Gwasanaeth cyngor cyn gwneud cais ar gyfer trwyddedau tynnu a chronni dŵr

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn darparu gwasanaeth cyngor personol i'ch cynorthwyo gyda'r broses ymgeisio ac i’ch helpu i ddeall gofynion cyfreithiol wrth gynnal gweithgareddau penodol.

Rydym yn cynnig cyngor rhad ac am ddim ar:

  • argaeledd dŵr
  • gofynion llif annibynnol
  • cadarnhad o'r math o drwydded sydd ei hangen
  • meintiau sgrin pysgod/llyswennod sydd eu hangen
  • cadarnhad o ofynion llwybrau pysgod/llyswennod (gan gynnwys nodi'r math ond heb gynnwys
    adolygu cynlluniau)

Rhoddir unrhyw gyngor dilynol ar gyfradd o £125 yr awr yn ogystal â TAW. 

Nid yw’r gwasanaeth yn orfodol, ac mae ffynonellau eraill o gyngor, gan gynnwys cwmnïau ymgynghori yn y sector preifat, cyhoeddus neu academaidd, ar gael.

Sut i gael mynediad at y gwasanaeth

Er mwyn gofyn am ein gwasanaeth cyn gwneud cais, cwblhewch y ffurflen ar-lein i ofyn am adnoddau dŵr cyn gwneud cais.


Ar ôl i chi gyflwyno'r ffurflen gofyn am gyngor, bydd cyswllt yn cael ei neilltuo ar eich cyfer i drafod eich gweithgaredd arfaethedig.

Yr hyn y gallwch chi ei ddisgwyl oddi wrth y gwasanaeth cyngor cyn gwneud cais

Gallwn ddarparu cyngor ar eich gweithgaredd a safle penodol, i'ch helpu i wneud y canlynol:

  • deall a oes arnoch angen unrhyw ganiatadau (trwyddedau, awdurdodiadau ac ati) gennym ar gyfer eich gweithgaredd
  • paratoi cais neu gyflwyniad o ansawdd ar gyfer y caniatadau sydd eu hangen

Ni fyddwn yn darparu unrhyw gyngor neu wasanaeth a allai 'ragderfynu' neu ragfarnu penderfyniad cais cyn y caiff ei gyflwyno. Golygai hyn na allwn wneud y canlynol:

  • paratoi adroddiadau ar gyfer ymgeiswyr, neu
  • gynnal cyn-asesiadau o wybodaeth a ddylai ffurfio rhan o'r cais ffurfiol

Mae'n rhaid gwneud hyn fel rhan o'r penderfyniad technegol ar y cais. Gallwn ond penderfynu ar gais unwaith ein bod yn fodlon fod yr holl wybodaeth angenrheidiol wedi'i chyflwyno, ac ein bod yn derbyn y cais yn ffurfiol.

A oes rhaid i chi ddilyn y cyngor a ddarperir?

Diben ein gwasanaeth cyngor cyn gwneud cais yw rhoi cyngor yn unig.

Nid yw cyflwyno cais yn seiliedig ar ein cyngor yn gwarantu y bydd trwydded neu awdurdodiad yn cael ei gymeradwyo.

Ni allwn gymryd cyfrifoldeb dros benderfyniadau a wneir gan gyrff eraill a fydd â ffactorau eraill i'w hystyried ynghyd â'n cyngor.

Cewch wybod a oes angen trwydded arnoch i dynnu dŵr

 

Diweddarwyd ddiwethaf