Caniatadau eraill mae'n bosibl y bydd eu hangen arnoch ar gyfer eich tyniad neu groniad dŵr

Yn ychwanegol i drwydded tynnu dŵr a/neu gronni dŵr, mae'n bosibl y bydd angen caniatadau neu gydsyniadau eraill arnoch, yn ddibynnol ar amgylchiadau unigol, cyn y gallwch barhau gyda'ch tyniad neu groniad dŵr.

Rydym wedi darparu rhestr fer a chrynodeb o'r caniatadau eraill sydd eu hangen yn aml isod. Nid yw'r rhestr hon yn hollgynhwysol, a’ch cyfrifoldeb chi yw gwirio eich bod yn meddu ar yr holl ganiatadau sydd eu hangen ar gyfer eich gweithgaredd arfaethedig.

Caniatâd cynllunio

Mae'n bosibl y bydd angen caniatâd cynllunio arnoch cyn y gallwch barhau gyda'ch gweithgaredd arfaethedig. Argymhellwn yn gryf eich bod yn cysylltu â'ch awdurdod lleol cyn gynted â phosibl i benderfynu'r caniatâd cynllunio sydd ei angen, ac i drafod unrhyw broblemau posibl.

Trwydded Gweithgarwch Perygl Llifogydd

Ar gyfer gwaith mewn brif afon neu amddiffynfa rhag llifogydd, neu uwchben, oddi tanynt neu gyfagos iddynt (gan gynnwys amddiffynfa forol), neu o fewn gorlifdir, bydd angen i chi wneud cais am Drwydded Gweithgarwch Perygl Llifogydd (a elwir yn flaenorol yn Gydsyniad Amddiffyn rhag Llifogydd).

Darllenwch fwy ynglyn â gweithgareddau perygl llifogydd.

Trwydded Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop

Os oes gan eich cynnig y potensial i effeithio ar Rywogaeth a Warchodir gan Ewrop (yn ystod y gwaith adeiladu er enghraifft) yna mae'n bosibl y bydd arnoch angen trwydded Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop ar wahân gennym.

Darllenwch fwy ynglyn â rhywogaethau a warchodir a thrwyddedau perthnasol.

Cymeradwyaeth llwybr pysgod

Os yw eich cynnig yn cynnwys llwybr pysgod ffurfiol, er enghraifft ysgol bysgod Larinier, mae'n bosibl y bydd angen cymeradwyaeth llwybr pysgod ffurfiol arnoch.

Darllenwch fwy ynglŷn â llwybrau pysgod a chael cymeradwyaeth.

Trwydded amgylcheddol ar gyfer gollyngiadau i ddŵr wyneb neu ddŵr daear

Os ydych eisiau gollwng dŵr neu elifiant i ddŵr wyneb neu ddŵr daear, mae'n bosibl y bydd angen trwydded arnoch i awdurdodi'r gollyngiad.

Darllenwch fwy ynglyn â thrwyddedau gollwng dŵr

Deddf Cronfeydd Dŵr

Mae'n rhaid i gyforgronfeydd dŵr sydd â chapasiti o 10,000 metr ciwbig neu fwy uwchben lefel y tir fod wedi'u cofrestru gyda ni.

Os yw eich cronfa ddŵr yn gallu dal 10,000 metr ciwbig neu fwy, yna bydd Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 yn berthnasol a bydd angen gweithdrefn cynllunio ac adeiladu arbenigol.

Gallwch ddefnyddio peiriannydd y Panel Holl Gronfeydd Dŵr i gynnal unrhyw weithgareddau cronfa ddŵr sydd angen peiriannydd sifil cymwysedig, gan gynnwys adeiladu, goruchwylio ac archwilio.

Mae rhestr o beirianwyr panel ar wefan Gov.uk.

Am fwy o wybodaeth, gweler ein gwefan neu cysylltwch â:

Tîm Diogelwch Cronfeydd Dŵr: reservoirs@naturalresourceswales.gov.uk.

Diweddarwyd ddiwethaf