Datblygu system rheoli’r amgylchedd ar gyfer gollwng hyd at 20 metr ciwbig o elifion carthion y dydd

Os oes gennych drwydded i ollwng hyd at 20 metr ciwbig o elifion carthion y dydd i ddŵr daear neu ddŵr wyneb, gallwch ddefnyddio’r strwythur canlynol ar gyfer eich system reoli. Fe’i cynlluniwyd i’ch helpu i gwrdd â gofynion amodau eich trwydded. 

Bydd angen ei addasu i weddu’ch safle gan na fydd rhai rhannau’n berthnasol i’ch gweithrediadau ac efallai y bydd angen i chi wneud rhai ychwanegiadau.

Os rhennir y system trin carthion gydag eraill (er enghraifft, tai amlfeddiannaeth), rydych i gyd yn gyfrifol am weithrediad cywir y system, ond dim ond un system reoli y bydd ei angen arnoch. 

Y mae angen i’ch system reoli fod yn gyfatebol – efallai na fydd angen hyfforddiant penodol ar ddeiliad tŷ sydd â gwaith bach yn gwasanaethu ei dŷ ei hun, ond rhaid iddo fod yn ymwybodol o’i gyfrifoldebau a gofynion y drwydded.

Mae angen i berchennog a/neu staff gwaith trin carthion sy’n gwasanaethu gwesty, tafarn neu wersyll fod wedi’u hyfforddi’n ddigonol a’u bod yn gymwys i redeg y gwaith.

Math o waith trin carthion

Rhaid i’ch system reoli gofnodi’r wybodaeth ganlynol am y gwaith trin carthion

  • math – er enghraifft, gwaith trin carthion neu danc carthion
  • gwneuthuriad
  • model
  • dyddiad gosod
  • pwy osododd y gwaith?
  • cynhwysedd

Paratoi cynllun isadeiledd eich safle

Rhaid i’ch system reoli gynnwys cynllun o’ch safle wedi’i dynnu i raddfa. Rhaid iddi ddangos: 

  • eich gwaith trin dŵr gwastraff
  • pwyntiau monitro – y lleoliadau lle byddwch yn cymryd samplau i wirio am halogyddion neu sylweddau llygredig fel sy’n ofynnol yn eich trwydded
  • lleoliad yr offer brys
  • lleoliad unrhyw fesurau lliniaru y cyfeirir atynt yn eich system reoli
  • yr ollyngfa i ddŵr wyneb (gollyngiadau dŵr arunig yn unig)
  • y system ymdreiddiad (gweithgareddau dŵr daear arunig yn unig)

Cynlluniau a chofnodion cynnal a chadw

Mae angen cynllun sy’n nodi sut y byddwch yn cadw isadeiledd eich system trin carthion.  

Rhaid cynnal a chadw unrhyw beiriannau yn unol ag argymhellion y gwneuthurwr neu’r cyflenwr (er enghraifft, gan ddilyn cyfarwyddiadau a chanllawiau unrhyw lawlyfrau a ddaeth gyda’ch offer). 

Bydd angen i chi gofnodi bob tro y byddwch yn gwneud gwaith cynnal a chadw. Os oes gennych gytundeb trin a chynnal a chadw, rhaid i’r contractiwr fod wedi’i hyfforddi ac yn gymwys i gynnal a chadw eich system trin carthion benodol.  

Os oes gennych gytundeb ar waith, rhaid cadw copi ohono gyda’r system rheoli amgylcheddol ynghyd â chofnod o unrhyw waith sydd wedi’i wneud.

Cynlluniau monitro a chofnodion

Dylech fonitro’r system trin carthion a’r mannau gollwng yn rheolaidd. Ar gyfer gollyngiadau carthion, rydym yn argymell i chi wneud y canlynol: 

  • gwirio a yw’r gwaith trin carthion yn gweithio’n effeithiol, er enghraifft dim synau anarferol, arogleuon ac yn y blaen. Os nad yw’n gweithio’n iawn, rhaid i chi gysylltu â chontractiwr sydd â’r cymwysterau priodol i ymchwilio i achos y broblem a’i datrys.
  • sicrhau bod y man samplu yn hygyrch ar bob amser. Os nad yw’n hawdd ei gyrraedd, sicrhewch fod mynediad at y system yn cael ei adfer.
  • dylech gael gwared ar y slwtsh o leiaf unwaith y flwyddyn neu ar amlder sydd wedi’i bennu gan y gwneuthurwr.
  • os yw eich gollyngiad yn mynd i mewn i’r ddaear, gwirio’r man lle mae’r systemau ymdreiddio’n rhedeg am unrhyw effeithiau niweidiol, e.e. elifion carthion ar wyneb y ddaear.
  • os yw eich gollyngiad yn mynd i mewn i gwrs dŵr, gwirio’r man gollwng am unrhyw effeithiau niweidiol ar y dŵr ei hun, gwely’r cwrs dŵr, neu unrhyw blanhigion neu anifeiliaid yn y cwrs dŵr. Ystyr effaith niweidiol weladwy yw pysgod meirw neu mewn gofid, anifeiliaid neu blanhigion eraill yng nghyffiniau’r man gollwng, dyddodion amlwg o ddeunydd solet, tyfiant ffyngau carthion (tyfiant llwyd yn gorchuddio creigiau neu wrthrychau eraill yn y dŵr), neu afliwiad amlwg o lif y dŵr gan y gollyngiad.

