Os nad oes modd cofrestru eich gollyngiad carthion domestig fel esemptiad, byddwch angen Trwydded Amgylcheddol.

Beth yw carthion domestig?

Mae carthion domestig yn cynnwys dŵr gwastraff sy’n deillio o’r canlynol:

  • toiledau
  • ymolchi, cawodydd a baddonau
  • golchi dillad yr aelwyd gan ddefnyddio glanedyddion domestig
  • coginio gartref ar gyfer teulu a chyfeillion
  • coginio masnachol lle gwerthir y bwyd yn uniongyrchol i gwsmeriaid, megis bwyty neu stondin frechdanau – pan gaiff y bwyd ei fwyta ar y safle ac oddi ar y safle
  • golchi llestri ac offer coginio, ar raddfa y gellir ei chymharu â choginio domestig, ar ôl eu defnyddio ar y safle
  • pyllau nofio mewn cartrefi a gwestai lle cânt eu darparu’n rhad ac am ddim i’r preswylwyr a phan gaiff yr elifion eu trin a’u gollwng gydag elifion carthion domestig eraill

Ni chaiff elifion o ffynonellau eraill eu hystyried yn garthion domestig, er enghraifft:

  • toiledau cemegol – ar safleoedd preswyl neu safleoedd masnachol
  • golchi eitemau penodol ar safleoedd masnachol, sef eitemau a gludir yno o rywle arall – er enghraifft golchdai sydd ar agor i bobl nad ydynt yn breswylwyr, golchdai ar y stryd fawr, tai golchi canolog ar gyfer cadwynau gwestai
  • coginio masnachol – prosesu bwyd neu goginio a phecynnu bwyd i’w werthu oddi ar y safle
  • pyllau nofio’r cyngor neu byllau nofio masnachol

A ydych mewn ardal sydd â charthffos?

Cyn gwneud cais am drwydded, rhaid ichi wirio nad ydych mewn ardal sydd â charthffos gyhoeddus. Dim ond pan fo hi’n anymarferol cysylltu â charthffos gyhoeddus y caniateir trin carthion domestig yn breifat.

I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein tudalen we ‘Trin carthion yn breifat mewn ardal sydd â charthffos gyhoeddus’.

Gwneud cais am Drwydded Amgylcheddol i waredu carthion domestig

Os yw’r gollyngiad ar gyfer:

  • llai na 15 o fetrau ciwbig y dydd (15,000 litr) i’r ddaear trwy faes draenio
  • llai nag 20 o fetrau ciwbig y dydd i ddŵr wyneb

bydd angen ichi lenwi ein ffurflen gais B6.5 ar-lein.


Os yw’r gollyngiad ar gyfer mwy na 15 o fetrau ciwbig y dydd (15,000 litr) i’r ddaear neu ar gyfer mwy nag 20 o fetrau ciwbig y dydd i ddŵr wyneb, bydd angen ichi lenwi ein ffurflen gais B6 ar-lein. 


Os byddwch angen cyngor cyn ichi wneud cais am drwydded, defnyddiwch ein gwasanaeth cyngor cyn ymgeisio.

Ffioedd a thaliadau

Ffioedd ymgeisio

Bydd angen ichi dalu ffi ymgeisio ar gyfer y Drwydded Amgylcheddol hon. Bydd y ffi yn amrywio yn ôl faint o elifion y byddwch yn eu gollwng ac i ble y byddwch yn eu gollwng.

Os byddwch yn gollwng i ddŵr wyneb (hynny yw, i afonydd, ffosydd, llynnoedd, pyllau, camlesi ac aberoedd neu i’r môr), mae’r ffioedd ymgeisio fel a ganlyn:

  • Gollyngiadau sy’n llai na 5000 litr (5 o fetrau ciwbig) y dydd - £3,731
  • Gollyngiadau rhwng 5000 ac 20,000 litr (5 i 20 o fetrau ciwbig) y dydd  - £4,094
  • Gollyngiadau o 20,000 litr (20 o fetrau ciwbig) neu fwy y dydd - £5,778

Os byddwch yn gollwng i’r ddaear (hynny yw, i gae draenio neu i system ymdreiddio), mae’r ffioedd ymgeisio fel a ganlyn:

  • Gollyngiadau sy’n llai na 5000 litr (5 o fetrau ciwbig) y dydd - £3,478
  • Gollyngiadau rhwng 5000 a 15,000 litr (5 i 15 o fetrau ciwbig) y dydd - £4,293
  • Gollyngiadau o 15,000 litr (15 o fetrau ciwbig) neu fwy y dydd - £5,778

Ffi ar gyfer Asesiadau Cynefinoedd

Os byddwch yn gollwng ger safle cynefin Ewropeaidd cydnabyddedig, bydd angen inni gynnal Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd wrth asesu eich cais am drwydded. Bydd angen talu ffi ychwanegol am hyn, sef £2,817.

I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â phryd mae angen cynnal yr asesiadau hyn, gweler ein tudalen we ‘Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar gyfer eich Trwydded Amgylcheddol’.

Canfod a ydych wrth ymyl ardal warchodedig

Ffi ar gyfer Asesiadau Risg Amgylcheddol

Os bydd yr elifion a ollyngwch i ddŵr wyneb yn cynnwys cemegau ac elfennau peryglus, efallai y bydd yn rhaid inni gynnal Asesiad Risg Amgylcheddol wrth asesu eich cais am drwydded. Bydd angen talu ffi ychwanegol am hyn, sef £2,817.

I gael rhagor o wybodaeth am y cemegau a’r elfennau peryglus hyn a phryd mae angen cynnal yr asesiadau, gweler ein tudalen we ‘Asesiadau Risg Amgylcheddol ar gyfer gollyngiadau dŵr’.

Ceisiadau na ellir bwrw ymlaen â nhw oherwydd manylion annigonol

Os byddwn yn dychwelyd eich cais gan na chyflwynwyd digon o fanylion, ac os na allwn felly fynd y tu hwnt i’r cam ‘derbyniwyd y cais’, byddwn yn cadw 10% o’r ffi ymgeisio. Dim ond ar ôl rhoi cyfle ichi gyflwyno’r wybodaeth goll y byddwn yn dychwelyd unrhyw gais. 

Os penderfynwch dynnu eich cais am drwydded yn ôl

Os penderfynwch dynnu eich cais am drwydded yn ôl ar ôl inni ei dderbyn, byddwn yn cadw 100% o’r ffi ymgeisio. Os penderfynwch dynnu eich cais yn ôl cyn inni fynd ymhellach na’r cam ‘derbyniwyd y cais’, byddwn yn cadw 10% o’r ffi ymgeisio. 

Ffi flynyddol

Bydd angen ichi dalu tâl blynyddol parhaus ar gyfer gollyngiadau dros bum metr ciwbig y dydd i dalu am ein costau o ran cynnal ac adolygu eich trwydded, gan sicrhau eich bod yn cydymffurfio ag amodau’r drwydded a chan fonitro’r corff dŵr rydych yn gollwng iddo.

Cewch ragor o wybodaeth am ffioedd a thaliadau yn ein cynllun codi tâl am drwyddedau amgylcheddol.

Diweddarwyd ddiwethaf