canlynol:
- a oes trwydded eisoes wedi'i rhoi neu’n mynd i gael ei rhoi – gallwn eich helpu i wneud hyn
- pwy sy’n berchen ar yr adeiledd – dylech geisio’i ganiatâd i wneud y gwaith neu i gymryd trwydded drosodd sydd eisoes yn bodoli
A fydd eich gweithgarwch yn arwain at newid yn llif neu lefel y dŵr?
Bydd angen i chi ystyried sut fydd eich cynnig yn newid llif, swm neu lefel y dŵr.
Os gallai eich croniad dŵr, neu addasiadau iddo, neu dynnu croniad dŵr sy’n bodoli eisoes, achosi newid yn lefel neu swm y dŵr, neu barhad ei lif, bydd angen i chi wneud cais am drwydded cronni dŵr.
Gall croniadau dŵr, neu addasiadau i groniadau dŵr, achosi’r effeithiau canlynol:
- addasu'r llif sy'n mynd i lawr yr afon, felly gallai fod llai o ddŵr ar gael i eraill neu'r amgylchedd
- newid y patrwm o ran sut mae'r dŵr yn llifo dros adeiledd
- newid lefel y dŵr mewn afon a nodweddion ffisegol yr afon
- newid ffurf ffisegol a phrosesau erydu a dyddodi afon a'i chynefinoedd cysylltiedig
- gwneud mudo pysgod, un ai i fyny neu i lawr yr afon, yn anos, ac felly lleihau cysylltedd cynefinoedd a chydnerthedd ecolegol
Os gallai eich croniad dŵr, neu addasiadau iddo, neu dynnu croniad dŵr sy’n bodoli eisoes, achosi newid yn lefel neu swm y dŵr, neu barhad ei lif, bydd angen i chi wneud cais am drwydded cronni dŵr.
Er enghraifft, gallai adeiladu cored newydd, gweithredu hen adeileddau sydd angen unrhyw addasiadau (gan gynnwys ailadeiladu neu dynnu rhan o'r adeiledd neu’r adeiledd cyfan), neu ychwanegu adeileddau, megis tyrbinau ynni dŵr, llifddorau, llifddorau lloc a fflodiardau, achosi newid yn lefel, swm neu lif y dŵr.
Bydd mesurau Rheoli Llifogydd yn Naturiol nad ydynt yn wirioneddol “mandyllog”, ac sy'n cynnwys gosod boncyffion solet, planciau neu fyndiau yn y cwrs dŵr, yn newid y llif o fewn cwrs dŵr (sy'n cynnwys ffosydd), yn enwedig mewn perthynas â llifoedd is, ac mae'n debygol y bydd angen trwydded cronni dŵr ar eu cyfer.
Byddwch yn ymwybodol, er y gellir ystyried bod eich croniad dŵr yn risg isel ac nad oes angen trwydded cronni dŵr ar ei gyfer, os bwriedir iddo weithredu fel cyfleuster i dynnu dros 20 metr ciwbig o ddŵr bob dydd, ar ei ben ei hun neu ar y cyd â thyniad dŵr presennol, bydd angen i chi wneud cais am drwydded tynnu dŵr newydd, neu amrywio trwydded tynnu dŵr bresennol.
Darganfyddwch a oes angen trwydded tynnu dŵr arnoch.
Pysgod sy'n mudo neu'n silio
Mae gan waith yn yr afon y potensial i aflonyddu ar bysgod sy'n mudo neu'n silio, a'u hwyau a/neu bysgod ifanc, neu eu lladd. Er mwyn osgoi'r risg o dorri Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw, ni ddylai gwaith yn yr afon ddigwydd yn ystod tymor silio a mudo'r pysgod.
Cysylltwch â'r uwch-swyddogion (pysgodfeydd) yn nhimau Pobl a Lleoedd CNC i gael manylion am amseroedd y gwaith yn yr afon.
Croniadau dŵr na fyddwn yn ceisio trwydded ar eu cyfer
Gweithgareddau newydd
- llwybrau pysgod sydd wedi’u cymeradwyo’n ysgrifenedig yn ffurfiol gan Cyfoeth Naturiol Cymru ac nad ydynt yn cael effaith sylweddol ar ddosbarthiad y llif dros y gored
- gosod hollt mewn cored i hwyluso mudo pysgod
- gosod (a phan fo angen sicrhau) deunydd naturiol, sy’n debyg i'r hyn a geir yn y dalgylch (e.e. canghennau), ar draws rhan o'r sianel neu ran o arwynebedd trawsdoriadol y sianel i arallgyfeirio llifoedd – er enghraifft, mewn prosiectau adfer afonydd
- adeileddau o fewn y sianel sydd â rheolaeth benodol neu oddefol ar gyfer atal llifogydd sydd ond yn dal yn ôl, arafu llif neu ddargyfeirio dŵr llifogydd. Bydd yn ofynnol cael trwydded cronni dŵr ar gyfer adeileddau sydd â gatiau symudol neu lifddorau
- falfiau fflap sydd ond yn gweithredu yn ystod llifogydd
- adeileddau mesur bach a dros dro (h.y. dim mwy na chwe mis), megis coredau hollt siâp V neu betryal bach na fyddant yn cronni swm sylweddol o waddodion
Cynnal adeiledd sy’n bodoli eisoes
Cynnal adeiledd er mwyn gofalu amdano neu ei gadw mewn cyflwr da ond heb gynyddu dimensiynau'r adeiledd, newid dyluniad neu swyddogaeth yr adeiledd, na newid lefel neu lif y dŵr i fyny'r afon neu i lawr yr afon.