Os ydych yn gweld unrhyw effeithiau niweidiol, rhaid i chi gysylltu â chontractiwr cymwysedig i ymchwilio i’r broblem a’i chywiro.

Gofynion hyfforddi

Mae angen i’ch system reoli ddangos pwy sy’n gyfrifol am ba weithdrefnau a phwy sy’n dechnegol gymwys.

Mae angen i chi ddeall beth mae’ch gwaith trin carthion wedi’i gynllunio i’w wneud, beth yw ei derfynau, a’r cyfyngiadau ar ei ddefnydd (er enghraifft, cemegion a allai ei atal rhag gweithio’n iawn). 

Rhaid i unrhyw un sy’n archwilio, cynnal a chadw neu drwsio’r system fod wedi’i hyfforddi’n ddigonol ac yn gymwys i wneud hynny.  

Os ydych chi’n grŵp o eiddo preswyl domestig gyda thrwydded i ollwng elifion carthion drwy system ymdreiddio i ddŵr daear, yna ddylech ddynodi un person o’r grŵp i feddu â’r wybodaeth briodol.

Os oes gennych gontract gyda gwneuthurwr neu gwmni gwasanaethu i gynnal a chadw eich gwaith trin, bydd angen i chi gofnodi hyn. Ni fyddem yn disgwyl i chi wneud hyfforddiant ffurfiol, ond dylech fod yn ymwybodol o’ch cyfrifoldebau a sut i wneud y gwiriadau angenrheidiol.

Os ydych yn rheoli sefydliad mwy, bydd angen i chi a/neu’ch staff ddangos eich bod wedi’ch hyfforddi i lefel ddigonol yn y sgiliau angenrheidiol, er y gallwch gyflogi contractiwr i ymgymryd â llawer o dasgau hefyd. 

Cofnodi cwynion

Mae angen gweithdrefn arnoch sy’n cofnodi:

  • unrhyw gwynion rydych yn eu derbyn mewn perthynas â gweithgareddau a gwmpesir gan eich trwydded (er enghraifft, cwynion gan gymdogion am sŵn, aroglau neu lwch o’ch safle)
  • sut ydych yn ymchwilio i’r cwynion hynny
  • unrhyw gamau a gymerwyd o ganlyniad i’r cwynion

Gellir ei defnyddio fel tystiolaeth eich bod wedi cymryd camau priodol i unioni unrhyw faterion os yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn derbyn cwynion am eich safle.

Cynllun rheoli damweiniau

Mae angen cynllun arnoch i ddelio ag unrhyw ddigwyddiadau a allai arwain at lygredd.

Rhaid i’r cynllun ddangos damweiniau posibl, er enghraifft offer yn methu, cau gorfodol, tân, fandaliaeth, llifogydd, neu unrhyw ddigwyddiad arall sy’n achosi newid annisgwyl i weithrediadau arferol, megis tywydd gwael. 

Ar gyfer pob digwyddiad posibl, rhaid nodi’r canlynol:

  • tebygolrwydd y bydd y ddamwain yn digwydd
  • goblygiadau’r ddamwain
  • mesurau y byddwch yn eu cymryd i osgoi’r ddamwain rhag digwydd
  • mesurau y byddwch yn eu cymryd i leihau’r effaith os yw’r ddamwain yn digwydd

Yn ogystal, rhaid i’ch cynllun damweiniau nodi sut y byddwch yn cofnodi damweiniau neu achosion o dorri amodau’ch trwydded ac ymchwilio ac ymateb iddynt.

Yn ogystal, rhaid i’ch cynllun damweiniau gynnwys:

  • y dyddiad y cafodd ei adolygu
  • pryd y bydd yn cael ei adolygu nesaf
  • rhestr cysylltiadau brys a sut i gysylltu â nhw
  • ffurflenni i gofnodi damweiniau

Ystyriwch wneud y canlynol os ydych yn meddwl eu bod yn berthnasol i’r gweithrediadau ar eich safle:

  • rhoi gwybod i’r gwasanaethau brys am eich gweithgareddau
  • trefnu yswiriant i dalu am gost glanhau yn dilyn damwain
  • gwirio p’un a ydych mewn ardal lle mae perygl llifogydd a chofrestrwch ar gyfer rhybuddion llifogydd
  • datblygu system i ganiatáu mynediad at wybodaeth bwysig i ffwrdd o’ch safle

Yn olaf, sicrhewch fod pawb ar y safle yn gwybod am y cynllun, ble i ddod o hyd iddo, a’r hyn y mae’n ei gynnwys. Mae’n bwysig eu bod yn gwybod sut i atal damweiniau a beth i’w wneud os yw damwain yn digwydd.

