Codi Pryder Difrifol Er Budd y Cyhoedd

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i roi gwybod am achos lle mae sefydliad wedi camymddwyn. Mae hyn fel arfer yn rhywbeth ydych chi wedi'i weld yn y gwaith.

Cwynion y gellir eu gwneud fel pryder difrifol er lles y cyhoedd

Os ydych yn gweithio i sefydliad arall, ac  nad ydych eisiau rhoi gwybod i’ch cyflogwr eich hun am eich pryder, gallwch roi gwybod i ni amdano.

Mae’n rhaid i unrhyw gamweddau yr ydych yn eu datgelu fod er lles y cyhoedd. Golyga hynny fod yn rhaid iddynt effeithio ar eraill, er enghraifft y cyhoedd.

Rydych yn cael eich diogelu gan y gyfraith os ydych yn rhoi gwybod am unrhyw un o’r canlynol:

  • trosedd, er enghraifft twyll
  • achos lle mae’r cwmni’n torri’r gyfraith
  • camweinyddu cyfiawnder
  • sefyllfa lle mae iechyd neu ddiogelwch rhywun mewn perygl
  • difrod i’r amgylchedd
  • ymddygiad amhriodol neu anfoesol
  • os credwch fod rhywun yn cuddio camwedd

Gellir cael cyngor cyfrinachol gan Protect

Cwynion nad ydynt yn cyfrif fel pryder difrifol er lles y cyhoedd

Nid yw cwynion personol (bwlio, aflonyddu, gwahaniaethu) yn dod o dan gyfraith chwythu’r chwiban, oni bai fod hynny er budd y cyhoedd.

Dylech wneud y canlynol:

  • Darllen polisi cwynion eich sefydliad neu cysylltwch â chynrychiolydd Undeb Llafur.
  • Siarad â’ch cyflogwr os oes gennych bryderon am eich telerau ac amodau neu ynglŷn ag unrhyw faterion sy’n effeithio ar eich cyflogaeth.
  • Cysylltu â’r  Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas)i gael cymorth a chyngor ar ddatrys anghydfod yn y gweithle.

Rhowch wybod i ni am eich pryder

Mae pob gweithiwr yn cael ei ddiogelu gan y gyfraith rhag cael ei ddiswyddo neu ei gosbi gan ei gyflogwyr am leisio pryder difrifol er lles y cyhoedd neu am ‘chwythu’r chwiban’.

Gellir lleisio pryder am gamymarfer a ddigwyddodd:

  • yn y gorffennol
  • am rywbeth sy’n digwydd nawr,
  • rywbeth y credwch y bydd yn digwydd yn y dyfodol agos

Dylech allu dangos fod sail resymol dros eich pryder a dylech gynnwys cymaint o dystiolaeth ategol ag sydd bosibl.

Efallai y byddwch hefyd yn ei chael yn haws lleisio pryder ar y cyd os oes dau neu fwy ohonoch yn rhannu’r un pryder.

Rhowch wybod ar-lein


Rhowch wybod ar y ffôn

Gallwch leisio eich pryder gyda ni gan ddefnyddio ein llinell gymorth digwyddiadau ar 0300 065 3000. Mae’n bosib gwneud hynny 24 awr y diwrnod.

Os ydych yn dymuno lleisio eich pryder yn ddienw, gwrthodwch roi eich manylion pan ofynnir amdanynt. Fodd bynnag, os bydd y pryder yn cael ei leisio yn ddienw, ni fydd yn bosibl rhoi canlyniad unrhyw ymchwiliad a fydd yn digwydd ichi ac efallai y bydd yn ei gwneud yn fwy anodd i ymchwilio i’r pryder. 

Ysgrifennwch atom ni

Dylech amlinellu’r canlynol:

  • natur, cefndir a’r hanes y tu ôl i’ch pryder, gan ddarparu unrhyw enwau, dyddiadau, amseroedd, lleoliadau perthnasol, yr hyn a ddywedwyd, a’r hyn a welsoch
  • y rheswm a/neu sail eich pryder
  • enw unrhyw unigolion yr amheuir eu bod wedi camymddwyn
  • i ba raddau yr ydych chi’n bersonol wedi bod yn dyst neu wedi gweld y broblem
  • unrhyw dystiolaeth ddogfennol sydd ar gael.

Dylech allu dangos fod sail resymol dros eich pryder a dylech gynnwys cymaint o dystiolaeth ategol ag sydd bosibl.

Efallai y byddwch hefyd yn ei chael yn haws mynegi pryder ar y cyd os oes dau neu fwy ohonoch yn rhannu’r un pryder.

Ysgrifennwch at:

Pennaeth Llywodraethu a Phennaeth Archwilio Mewnol
Cyfoeth Naturiol Cymru
Tŷ Cambria,
29 Heol Casnewydd,
Caerdydd,
CF24 0TP

Beth sy’n digwydd nesaf

Byddwn yn cysylltu â chi o fewn 10 diwrnod gwaith i gydnabod eich pryder.

Bydd rhywun yn cysylltu â chi cyn gynted ag sy’n rhesymol bosibl i drafod eich pryder. Mae’n bosibl i chi gael cynrychiolydd neu gydweithiwr Undeb Llafur yn bresennol mewn unrhyw gyfweliadau.

Allwn ni ddim dweud yn union faint o amser fydd yr ymchwiliad yn ei gymryd. Er hynny bydd y swyddog ymchwilio yn sicrhau fod hyn yn digwydd cyn gynted ag sydd bosibl heb effeithio ar yr ymchwiliad. Byddwch yn cael gwybod am y cynnydd ac yn cael crynodeb ysgrifenedig o’r canlyniad.

Cyfrinachedd

Rydym yn trin pob adroddiad yn gyfrinachol ac yn gwneud pob ymdrech i ddiogelu eich hunaniaeth.

Mewn rhai achosion efallai y bydd angen i chi ddarparu datganiad, neu efallai y bydd rhwymedigaeth gyfreithiol i ddatgelu pwy yw’r datgelwr. Os bydd hyn yn digwydd, byddwn yn gwneud pob ymdrech i roi gwybod i chi ymlaen llaw ac i’ch diogelu rhag unrhyw erledigaeth neu aflonyddu.

Os byddwch yn rhoi gwybod am eich pryderon yn gyhoeddus cyn eu hadrodd (er enghraifft, i’r cyfryngau neu ar y cyfryngau cymdeithasol), yn y rhan fwyaf o achosion byddwch yn colli eich hawliau i gael eich amddiffyn o dan y gyfraith.

Diweddarwyd ddiwethaf