Er enghraifft:
- gwaith cynnal a chadw arferol ar lifddorau
- gwaith ailbwyntio (adeileddau o waith blociau)
- atgyweiriadau – er enghraifft, i uniadau ehangu, cerrig gosodedig neu lan/mur yr afon
- llenwi gwagleoedd (mewn adeileddau ‘solet’)
- rheoli llystyfiant
- gwaith glanhau llaid arferol o ran o'r adeiledd
- gwaith ail-leoli (cerrig, rwbel neu waith blociau mewn adeileddau diogelu glannau)
- disodli elfennau nad ydynt yn cyfrannu at ddisodliad graddol yr adeiledd cyfan
- gwaith ailwynebu
- gwaith sgimio/gorchuddio
- tynnu rhwystrau, gan gynnwys clirio sgriniau
- growtio argloddiau
Efallai y bydd angen trwyddedau a chydsyniadau eraill ar gyfer rhai o'r gweithgareddau neu fathau o waith cynnal a chadw uchod nad ydynt yn cael eu cynnal yn rheolaidd.
Gall tynnu neu amharu ar waddodion a silt achosi llygredd ac effeithio ar drawsgludo gwaddodion i lawr yr afon. Mae peri i unrhyw sylwedd llygredig fynd i mewn i gwrs dŵr, gan gynnwys silt a gwaddodion, neu ganiatáu i hynny ddigwydd yn fwriadol, yn drosedd, a gallai fod yn groes i amodau unrhyw drwyddedau a ddelir gennych.
Darllenwch fwy am lygredd wrth weithio mewn afon neu wrth ei hymyl ar wefan NetRegs
Gwaith dargyfeirio
Golyga hyn waith sy'n dargyfeirio dŵr yn yr ardal gyfagos, dros dro, yn ystod gwaith adeiladu neu gynnal a chadw adeiledd, neu weithgareddau awdurdodedig eraill yn y sianel, nad ydynt yn cael effaith ar unrhyw ddefnyddwyr dŵr neu hawliau eraill, neu'r amgylchedd.
Gweithgareddau eraill
Gall gweithgareddau eraill yr ystyrir eu bod â risg isel gynnwys y canlynol:
- unrhyw weithgaredd y tu allan i'r sianel – er enghraifft, ar frig y glannau afon, megis gosod cynheiliaid pontydd neu amddiffynfeydd rhag llifogydd, neu wneud gwaith cynnal a chadw arnynt
- gwaith yn yr afon sy'n gyfochrog a chyfagos i'r lan nad yw'n culhau'r sianel yn sylweddol – er enghraifft, gosod seilbyst llenni, rip-rap, gwaith blociau a waliau cynnal ar gyfer diogelu rhag erydu
- gosod wal troi tonnau ar argae cronfa ddŵr sy’n bodoli eisoes na fwriedir iddi gronni unrhyw ddŵr ychwanegol
- cynyddu uchder waliau ochr gorlifannau (nad ydyw'n newid lefel y dŵr a gronnir)
- addasu, symud neu adeiladu gorlifan heb gynyddu lefel y dŵr a gronnir, neu newid trefn y llif i lawr yr afon er anfantais i’r amgylchedd
Sylwer y bydd yn debygol o fod yn ofynnol meddu ar drwyddedau eraill ar gyfer yr holl weithgareddau uchod, gan gynnwys y canlynol:
Cydsyniad cwrs dŵr cyffredin gan eich awdurdod lleol
Trwydded gweithgarwch perygl llifogydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru
Cydsyniad draenio tir gan Cyfoeth Naturiol Cymru
Ynni dŵr
Rhaid i chi gael trwydded cronni dŵr ar gyfer tyrbinau sydd wedi'u gosod ar neu o fewn cored oherwydd eu bod yn addasu'r llif dros y gored yn sylweddol, yn gallu achosi risgiau sylweddol i'r amgylchedd, ac yn gallu achosi effeithiau posibl ar ddefnyddwyr dŵr eraill.
Os ydych chi'n cynnal a chadw, yn newid neu'n gosod cored i ddarparu llif i'ch tyrbin ynni dŵr, mae'n debygol y bydd angen i chi wneud cais am drwydded tynnu dŵr a/neu gronni dŵr yn dibynnu ar gynllun y safle.
Dewch o hyd i wybodaeth am y math o drwydded y gallech fod ei hangen ar ein tudalennau gwe ynni dŵr
Rhestr wirio i'ch helpu i benderfynu a yw eich croniad dŵr yn risg isel
Os byddwch chi'n ateb yn gadarnhaol i unrhyw un o'r cwestiynau, efallai y bydd yn rhaid i chi wneud cais am drwydded cronni dŵr. Os byddwch yn ateb yn negyddol i bob cwestiwn, neu'n ateb yn gadarnhaol ond yn gallu darparu tystiolaeth ategol neu gyfiawnhad pam na fydd gan eich cynnig effaith negyddol, ni fydd angen i chi wneud cais am drwydded cronni dŵr fel arfer.
Dylech gadw copi o'ch rhestr wirio a thystiolaeth ategol (er enghraifft, lluniau a dynnwyd cyn ac ar ôl y gwaith, mesuriadau, ac unrhyw gyngor arbenigol a dderbyniwyd) ar gyfer eich cofnodion eich hun.
Bydd yn dystiolaeth eich bod wedi cynnal asesiad ac mae’n dogfennu eich penderfyniad nad oes angen i chi wneud cais am drwydded cronni dŵr. Mae'n bosibl y gwnawn ofyn i chi ddarparu copi i ni.