Atal damweiniau a beth i’w wneud os byddant yn digwydd

Gweler isod am bethau a allai mynd o chwith a niweidio’r amgylchedd a beth i’w wneud os byddant yn digwydd. Dylech wirio a allwch nodi unrhyw beth arall yn benodol i’ch safle a allai achosi problem. Os gallwch wneud hynny, gallwch ei ychwanegu at y rhestr. 

Gorlwytho’r gwaith trin carthion / tanc carthion o ganlyniad i waith/tanc o faint annigonol yn cael ei osod

Ataliad:

  • Os oes unrhyw newidiadau yn mynd i gael eu gwneud i’r eiddo, sicrhewch fod y gwaith trin carthion / tanc carthion dal yn ddigon mawr.

Camau adfer:

  • Dilynwch eich gweithdrefn ymateb i ollyngiad. Mae’n disgrifio beth i’w wneud pe bai gollyngiad a lle mae’r pecyn gorlif yn cael ei gadw. 

Gollyngiadau wrth gael gwared ar slwtsh yn y cyfleuster

Ataliad:

  • Sicrhewch fod y pibellau wedi’u profi cyn eu defnyddio a sicrhewch fod y gweithiwr yn arsylwi ar y broses gwaredu slwtsh.            

Camau adfer:

  • Dilynwch eich gweithdrefn ymateb i ollyngiadau. Mae’n disgrifio beth i’w wneud pe bai gollyngiad a lle mae’r pecyn gorlif yn cael ei gadw.

Hylifau yn diferu’n araf o’r gwaith trin carthion / tanc carthion

Ataliad:

  • Gall diferion araf fod yn llai amlwg na gollyngiadau. Bydd cyfanrwydd y gwaith trin carthion / tanc carthion yn cael ei brofi. Bydd y gwaith trin carthion / tanc carthion yn cael ei gynnal yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr.

Camau adfer:

  • Dilynwch eich gweithdrefn ymateb i ollyngiadau. Mae’n disgrifio beth i’w wneud pe bai gollyngiad a lle mae’r pecyn gorlif yn cael ei gadw.

Gollyngiadau carthion heb eu trin, oherwydd pibellau diffygiol, falfiau, gorwasgu, rhwystrau, methiant pwmp, tywydd gwael ac yn y blaen

Ataliad:

  • Arolygu gweledol a chwblhau cofnod rhestr wirio arolygu wythnosol. Trefn cynnal a chadw ataliol. Bydd unrhyw bibellau a thanciau tanddaearol yn cael eu profi.

Camau adfer:

  • Dilynwch eich gweithdrefn ymateb i ollyngiadau. Mae’n disgrifio beth i’w wneud pe bai gollyngiad a lle mae’r pecyn gorlif yn cael ei gadw.

System garthffosiaeth yn stopio gweithio oherwydd llifddwr o gwrs dŵr yn dod i mewn iddi, dŵr o ddraeniau wedi’u blocio, neu’r prif gyflenwad yn byrstio o ganlyniad i ddŵr daear yn codi 

Ataliad:

  • Sicrhewch na all dŵr wyneb / llifddwr fynd i mewn i’r gwaith trin carthion. 

Camau adfer:

  • Gweithdrefn llifogydd sy’n disgrifio beth i’w wneud os bydd rhybudd llifogydd megis gosod ymylon bondo, defnyddio bagiau tywod.

System trin carthion yn stopio gweithio oherwydd methiant y cyflenwad trydan

Ataliad:

  • Darparu larwm ar y gwaith trin i rybuddio gweithredwyr o fethiant y cyflenwad trydan.  
  • Darparu generadur wrth gefn pe bai angen trydan cyson ar y gwaith er mwyn sicrhau triniaeth ddigonol.

Camau adfer:

  • Gweithdrefn methiant cyflenwi cyfleustodau sy'n disgrifio beth i'w wneud os bydd gwasanaethau cyflenwi’n methu megis dechrau generadur brys.

Systemau carthffosiaeth yn gollwng carthion amrwd oherwydd methiant i’w cyfyngu sydd wedi’i achosi gan symudiad tir, trawiad, erydu ac yn y blaen  

Ataliad:

  • Darparu cynhwysyddion eilaidd ar gyfer hylifau peryglus.
  • Archwilio cyfleusterau cynhwysyddion cynradd ac eilradd.          

Camau adfer:

  • Dilynwch eich gweithdrefn ymateb i ollyngiadau.

Mynediad heb awdurdod ac ymyrryd neu ddifrod maleisus i'r system trin carthion a'r offer           

Ataliad:

  • Diogelu’r gwaith trin carthion / tanc carthion.

Camau adfer:

  • Dilynwch eich gweithdrefn ymateb i ollyngiadau.
Diweddarwyd ddiwethaf