Canlyniadau ar gyfer "flood"
-
27 Gorff 2021
Cyflwyno Cais Cynllunio ar gyfer cynllun llifogydd LlyswyryMae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cyflwyno cynlluniau i Gyngor Dinas Casnewydd, ar gyfer cynllun newydd i amddiffyn rhag llifogydd ar hyd Afon Wysg yn Llyswyry, Casnewydd.
-
09 Tach 2021
Cymeradwyo cais cynllunio ar gyfer cynllun llifogydd LlyswyryMae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi derbyn caniatâd cynllunio ar gyfer cynllun llifogydd ar hyd yr Afon Wysg yn Llyswyry gan Gyngor Dinas Casnewydd.
-
04 Gorff 2022
Sesiwn galw heibio ar waith amddiffyn rhag llifogydd ym MhwllheliMae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn archwilio opsiynau i sicrhau rheolaeth fwy effeithiol ar y perygl llifogydd hirdymor o afonydd a'r môr i Bwllheli a'r cymunedau cyfagos.
-
17 Ion 2023
Ymgynghoriad fel rhan o waith rheoli perygl llifogydd ym MhorthmadogMae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cynnal dau ddigwyddiad ymgynghori gydag aelodau’r cyhoedd i rannu canfyddiadau model llifogydd wedi'i ddiweddaru ar gyfer Porthmadog a’r cyffiniau.
-
01 Tach 2023
Sesiwn galw heibio ar waith amddiffyn rhag llifogydd ym MhwllheliMae sesiwn galw heibio cyhoeddus yn cael ei chynnal i roi diweddariad ar opsiynau i reoli perygl llifogydd hirdymor i Bwllheli a’r cymunedau cyfagos yn fwy effeithiol.
-
21 Gorff 2021
CNC yn lansio gwasanaeth Gwirio Eich Perygl Llifogydd newyddMae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi lansio gwasanaeth gwe newydd sy'n darparu gwybodaeth am berygl llifogydd gan ddefnyddio cod post, ynghyd â gwelliannau i'r ffordd y gall cwsmeriaid gael gafael ar wybodaeth am berygl llifogydd o'i gwefan.
-
13 Rhag 2021
Cartrefi Cymru yn cael eu hannog i wybod beth yw eu risg llifogydd wrth i aeaf gwlyb gael ei ragweldMae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn annog pobl ledled Cymru i wirio’u risg llifogydd ar-lein, cofrestru ar gyfer rhybuddion llifogydd ac, os ydyn nhw mewn perygl, gwybod beth i'w wneud os bydd llifogydd yn taro eu cartref yn sgil rhagweld bod gaeaf gwlyb o'n blaenau. Daw'r alwad i weithredu wrth i'r Swyddfa Dywydd ragweld siawns uwch na'r cyffredin y bydd y gaeaf yn wlypach na'r arfer, gyda'r amodau gwlypach yn fwyaf tebygol ym mis Ionawr a mis Chwefror.
-
14 Gorff 2023
Cwblhau gwaith yn golygu bod amddiffynfeydd llifogydd Llanfair Talhaiarn wedi’u cryfhauGall Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) gadarnhau fod gallu cymuned yn y Gogledd i wrthsefyll peryglon llifogydd wedi’i gryfhau yn dilyn gwaith a gwblhawyd yn ddiweddar i wella asedau rheoli llifogydd lleol.
-
16 Ion 2024
Adroddiad yn datgelu bod angen buddsoddiad mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd er mwyn ymateb i newid yn yr hinsawddBydd ymateb i newid yn yr hinsawdd a lleihau'r perygl o lifogydd yn y dyfodol i gymunedau ledled Cymru yn gofyn am fuddsoddiad cynyddol a pharhaus mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd - ond ni fydd yn economaidd amddiffyn pob lleoliad sydd mewn perygl.
-
12 Chwef 2024
Mae CNC yn rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd cynllun llifogydd gwerth £21 miliwn yng NghasnewyddFlwyddyn ers i'r gwaith adeiladu ar gynllun rheoli perygl llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) gwerth £21 miliwn yng Nghasnewydd ddechrau, mae'r prosiect a gynlluniwyd i leihau'r perygl o lifogydd i 2,000 eiddo yn mynd yn ei flaen yn dda.
-
19 Maw 2021
"Camau beiddgar" yn erbyn perygl llifogydd yw unig ddewis Cymru CNC yn croesawu buddsoddiad Llywodraeth Cymru i amddiffyn rhag llifogyddCymryd camau beiddgar yn y dull o reoli perygl llifogydd yw unig ddewis Cymru, meddai Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) heddiw (17 Mawrth) wrth i gorff yr amgylchedd groesawu ymrwymiad ariannol Llywodraeth Cymru i gryfhau amddiffynfeydd llifogydd ac amddiffynfeydd arfordirol y genedl.
-
13 Medi 2024
Camau gorfodi yn lleihau perygl llifogydd yng Ngogledd-orllewin CymruMae camau gorfodi gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) mewn perthynas â gwaith a wnaed heb ganiatâd yng ngogledd-orllewin Cymru wedi helpu i leihau perygl llifogydd ac wedi cyfyngu ar y potensial am effeithiau andwyol ar yr amgylchedd.
-
01 Chwef 2021
Cynllun amddiffyn rhag llifogydd wedi’i gwblhau yng Nghasnewydd a fydd yn diogelu 600 o gartrefiMae’r gwaith adeiladu wedi dod i ben ar gynllun amddiffyn rhag llifogydd gwerth £14 miliwn yng Nghasnewydd, gan ddiogelu mwy na 660 o gartrefi rhag y perygl cynyddol o lifogydd.
-
09 Ion 2023
Gwaith adeiladu i gychwyn ar gyfer cynllun llifogydd Llyswyry yng NghasnewyddDisgwylir i waith adeiladu ddechrau ym mis Chwefror eleni ar gynllun newydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i amddiffyn rhag llifogydd ar hyd Afon Wysg yn Llyswyry.
-
25 Ebr 2023
CNC yn croesawu ymrwymiad i fuddsoddi mewn perygl llifogydd yng Nghymru yn y dyfodolCafodd ymrwymiadau i fuddsoddi mewn rheoli perygl llifogydd cynyddol Cymru yn wyneb yr argyfwng hinsawdd eu croesawu gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) heddiw (25 Ebrill).